Polisi Gwaith Ieuenctid

Y berthynas wirfoddol rhwng pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid sydd yn rhoi cymeriad unigryw a nodedig i waith ieuenctid.

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru yn hawl cyffredinol, yn agored i bob person ifanc o fewn yr oedran penodol 11-25.

Mae’r ddogfen Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid (2012) yn nodi mai prif bwrpas gwaith ieuenctid yw:

‘galluogi pobl ifanc i ddatblygu mewn ffordd gyfannol, yn gweithio gyda nhw i hybu eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, i’w galluogi i feithrin eu llais, dylanwad a lleoliad mewn cymdeithas ac i gyrraedd eu potensial llawn.’

Darperir gwaith ieuenctid trwy’r sectorau gwirfoddol a’r awdurdodau lleol a thrwy amryw leoliadau a dulliau gwaith ieuenctid.

Beth yw gwaith ieuenctid?

Mae gwaith ieuenctid addysgol da, sydd ddim yn ffurfiol, yn darparu ymyriadau gweithredol i bob person ifanc gyda’r pwrpas o gynhyrchu amgylcheddau dysgu a datblygu i bobl ifanc. Gall gwaith ieuenctid chwarae rhan bwysig yn cyfarparu a helpu pobl ifanc i lwyddo yn eu haddysg ffurfiol. 

Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd dysgu sydd yn addysgol, yn fynegiannol, yn gyfranogol, yn gynhwysol ac yn rymusol.

Mae fersiwn newydd llyfryn ‘Gwaith ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ bellach ar gael. Cynhyrchwyd y ddogfen hon ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr mudiadau ieuenctid, gwleidyddion, aelodau a swyddogion etholedig awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid a gweithwyr cefnogaeth ieuenctid.

Mae hefyd wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc, y sawl sydd eisoes yn ymwneud â mudiadau ieuenctid a’r sawl sy’n dymuno darganfod mwy am y mathau o brofiadau y gall mudiadau ieuenctid eu darparu.

Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru

Mae gwaith ieuenctid efo rhan bwysig iawn i chwarae yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu pawb i gyrraedd eu potensial. Mae hefyd yn taclo tlodi, yn lleihau anghydraddoldeb, yn cynyddu lefelau cyrhaeddiad addysg a chyflogaeth, gwella lles economeg a chymdeithasol, cyfeirio at iechyd ac anghydraddoldebau eraill a chynyddu cyfranogiad pobl ifanc mewn cymdeithas.

Bwriad strategaeth gwaith ieuenctid ar gyfer Cymru ydy i roi cyfeiriad i’r rhai sydd yn cynllunio ac yn trosgludo darpariaeth gwaith ieuenctid. Mae’n cefnogi gweledigaeth Ymestyn Hawliau i godi safon ein disgwyliadau â’n dyheadau i bob person ifanc, a chau’r bwlch rhwng y rhai mwyaf a lleiaf breintiedig.

Wrth weithredu’r strategaeth yma disgwylir bod partneriaid cyflenwi ledled Cymru yn datblygu gwaith ieuenctid mwy cyson ac o ansawdd uchel i bobl ifanc, yn caniatáu i sefydliadau gwaith ieuenctid i weithredu fel partneriaid gwerthfawr a strategol. I gyflawni hyn mae angen adnabod proffesiynoliaeth ac effaith gweithwyr ieuenctid o fewn y system addysgiadol ehangach, ac i adnabod eu gwasanaethau a’u harbenigedd ac i ddefnyddio hyn yn effeithiol i helpu trosglwyddo’r canlyniadau gorau bosib i bobl ifanc.

Cyfranogiad

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymrwymiad plant a phobl ifanc mewn gwneud penderfyniadau am faterion sydd yn cael effaith ar eu bywydau. Mae hyn yn seiliedig ar egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion

Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru yn seiliedig yn bennaf ar berthynas gwirfoddol rhwng pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid. Mae Gwasanaeth Ieuenctid yn hawl cyffredinol, yn agored i holl bobl ifanc o’r oedran penodol 11-25.

Mae GWAITH IEUENCTID YNG NGHYMRU EGWYDDORION A DIBENION wedi cael ei gynhyrchu gan gynrychiolwyr o’r sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol ac awdurdodau lleol yng Nghymru.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

Yng Nghymru, mae ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc, 2011’ yn cryfhau ac yn adeiladu ar ddull seiliedig ar hawliau Llywodraeth Cymru o greu polisi i blant a phobl ifanc yng Nghymru. O 1 Mai 2012 i 30 Ebrill 2014, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw priodol o’r hawliau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth wneud penderfyniadau ar bolisïau neu ddeddfwriaeth newydd arfaethedig neu am adolygu neu newid polisïau presennol.

Yna, o’r 1 Mai 2014, mae angen i Weinidogion Cymru roi sylw priodol i’r hawliau yn y CCUHP pan fyddant yn defnyddio’u pwerau neu ddyletswyddau cyfreithiol.

Gall ddarganfod manylion pellach yma.

Cynrychiolaeth Strategol

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector

Er mwyn gweithio’n effeithiol gyda’r Trydydd Sector, sefydlwyd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn 2007, yn dilyn o Gyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol, yn 2000.

Mae’r Cyngor yn cael ei gadeirio gan y Is-Gweinidog a’r Prif Chwip, ac mae’n cynnwys dau ddeg pump o aelodau, wedi’u penodi o’r Trydydd Sector, yn cynrychioli meysydd o ddiddordeb strategol penodol.

Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn:

  • hwyluso ymgynghoriad gyda sefydliadau Trydydd Sector a chyrff sector cyhoeddus perthnasol ynghylch gweithredu’r Cynllun, ei redeg a’i adolygu
  • ystyried materion sy’n berthnasol i swyddogaethau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, sy’n effeithio ar y Trydydd Sector, neu sy’n destun pryder iddo. Mae hefyd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

 

Cyd-gadeirir y Cyd-Grŵp Strategol ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Cyd-gadeirir y Cyd-Grŵp Strategol ar gyfer Gwaith Ieuenctid gan CWVYS a Grŵp ‘Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru’ (PYOG). Mae’r Grŵp yn darparu ar gyfer dull cyd-sector, mae Ymddiriedolwyr CWVYS a’r PYOG yn ei fynychu ac mae’n bodoli i:

• Hyrwyddo gwaith ieuenctid fel partner cryf a dylanwadol yng nghyd-destun gwasanaethau i bobl ifanc yng Nghymru
• Bod yn gyfrifol am barhau i ddatblygu, hyrwyddo a gweithredu gwaith ieuenctid yng Nghymru trwy weithredu fel cyswllt unedig a chydlynol rhwng yr awdurdod lleol a’r sectorau gwirfoddol
• Hyrwyddo a dylanwadu ar ddatblygiad ac arfer parhaus gwaith ieuenctid fel proffesiwn
• Bod yn gyfrifol am barhau i ddatblygu, lledaenu a gweithredu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion