Mae Addysg Oedolion Cymru yn recriwtio!

Mae Tîm Cymuned Ieuenctid a Gwaith Chwarae Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales yn recriwtio ar gyfer Tiwtoriaid Cysylltiol Rhan Amser i ddysgu ar Gymwysterau Gweithiwr Cymorth Ieuenctid. Maent yn darparu’r cymwysterau hyn i weithwyr ieuenctid ledled Cymru. Mae llawer o ddiddordeb yn eu cyrsiau ac felly rydym angen ehangu eu cronfa o diwtoriaid rhan amser.

I wneud cais bydd angen i chi fod yn Weithiwr Ieuenctid gyda Chymhwyster Proffesiynol hyd Lefel 6 a bod â Chymhwyster Addysgu ar Lefel 3 o leiaf. Ar gyfartaledd, mae eu tiwtoriaid yn dysgu 1 cwrs y tymor yn ychwanegol at eu prif swydd mewn gwaith ieuenctid. Mae mwy o gyfleoedd dysgu yn opsiwn hefyd.

Mae holl ddeunyddiau’r cwrs wedi’u hysgrifennu a’u cymeradwyo. Bydd angen i chi gynllunio’ch darpariaeth ac asesu’r dysgu. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â Thîm Tiwtoriaid y Gymuned Ieuenctid a Gwaith Chwarae ynghyd a thiwtoriaid Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales. Cewch gefnogaeth i fynychu cyfarfodydd tiwtor Cymuned Ieuenctid a Gwaith Chwarae tymhorol a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol.

Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y pecyn cais hwn. Neu os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch â recruitment@adultlearning.wales

Datganiad diweddara y Llywodraeth Cymru ar cyfyngiadau COVID19

Dyma ddatganiad ysgrifenedig diweddara Llywodraeth Cymru ar lacio cyfyngiadau COVID

https://llyw.cymru/llacio-cyfyngiadau-covid-19-yng-nghymru-yn-gynt?_ga=2.230102869.815046516.1617956224-1207488457.1611216949

Deallwn fydd Cymru yn symud tuag ar at Lefel Rhybudd 3 ar Fai 17eg – gweler https://llyw.cymru/symud-cymru-i-lefel-rhybudd-3-y-prif-weinidog-yn-nodir-cynlluniau-ar-gyfer-llacio-cyfyngiadau-covid

Mae CWVYS yn parhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru yr hyn mae ein haelodau yn dweud wrthym am y cyfyngiadau yn nghyd-destun gwaith ieuenctid.

Rydym yn aros am ddyddiad pan fydd yr arweiniad diwygiedig o ganllawiau COVID19 gwaith ieuenctid yn cael ei rhyddhau

Unwaith derbyniwn wybodaeth bellach, byddwn yn ei rannu gyda chi

Gwefan COVID19 Llywodraeth Cymru – https://llyw.cymru/coronafeirws?_ga=2.259617475.815046516.1617956224-1207488457.1611216949

Diolch – catrin@cwvys.org.uk