Gosod y cyfeiriad i sefydliadau gwaith ieuenctid am y pedair blynedd nesaf.

Ar 26 Mehefin 2019 lansiodd y Gweinidog Addysg y Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol newydd i Gymru. Datblygwyd y strategaeth gan y Bwrdd Ieuenctid Interim yn dilyn ymgynghoriad â’r sector statudol a gwirfoddol..

Cafodd barn aelodau’r CWVYS ei goladu yng nghyfarfodydd grŵp rhanbarthol y CWVYS a digwyddiadau ymgynghori arbennig.

Mae’r strategaeth yn adnabod:

  • gwerth a swydd darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored
  • hyrwyddo cysylltiad cryfach rhwng darpariaeth gwaith ieuenctid ac addysg ffurfiol
  • yn adnabod yr angen am weithio mwy agos rhwng sefydliadau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol, ac
  • yn adnabod yr angen i gryfhau’n sylweddol sail tystiolaeth ar yr effaith o waith ieuenctid ledled Cymru

Tudalen Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Llywodraeth Cymru

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion

Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi’i sefydlu yn y lle cyntaf ar berthynas gwirfoddol rhwng pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid. Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn hawl cyffredinol, yn agored i holl bobl ifanc o fewn yr oedran penodedig 11-25.

Mae canllaw Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion wedi cael ei gynhyrchu gan gynrychiolwyr y sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol ac awdurdodau lleol yng Nghymru. .

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

Yng Nghymru, mae ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc, 2011’ yn cryfhau ac yn adeiladu ar ddull seiliedig ar hawliau Llywodraeth Cymru o greu polisi i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

yth eyst 2

O 1 Mai 2012 i 30 Ebrill 2014, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw priodol o’r hawliau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth wneud penderfyniadau ar bolisïau neu ddeddfwriaeth newydd arfaethedig neu am adolygu neu newid polisïau presennol. Yna, o’r 1 Mai 2014, mae angen i Weinidogion Cymru roi sylw priodol i’r hawliau yn y CCUHP pan fyddant yn defnyddio’u pwerau neu ddyletswyddau cyfreithiol.

Gall ddarganfod manylion pellach yma, ac yma gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Gall ddarganfod gwybodaeth bellach ar bolisi gwaith ieuenctid ar y dudalen Polisi ac Ymarfer.