Cyfnewidfa Ddysgu CWVYS

  • Bydd hyn yn creu ‘marchnad’ o gyfleoedd i unigolion a sefydliadau ddarparu a derbyn cyfleoedd hyfforddi / dysgu oddi wrth ei gilydd. Bydd o fudd i bob parti heb iddynt orfod gwario unrhyw adnoddau ariannol ychwanegol.
  • Er mwyn i’r Gyfnewidfa Ddysgu ddiwallu anghenion sefydliadau yn Aelodaeth CWVYS, mae’n hanfodol bod eu hanghenion am hyfforddiant a’u gallu fel darparwyr cyfleoedd hyfforddi a dysgu yn cael eu nodi. Mae arferion gwaith cydweithredol o’r fath yn hanfodol er mwyn i sefydliadau bach a mwy elwa’n gyfartal o gael mynediad at gyfleoedd o’r fath.
  • Y gobaith yw y bydd yn cynnwys ystod eang o ddarparwyr hyfforddiant a mentoriaid parchus o Aelodaeth CWVYS.
  • Nid yw CWVYS yn ceisio gorfodi’r model hwn ar unrhyw Aelod-sefydliad ac nid yw ychwaith yn dymuno ‘cystadlu’ â rhaglenni hyfforddi Aelodau sy’n darparu llif incwm i’r un sefydliadau hynny.
  • Gall aelodau CWVYS hefyd hysbysebu eu hyfforddiant a’u digwyddiadau sy’n agored i’r sector ehangach a’r cyhoedd, a’r rhai sy’n cael eu costio.

Events / DIGWYDDIADAU