CWVYS yw’r corff cynrychioliadol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’n gwmni elusennol cofrestredig annibynnol cyfyngedig drwy warant, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi gwaith ieuenctid o safon, yn cynrychioli buddiannau ei Aelodaeth a’r sector ehangach ynghyd â rôl bwysig yn dylanwadu ar fforymau polisi strategol a chyfeiriad polisi.
Ein Gweledigaeth
• Cymru lle mae gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol arloesol, bywiog a chynaliadwy yn grymuso pob person ifanc.
Ein Cenhadaeth
• Cynrychioli, cefnogi a rhoi llais cyfunol i’w aelodaeth o sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol ledled Cymru. Mae CWVYS yn arwain ar gydweithio a phartneriaethau ar ran y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.
Rydym yn darparu:
• Cynrychiolaeth genedlaethol ac arweinyddiaeth strategol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol
• Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth
• Hyrwyddwyr cyfnewid gwybodaeth
• Dathlu, mesur a chydnabod effaith gymdeithasol, economaidd a diwylliannol y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru
• Manteision, cyfleoedd a datblygiadau aelodaeth