Mae’r CWVYS eisiau i bawb sydd yn gweithio gyda phobl ifanc i gael mynediad i gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad addas

Wrth fod yn aelod o’r CWVYS rydych yn gallu cael mynediad i hyfforddiant a datblygiad sy’n gweddu eich sefydliad, gwirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr. Mae’r CWVYS yn gallu’ch cyfeirio at gyfleoedd hyfforddiant yng Nghymru a rhannu cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad gyda’i aelodau.

Mae hyfforddiant CWVYS yn bwriadu datblygu datblygiad proffesiynol a gallu gwirfoddolwr a staff i drosglwyddo safonau gwaith ieuenctid diogel, effeithiol a chyson er budd pobl ifanc yng Nghymru.

Cymwysterau gwaith ieuenctid

Mae gwaith ieuenctid yn broffesiwn arbennig gyda fframwaith cymwysterau ei hun sydd â pharedd gyda dysgu a gwaith cymdeithasol.

Y Cyd Bwyllgor Trafod (JNC) Gweithwyr Ieuenctid a Chymuned ydy’r corff sydd yn gosod y fframwaith cenedlaethol sydd yn cael ei ddefnyddio i raddio a thalu swyddi gwaith ieuenctid. Mae’r pwyllgor hefyd yn cydnabod cymwysterau gweithwyr ieuenctid a chymunedol sydd wedi cael ei gymeradwyo yn broffesiynol gan Bwyllgor Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS) Cymru. Mae rhestr o’r holl gyrsiau maen ETS Cymru yn ei gefnogi ar gael ar eu gwefan.

Mae ennill cymhwyster sydd yn cael ei gefnogi neu ei ddilysu gan ETS Cymru a’i adnabod gan y JNC yn sicrhau ei fod yn addas i bwrpas ac yn datblygu gweithwyr ieuenctid i gyrraedd anghenion pobl ifanc.

Gall achrediadau gychwyn gyda Rhaglen Ymsefydlu’r CWVYS ‘Cam Tuag at Waith Ieuenctid’. Mae Coleg Cymunedol YMCA Cymru yn gallu darparu gwybodaeth bellach am lwybrau dilyniant gwaith ieuenctid.

Pwyllgor Hyfforddiant CWVYS

Mae Pwyllgor Hyfforddiant CWVYS yn grŵp cynrychiadol o sefydliadau sy’n aelodau o’r CWVYS.

Ei nod yw:

‘Siapio hyfforddiant i Wasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru’

Amcanion y Pwyllgor Hyfforddiant

  • I ddarparu fforwm i drafod datblygiad hyfforddiant a materion yn ymwneud â datblygiad y gweithlu yn y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru
  • I chwilio, datblygu a chynghori ar gyfleoedd newydd i ddatblygu’r gweithlu
  • I godi ymwybyddiaeth o hyfforddiant a datblygiad y gweithlu a chreu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad gwell o’r effaith mae’n ei gael ar Gymru ar y cyfan
  • I fonitro materion allanol yn ymwneud â phroffil ac enw da
  • I sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau yn cael eu hysbysebu gan y maes
  • I ddarparu fforwm ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru

Os hoffech chi gymryd rhan yn y Pwyllgor Hyfforddiant, fel aelod arferol neu i rannu gwybodaeth am eich gwaith, yna cysylltwch.

Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid

Rhwng 2009-2011 cafodd y CWVYS ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymchwilio a chyhoeddi Llawlyfrau Methodoleg Gwaith Ieuenctid neu ganllawiau ymarfer gorau i weithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Hwylusodd y CWVYS y gwaith yma wrth ddod â sefydliadau ieuenctid gwirfoddol a gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol at ei gilydd.

Gweithwyr Ieuenctid mewn Ysgolion

Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid

yth tanyard 1

Cyfnweidiadau Ieuenctid

Pobl Ifanc gydag Anableddau

Gwaith Ieuenctid a’r Gymraeg

Gwirfoddoli

Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang

Menter Gymdeithasol

Darpariaeth Breswyl ac Awyr Agored

yth tanyard 2

Cynllunio a Gwerthuso

Partneriaethau – Cydweithio

Darpariaeth Ieuenctid Symudol

Llawlyfr Gwybodaeth

Iechyd a Lles

Canolfannau Ieuenctid Addas i’w Diben

Cydraddoldeb

Galluogi Cyfranogiad

youth 3

Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig ac Allanol

Achrediad

Llwybrau Dysgu 14-19