Hyfforddiant a Chydnabyddiaeth

Credai’r CWVYS bod pawb sydd yn gweithio gyda phobl ifanc yn rhan o’u datblygiad cyfannol. Mae hyfforddiant CWVYS yn cefnogi’r cyflwyniad o safonau gwaith ieuenctid diogel, effeithiol a chyson.

 

Polisi ac Ymarfer

Polisi Gwaith Ieuenctid

Y berthynas wirfoddol rhwng pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid sydd yn rhoi cymeriad unigryw a nodedig i waith ieuenctid.

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru yn hawl cyffredinol, yn agored i bob person ifanc o fewn yr oedran penodol 11-25.

Mae’r ddogfen Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid (2012) yn nodi mai prif bwrpas gwaith ieuenctid yw:

‘galluogi pobl ifanc i ddatblygu mewn ffordd gyfannol, yn gweithio gyda nhw i hybu eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, i’w galluogi i feithrin eu llais, dylanwad a lleoliad mewn cymdeithas ac i gyrraedd eu potensial llawn.’

Darperir gwaith ieuenctid trwy’r sectorau gwirfoddol a’r awdurdodau lleol a thrwy amryw leoliadau a dulliau gwaith ieuenctid.



Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol i Gymru

Yn gosod y cyfeiriad ar gyfer mudiadau gwaith ieuenctid am y pedair blynedd nesaf.

Ar 26 Mehefin 2019 lansiodd y Gweinidog Addysg y Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol newydd i Gymru. Datblygwyd y strategaeth gan y Bwrdd Ieuenctid Interim yn dilyn ymgynghoriad â’r sector statudol a gwirfoddol..

Coladwyd barn aelodau’r CWVYS yng nghyfarfodydd grŵp rhanbarthol CWVYS a digwyddiadau ymgynghoriad arbennig.

Mesur Effaith

Mae’r CWVYS wedi bod yn gweithio ar ddull canlyniadau ac wedi cynhyrchu cyfres o gynigion i Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth llawn Cynghrair Gwaith Ieuenctid Cymru.

Mae’r papur, Tuag at ddull canlyniadau ac effaith ar gyfer y sector ieuenctid yng Nghymru (copi ar gael yma), yn tynnu ar waith a phrofiad nifer o gyrff gan gynnwys y Young Foundation. Mae’n pwysleisio’r angen am ddull sydd yn ystyried profiad sefydliadau ieuenctid gwirfoddol, sy’n syml yn ei weithrediad ac yn cefnogi yn hytrach nag difrïo’u gwaith.

Prosiect Consortiwm CWVYS

Consortiwm o 10 aelod o’r CWVYS yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu cymunedau cryfach gyda rhaglen o weithgaredd cymunedol arweiniwyd gan ieuenctid yn cael ei ddosbarthu trwy waith gwir gydweithredol.