Digwyddiadau Taith

 

Dim ond nodyn i’ch atgoffa bod cwpl o ddigwyddiadau Taith i chi eu mynychu cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Llwybr 1 ar yr 16eg o Fawrth.

Cynhelir y digwyddiadau nesaf ar ddydd Mawrth y 7fed a dydd Iau y 9fed o Fawrth ac maent yn sesiynau cwestiwn ac ateb:

Os hoffech drafod eich syniadau ar gyfer cais gyda’r Corff Trefnu Sector ar gyfer Ieuenctid, cysylltwch â Chydlynydd Taith Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru Vicky Court vickycourt@wcia.org.uk

Sesiwn Holi ac Ateb Llwybr 1 (cliciwch ar y dyddiadau i’w cysylltu â’r dudalen gofrestru):

Fel arfer, croesewir cwestiynau a sylwadau yn Gymraeg neu Saesneg ym mhob digwyddiad, dim ond disgrifio ym mha iaith y cynhelir y digwyddiad y mae’r iaith mewn cromfachau.

Gallwch ddod o hyd i restr o adnoddau a gasglwyd mewn un lle ar ein gwefan yma:
https://www.cwvys.org.uk/resources/?lang=cy

DIWRNOD CYSWLLT ELUSENNOL YMDDIRIEDOLAETH CRANFIELD

I aelodau CWVYS ac elusennau eraill yng Nghymru!

Gweler yr atodiadau hyn a’r neges ymhellach isod gan Jayne Kendall yn Ymddiriedolaeth Cranfield.

Taflen A4 Diwrnod Cyswllt Cranfield

Bywgraffiadau staff Cranfield

Maent yn cynnal diwrnod Cyswllt Elusennol ar yr 2il o Fawrth.
Bydd hwn yn ddiwrnod cyfan o gyngor arbenigol AM DDIM i elusennau.

Cofrestrwch a threfnwch apwyntiad os oes gennych chi neu’ch sefydliad unrhyw gyngor yr ydych yn chwilio amdano.

Gyda’r pwysau cynyddol ac uniongyrchol y mae elusennau yn ei wynebu yn yr hinsawdd bresennol rydym yn cynnig diwrnod llawn o gyngor arbenigol AM DDIM i elusennau gael mynediad at y cymorth personol sydd ei angen arnynt yn ystod apwyntiad ffôn penodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau llosg i’n tîm o wirfoddolwyr cofrestrwch hefyd!

Dyddiad: Dydd Iau 2 Mawrth 2023

Amser: Apwyntiadau ar gael 9am – 5pm

Ar y diwrnod pwrpasol hwn, gall elusennau drefnu slot amser ar gyfer apwyntiad ffôn personol gydag un o’n Gwirfoddolwyr arbenigol neu Reolwyr Rhanbarthol i helpu i fynd i’r afael â pha bynnag her uniongyrchol y gallent fod yn ei hwynebu. Bydd apwyntiadau ar gael trwy gydol y dydd ond yn gyfyngedig felly peidiwch ag oedi!

Mae archebu’n gyflym ac yn hawdd – cwblhewch ein ffurflen ar-lein ac fe wnawn ni’r gweddill!

Gyda beth allwn ni helpu?

Mae pob cwestiwn yn wahanol a gallwn helpu gyda llawer o bethau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Cynllunio ariannol a strategaeth
Llywodraethu
Ansolfedd
Arweinyddiaeth
Rheoli newid
Strategaeth a chynnwys digidol
Torri costau
Cyfeirio

 

Neu, yn syml, gallwn ddarparu seinfwrdd ar gyfer pa bynnag her y gall elusennau ei hwynebu.

Dymuniadau gorau

Jayne Kendall

Rheolwr Rhanbarthol Cymru

 

75 mlynedd o CWVYS!

Roedd 2022 yn nodi 75 mlynedd ers sefydlu Cyngor Cymraeg y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol  (CWVYS).

Yn ystod y flwyddyn gofynnwyd i gyfeillion CWVYS, staff blaenorol, Ymddiriedolwyr a Llywyddion y gorffennol a’r presennol a fyddent yn fodlon rhannu eu hatgofion o CWVYS dros y blynyddoedd.

Ein gobaith oedd cynnwys y rhain mewn dogfen yn amlinellu hanes CWVYS ochr yn ochr â gwybodaeth am ddyddiadau allweddol a datblygiadau yn y sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Bu llawer o bobl yn garedig iawn yn rhannu eu myfyrdodau a’u hatgofion gyda ni, a chawsom y fraint o allu rhannu’r rhain a llunio amserlen 75 mlynedd o CWVYS.

Heddiw rydym yn falch iawn i rannu llyfryn dwyieithog sy’n ymdrin â CWVYS o 1947 i 2022! Gobeithiwn y bydd ein haelodau a’n cydweithwyr yn y sector ieuenctid yn ei weld mor diddorol a ni:

75 mlynedd o CWVYS DWYIEITHOG

Dros yr wythnossau nesaf byddwn yn cynnwys cyfraniadau unigol pobl yn llawn, ar ein gwefan o dan y tab Hanes.

Safonau Diogelu Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru

Cafodd is-grŵp Diogelu CWVYS gyflwyniad llawn gwybodaeth gan Hannah Williams (Rheolwr Gwella a Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru – CChC).

Mae’r ddogfen hon yn rhoi amlinelliad o’r Safonau Diogelu Cenedlaethol: Cyflwyniad Lansio Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol Dwyieithog (002) CS (002)

Yn ychwanegol:

Bydd CChC yn ymchwilio i ba mor ddigonol yw’r hyfforddiant sydd ar gael i’r trydydd sector ac yn nodi unrhyw gynlluniau sydd ganddynt i helpu i gefnogi hyn. Os oes gan unrhyw un ymholiadau penodol, gallant eu cyfeirio at safeguardingstandards@socialcare.wales

 

Mae e-ddysgu mynediad agored Grŵp A ar gael yma https://learning.nhs.wales/course/view.php?id=368 ac mae CChC ar hyn o bryd yn gweithio ar allforio hwn i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

 

Bydd y fframwaith hyfforddi yn cael ei lansio ddiwedd y gwanwyn. Bydd hwn yn amlinellu amcanion dysgu yn erbyn pob grŵp ynghyd â chanllawiau ar sgiliau a phrofiad hyfforddwyr sy’n cyflwyno’r dysgu. Mae sefydliadau yn dal i allu cyflwyno hyfforddiant yn fewnol ac yn aml gall hyn fod yn ffordd wych o addasu dysgu pwrpasol i natur y gwasanaethau a ddarperir.

Dyma ddolen i’r dudalen we sy’n cynnwys llawer o wybodaeth am y safonau newydd: Safonau hyfforddiant, dysgu diogelu | Gofal Cymdeithasol Cymru

Gan ddefnyddio’r ddolen hon, crynodeb Grwpiau | Gofal Cymdeithasol Cymru ar frig y dudalen mae opsiwn i weld y grwpiau mewn tabl. Mae hwn yn adnodd defnyddiol i helpu sefydliadau i ystyried pa grŵp o hyfforddiant y gallai gwahanol rolau ffitio iddo. Mae hefyd yn bwysig cofio mai ychydig sydd wedi newid o ran cynnwys hyfforddiant diogelu, bydd rhai datblygiadau yn adeiladu ar y dystiolaeth ddiweddaraf ond bydd llawer o’r cynnwys hyfforddi presennol sydd o safon dda yn gallu cael ei ddynodi’n adnoddau dysgu. ar gyfer y grŵp perthnasol. Bydd y fframwaith hyfforddi sy’n nodi’r amcanion dysgu ar gyfer pob grŵp yn gwneud hyn yn llawer cliriach a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ddiwedd y gwanwyn.

SWYDD GYDA CWVYS: SWYDDOG CYFATHREBU

SWYDDOG CYFATHREBU (DROS GYFNOD MAMOLAETH) (DWYIEITHOG: CYMRAEG/SAESNEG) 2023/24

 

Oriau gwaith:                                     24 yr wythnos

Hyd y cytundeb:                                1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024                                               

Cyflog:                                                £26,845 pro rata (£17,413 gwirioneddol)

Yn atebol i:                                        Prif Weithredwr CWVYS

Man Gweithio:                                   Gweithio gartref/hyblyg (mae’r swyddfa ym Mae Caerdydd)

Dymuna CWVYS recriwtio Swyddog Cyfathrebu rhan-amser, i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth deiliad presennol y swydd.

Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion cyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Efallai y bydd disgwyl i chi ymweld a’n Swyddfa ym Mae Caerdydd o bryd i’w gilydd ond swydd gweithio o gartref yw hon ac mae’r dewis o ddiwrnodau gwaith (Llun – Gwener) yn hyblyg.

