Y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru
Amcangyfrifir bod sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru yn ymglymu dros 250,000 o bobl ifanc ac o leiaf 30,000 o oedolion sy’n wirfoddolwyr.
Mae’r sector ieuenctid gwirfoddol yn chwarae rhan hynod bwysig mewn cefnogi datblygiad, lles, hunan-barch, sgiliau cyflogaeth a sgiliau bywyd pobl ifanc.
Gwybodaeth am CWVYS
Y CWVYS ydy’r corff cynrychiadol ar gyfer y sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru. Mae’n gorff elusennol annibynnol sydd yn hyrwyddo gwaith ieuenctid o ansawdd ac yn cynrychioli diddordebau ei aelodaeth a’r sector ehangach.
Gweledigaeth, Genhadaeth a Pum swyddogaeth allweddol CWVYS
Gweledigaeth
- Cymru lle mae pob person ifanc wedi’i rymuso gan wasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol arloesol, bywiog a chynaliadwy.
Genhadaeth
- Cynrychioli, cefnogi a rhoi llais ar y cyd i’w aelodaeth o sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol ledled Cymru. Mae CWVYS yn arwain ar gydweithredu a phartneriaethau ar ran y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.
Pum swyddogaeth allweddol CWVYS
Cynrychiolaeth genedlaethol ac arweinyddiaeth strategol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol
(gan gynnwys hwyluso, datblygu polisi, eiriolaeth, siapio a dylanwadu, cyfathrebu strategol, codi proffil gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru ac yn rhyngwladol; cefnogi’r sector i gynnwys pobl ifanc wrth gynllunio a darparu gwaith ieuenctid arfer gorau)
Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth
(gan gynnwys hwyluso partneriaethau, hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghymru ac yn rhyngwladol)
Pencampwyr cyfnewid gwybodaeth
(gan gynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ar gyllid, gwybodaeth bolisi, adnoddau, cyfleoedd a digwyddiadau)
Dathlu, mesur a chydnabod effaith gymdeithasol, economaidd a diwylliannol y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru
(gan gynnwys hyrwyddo arfer gorau gwaith ieuenctid, sicrhau ansawdd, datblygu/hyfforddi/achrediad, casglu data, ymchwilio a gwerthuso)
Buddion, cyfleoedd a datblygiadau aelodaeth
(cefnogaeth i, ac ymrwymiad i ddatblu gelodaeth o sefydliadau amrywiol, bywiog sy’n seiliedig ar werthoedd, ledled Cymru, gan gynnwys cynrychiolaeth ranbarthol).
Aelodaeth
Mae gan y CWVYS nifer o fudiadau sy’n aelodau, o gyrff cenedlaethol gyda llawer o grwpiau ieuenctid cyfansoddol, i fudiadau sydd wedi’u sefydlu’n fwy lleol neu’n rhanbarthol.
Mae’r CWVYS yn ennill cryn gryfder ac adnoddau o’i aelodaeth. Mae’n gweithio i, a gyda’r sector ieuenctid gwirfoddol ar y cyfan, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae’r CWVYS yn gweithio’n gydweithredol gydag amrywiaeth eang o asiantaethau partner, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau ieuenctid Awdurdod Lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS) Cymru a Grŵp Asiantaeth Hyfforddiant, Bwrdd Gwaith Ieuenctid a’r EWC.
Hanes
Cafodd CWVYS ei sefydlu’n wreiddiol yn 1974 gan Gynhadledd Sefydlog Mudiadau Gwirfoddol Ieuenctid yng Nghymru, sefydlwyd yn 1947. Roedd yn cael cyllid craidd gan y Swyddfa Gymreig ac roedd ganddo swyddfeydd a staff ei hun tan 1992 pan gafodd Asiantaeth Ieuenctid Cymru ei sefydlu.
Yna cafodd rhaglen gwaith y CWVYS ei ymgymryd gan Asiantaeth Ieuenctid Cymru trwy gytundeb lefel gwasanaeth. Yn 2001, yn dilyn datganoli, dechreuodd y CWVYS adolygu ei gynlluniau strategol am y dyfodol, yn ymateb i’r amgylchedd polisi newidiol yng Nghymru.
Wedi trafodaethau gyda beth oedd yn arfer bod yn Nhîm Polisi Ieuenctid Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), penderfynwyd rhoi cyllid craidd i’r CWVYS i’w wneud yn fwy annibynnol, wrth barhau i ddibynnu ar Asiantaeth Ieuenctid Cymru am ofod swyddfa a gweinyddiaeth. Gydag Asiantaeth Ieuenctid Cymru yn cau ar ddiwedd 2005, roedd CWVYS bellach yn gwbl annibynnol unwaith eto gyda swyddfa a staff gweinyddiaeth ei hun ym Mae Caerdydd.
Strwythur a Threfn Lywodraethol
Mae CWVYS yn cynnwys gynrychiolydd o’n Aelod sefydliad a Chadeirydd anrhydeddus. Cynrychiolwyr sefydliadau cenedlaethol a lleol / rhanbarthol ynghyd â Swyddogion anrhydeddus, a etholir yn flynyddol, yw Pwyllgor Gweithredol CWVYS, corff llywodraethu CWVYS.
Pwyllgor Gwaith 2024/25
Eluned Parrott (Cadeirydd)
Stephanie Price (Is-gadeirydd)
Carlie Torlop (Is-gadeirydd)
Marco Gil-Cervantes (Trysorydd Anrhydeddus)
Tracy Lowe
Beverley Martin
Hayley Morgan
Daljit Kaur Morris
Grant Poiner
Rhiannon Sheen de Jesus
Lee Tiratira
Geraint Turner
Grŵp Llywyddion CWVYS
(Gwag)
Is-lywyddion:
Duncan Cantlay
Joff Carroll OBE
Alice Gray
Ann Griffith
Louise Cook
Jayne Kendall
Dr Jenny Maher
Keith Towler
Dr Lisa Whittaker
Hannah Williams
Prof Howard Williamson CVO CBE FRSA FHEA
Gemma Woolfe
I gefnogi ardaloedd penodol mae CWVYS yn gweithredu’r is grwpiau canlynol o’r Pwyllgor Gwaith:
- Grŵp Swyddogion
- Pwyllgor Hyfforddiant
- Grŵp Busnes CWVYS
Mae polisi a gweithdrefn gwyno CWVYS i’r cyhoedd i’w gweld yma: CWVYS Complaints policy and procedure (W)