Gwyliwch o’r cartref – Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid – Llif byw – CWVYS
Yn cydnabod ymarfer Gwaith Ieuenctid Eithriadol yng Nghymru
LLYWODRAETH CYMRU – Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid | LLYW.CYMRU
Ar 22 Chwefror 2024 bydd seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2023 yn cael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno. Dyma binacl calendr Gwaith Ieuenctid yng Nghymru fydd yn anrhydeddu cyfraniadau gwaith ieuenctid eithriadol ledled y wlad. Bydd y seremoni, a gyflwynir gan Mirain Iwerydd (S4C, BBC Radio Cymru), yn dathlu ymroddiad ac effaith unigolion a sefydliadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ifanc yng Nghymru.
Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn fenter gan Lywodraeth Cymru er mwyn cydnabod a dathlu ymarfer gwaith ieuenctid eithriadol yng Nghymru. Mae’n gyfle i gydnabod y rôl amrywiol a hanfodol y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae yn ein cymunedau; meithrin twf a chefnogi lles pobl ifanc. Bydd y digwyddiad yn hyrwyddo rhagoriaeth, arloesedd ac amrywiaeth o fewn y sector gwaith ieuenctid, gan dynnu sylw at dalent ac ymroddiad eithriadol gweithwyr ieuenctid ledled Cymru.Nod y gwobrau yw hyrwyddo rhagoriaeth, arloesedd ac amrywiaeth yn y sector gwaith ieuenctid, gan dynnu sylw at gyfraniadau amhrisiadwy y rhai yn y sector wrth lunio dyfodol pobl ifanc.
Mae seremoni’r Gwobrau yn argoeli i fod yn achlysur cofiadwy, gan arddangos talent ac ymroddiad eithriadol gweithwyr ieuenctid ledled Cymru. Bydd y digwyddiad yn rhoi llwyfan i ddathlu eu cyflawniadau ac ysbrydoli eraill i barhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.
Maer rhestr fer y teilyngwyr Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2023 wedi cael ei chyhoeddi’r wythnos hon ar gyfrif X (Twitter gynt) @IeuenctidCymru, Instagram: @cwvys_cymru, Facebook: @GwaithIeuenctidCymru rhwng 5.12.23 a 15.12.23
Mae seremoni ac enillwyr y llynedd ar gael yn – Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid | LLYW.CYMRU
Edrychwch ar y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022 – 2022 Youth Work Excellence Awards | Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid, Youth Work in Wales | Gwaith Ieuenctid Cymru – YouTube
Enillwyr 2023
Partneriaeth Leol: Her Voice Wales
Partneriaeth ranbarthol neu genedlaethol: Urdd Gobaith Cymru
Arloesi Digidol: Crewyr Cynnwys Caerdydd
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Peer Action Collective Cymru
Arloesedd yn y Gymraeg: Gisda
Seren y Dyfodol: Dominique Drummond NYAS Cymru
Gwaith Gwirfoddolwr Eithriadol: Molly Fenton
Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol: Kelly Powell, YMCA Abertawe
Arweinyddiaeth: Jo Sims o CBS Blaenau Gwent