 

Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk

Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

 

Y dyddiad/amser cau i dderbyn ceisiadau yw 10.00am ar 10 Chwefror 2023.

Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.

Diolch o flaen llaw am eich diddordeb.

Taith Llwybr 1 ar agor heddiw!

Mae Taith Llwybr 1 ar agor eto ar gyfer ceisiadau! https://www.taith.cymru/newyddion/mae-llwybr-1-yn-yn-ol-ar-gyfer-2023/

 

I gefnogi ail-agor galwad ariannu Llwybr 1 mae tîm Taith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein i gefnogi a hysbysu darpar ymgeiswyr. Gallwch ddod o hyd i ddyddiadau ac amseroedd isod a bydd clicio ar y dolenni yn mynd â chi i’r dudalen gofrestru.

 

Cyflwyniad i Lwybr 1:

 

Dydd Mawrth 24 Ionawr 2023 12:30-13:30 (Cymraeg)

Dydd Mercher 25 Ionawr 2023 16:00-17:00 (Saesneg)

Dydd Iau 26 Ionawr 2023 12:30-13:30 (Saesneg)

 

 

Cwblhau Ffurflen Gais Llwybr 1 2023:

 

Dydd Llun 6 Chwefror 2023 16:00-17:00 (Saesneg)

Dydd Mawrth 07 Chwefror 2023 12:30-13:30 (Cymraeg)

Dydd Iau 09 Chwefror 2023 12:30-13:30 (Saesneg)

 

 

Cwblhau Offeryn Cyfrifo Pathway 1 2023:

 

Dydd Mercher 15 Chwefror 2023 16:00-17:00 (Saesneg)

Dydd Iau 16 Chwefror 2023 12:30-13:30 (Saesneg)

Dydd Iau 16 Chwefror 2023 16:00-17:00 (Cymraeg)

 

Sesiwn Holi ac Ateb Llwybr 1:

 

Dydd Mawrth 07 Mawrth 2023 12:30-13:30 (Saesneg)

Dydd Iau 09 Mawrth 2023 16:00-17:00 (Saesneg)

 

Fel arfer, croesewir cwestiynau a sylwadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg ym mhob digwyddiad, dim ond disgrifio’r iaith y cynhelir digwyddiad ynddo y mae’r iaith mewn cromfachau.

 

Hyd y digwyddiadau

Tua 60 munud

 

Gallwch ddod o hyd i restr o adnoddau a gasglwyd mewn un lle ar ein gwefan a byddwn yn ei diweddaru wrth i’r rownd ariannu hon ddatblygu:

https://www.cwvys.org.uk/resources/?lang=cy

Bydd Llwybr 1 yn cau i geisiadau ar yr 16eg o Fawrth.

 

Os oes gennych unrhyw cwestiynnau yn y cyfamser, mae croeso i chi ofyn fi, Paul@cwvys.org.uk  neu kari@bgc.wales neu vickycourt@wcia.org.uk

 

Er eich diddordeb, dyma dolen i cyfweliad bach neis gan Nia o’r Urdd am y daith Seland Newydd (wedi’i ariannu gan Taith) ar raglen Aled Hughes, mae’r cyfweliad yn dechrau tua’r 15.00: https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m001h3ch

“Grant Ymgysylltu Democrataidd” y Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Is-adran Etholiadau Llywodraeth Cymru yn ddiweddar eu bod yn bwriadu sefydlu cynllun grant i gefnogi gweithgareddau sy’n ymwneud â gwella ymgysylltiad democrataidd ledled Cymru.

Yr wythnos hon roedd y tîm yn falch o ddatgelu bod ceisiadau bellach yn cael eu croesawu gan sefydliadau am arian o’r “Grant Ymgysylltu Democrataidd”.

Rhennir ceisiadau rhwng y rhai sy’n gwneud cais am gyllid o dan £1000 a’r rhai sy’n gwneud cais am gyllid dros £1000.

Isod gallwch ddod o hyd i’r ddolen i’r wefan sy’n cynnwys yr holl wybodaeth ychwanegol. Sylwch fod y canllawiau ar gyfer y grant wedi’u cynnwys yn y ffurflenni cais.

