Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru

Mae Taith yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr o sefydliadau ieuenctid Cymru a gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol gymryd rhan mewn symudiadau trawsnewidiol a newid bywyd dramor, gan roi cyfle i gyfranogwyr ddatblygu sgiliau newydd a phrofi diwylliannau ac ieithoedd newydd.
Mae Taith yn annog cyfranogiad gan bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd ethnig lleiafrifol, pobl anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Cyllid/Cyfleoedd

Mae Taith yn darparu cyfleoedd trwy ddau ‘Lwybr’ gwahanol. Bydd gan bob Llwybr alwadau ar wahân am gyllid i gefnogi gweithgareddau penodol. Gall sefydliadau cymwys wneud cais i fwy nag un Llwybr mewn unrhyw un flwyddyn alwad.

Llwybr 1 – Symudedd cyfranogwyr (Bydd yr alwad hon yn agor nesaf ym mis Ionawr 2025)Mae prosiectau’n darparu symudedd corfforol, rhithwir a chyfunol, allanol a mewnol unigolion neu grwpiau, gan ddarparu cyfleoedd hyblyg tymor byr a hirdymor i ddysgu, astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor.

Llwybr 2 – Partneriaeth a chydweithio strategol (Bydd yr alwad hon yn agor nesaf yn hydref 2024)
Prosiectau cydweithredol rhyngwladol dan arweiniad sefydliadau addysg a hyfforddiant yng Nghymru i ddatblygu gweithgareddau ac arferion cyfnewid dysgu rhyngwladol a arweinir gan welliant.

Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn gefnogi eich syniadau am brosiectau a cheisiadau am gyllid, cysylltwch â Michaela Rohmann michaelarohmann@wcia.org.uk (Cydlynydd Hyrwyddwyr Taith ar gyfer y Sector Ieuenctid ) neu cysylltwch â thîm Taith ymholiadau@taith.cymru

Gweler yma restr o wybodaeth fanylach am Raglen Taith:

• Cyflwyniad fideo i Taith Cyflwyniad i Taith (youtube.com)
• Dolen i Ganllaw Rhaglen Taith 2024 Canllaw Rhaglen Taith – Taith
• Dolen i’r Trosolwg o’r Sector Ieuenctid ar gyfer Trosolwg Taith – Taith
• Crynodeb o geisiadau llwyddiannus o Ganlyniadau 2022 a 2023 – Taith
• Astudiaethau achos o brosiectau Taith llwyddiannus Straeon – Taith