Y grant ymgysylltu â democratiaeth | LLYW.CYMRU

Llinell amser a rhagor o wybodaeth

  • Ionawr 2023: y ffenestr i wneud cais am y grant yn agor.
  • Chwefror 2023: y ffenestr wreiddiol i wneud cais am y grant yn cau.
  • Chwefror 2023: llythyrau canlyniadau’n cael eu hanfon at gynigwyr.
  • Chwefror a Mawrth 2023: llythyrau dyfarnu’r grant yn cael eu hanfon.

Cyfle secondiad: Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Cyfle secondiad: Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid – Deddfwriaeth a Gweithio Rhanbarthol

Yma gallwch ddod o hyd i hysbyseb am gyfle secondiad i ymuno â Changen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru: 10. Senior Youth Work Strategy Manager – Legislation and Regional Working – Secondment – Cymraeg

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canolbwyntio ar waith sy’n ymwneud â chryfhau neu sefydlu sail ddeddfwriaethol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru a ffrydiau gwaith cysylltiedig.

Dylid anfon datganiadau o ddiddordeb at dyfan.evans@llyw.cymru erbyn canol dydd, dydd Mercher 25 Ionawr 2023.

Mae croeso i unigolion gysylltu â Dyfan os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn.

Swydd Wag gyda CWVYS: SWYDDOG CYFATHREBU

SWYDDOG CYFATHREBU (DROS GYFNOD MAMOLAETH) (DWYIEITHOG: CYMRAEG/SAESNEG) 2023/24

 

Oriau gwaith:                                     24 yr wythnos

Hyd y cytundeb:                                1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024                                               

Cyflog:                                                £26,845 pro rata (£17,413 gwirioneddol)

Yn atebol i:                                        Prif Weithredwr CWVYS

Man Gweithio:                                   Gweithio gartref/hyblyg (mae’r swyddfa ym Mae Caerdydd)

 

Dymuna CWVYS recriwtio Swyddog Cyfathrebu rhan-amser, i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth deiliad presennol y swydd.

Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion cyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

 

Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk

Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

 

Y dyddiad/amser cau i dderbyn ceisiadau yw 10.00am ar 20 Ionawr 2023.

Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.

Diolch o flaen llaw am eich diddordeb.

Pwyllgor Pobl Ifanc Gwaith Ieuenctid.

Isod gallwch ddod o hyd i neges fer gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â gwahoddiad i Dendro.

Bydd cyfle i gydlynu a rheoli Pwyllgor Pobl Ifanc Gwaith Ieuenctid.

ITQ – Young Persons Comittee – 2023 CYM

ITQ – Young Persons Committee – Standard Conditions of Service_CYM

Gweler y dolenni uchod am Wahoddiad i Dendro i gydlynu a rheoli Pwyllgor Pobl Ifanc Gwaith Ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan sefydliadau unigol neu gonsortia.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cyfeiriwch nhw at y blwch post gwaithieuenctid@llyw.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 1pm ddydd Llun, 16 Ionawr 2023.

Datganiad ac Ymgynghoriad; cynigion i ychwanegu at gategorïau ar gyfer cofrestru gyda CGA

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad heddiw ar yr ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth ddrafft ar gynigion i ychwanegu categorïau cofrestru ar gyfer y rhai y mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir cael mynediad i’r datganiad a’r dogfennau ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad blaenorol mewn perthynas â’r cynigion yn gysylltiedig â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich mewnbwn parhaus i’r gwaith hwn a byddwn yn parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ar y newidiadau arfaethedig. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ar y newidiadau arfaethedig i gofrestru gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid at gwaithieuenctid@llyw.cymru

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 17 Chwefror 2023.

Digwyddiadau Taith Llwybr 1

Mae Taith yn cynnal sesiynnau Rhagarweiniol i Lwybr 1 cyn i’r alwad ariannu nesaf agor ym mis Ionawr 2023.

Os hoffech ymuno i glywed mwy am y broses ymgeisio a gofyn unrhyw gwestiynau, bydd dwy sesiwn yr wythnos nesaf:

 

14eg Rhagfyr 4-5pm

16 Rhagfyr 12.30-1.30pm

 

I fynychu unrhyw un o’r rhain cofrestrwch trwy’r dolenni uchod. Os hoffech chi gael gwybod mwy am Taith Llwybr 1 edrychwch ar ein tudalen adnoddau; https://www.cwvys.org.uk/resources/?lang=cy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â Taith trwy ymholiadau@taith.cymru