Gweler isod fanylion sawl cyfle i ymuno â thîm MAC;

Mae MAC yn falch o gyhoeddi sawl cyfle gwaith ieuenctid cyffrous i ymuno â’n sefydliad sydd wedi ennill sawl gwobr.

Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol ymroddedig, brwdfrydig a thosturiol sy’n angerddol am gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd, a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.

Rheolwr Achos Bywydau Cyfochrog (CAPVA) – 6 Swydd Wag
Lleoliadau: Abertawe, Cwm Taf Morganwg, Caerdydd a Gwent
Rydym yn ehangu ein Gwasanaeth Bywydau Cyfochrog arobryn ar draws De Cymru a Gwent, gan gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yr effeithir arnynt gan Drais a Cham-drin Plant a Phobl Ifanc i Rieni (CAPVA). Mae’r rolau hyn yn cynnwys darparu ymyriadau wedi’u targedu, sy’n seiliedig ar drawma, i leihau gwrthdaro, cryfhau perthnasoedd teuluol a hyrwyddo amgylcheddau cartref mwy diogel.

Rheolwr Achos CTRL (Cam-drin Perthnasoedd yn eu Harddegau) – 2 Swydd Wag
Lleoliad: Gwent
Mae hwn yn wasanaeth newydd sy’n darparu cefnogaeth arbenigol i bobl ifanc sy’n profi, neu sydd mewn perygl o, gam-drin mewn perthnasoedd agos yn eu harddegau. Mae’r rolau’n cynnwys darparu ymyriadau unigol ac ar y cyd gyda’r person ifanc sy’n achosi niwed a’r person ifanc sy’n profi niwed, hyrwyddo perthnasoedd iach, codi ymwybyddiaeth o gam-drin, a chefnogi pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus a diogel. Mae cyfleoedd ar gael o fewn y tîm i ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar fenywod a dynion.

Rheolwr Achos Dargyfeirio Oedolion Ifanc (18-25) – 1 Swydd Wag
Lleoliad: Caerdydd
Mae gennym swydd wag o fewn ein tîm yng Nghaerdydd, yn cefnogi oedolion ifanc 18-25 oed sydd mewn cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, neu mewn perygl o fynd i mewn iddi, i wneud newidiadau cadarnhaol a chynaliadwy yn eu bywydau. Nod y rhaglen yw lleihau mynediad i’r system cyfiawnder troseddol, a’r cynnydd ynddi, trwy adeiladu ar gryfderau pobl ifanc a mynd i’r afael â’r anghenion a allai eu rhoi mewn perygl.

Rheolwr Achos Gwrywdod Cadarnhaol – 1 Swydd Wag
Lleoliad: Caerdydd
Mae gennym swydd wag o fewn ein tîm yng Nghaerdydd, yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ac yn eu cefnogi i ddatblygu agweddau cadarnhaol, perthnasoedd iach a pharch at eraill. Mae’r rôl yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o gasineb at fenywod (misogyni), dylanwadau ar-lein niweidiol, gwrywdod gwenwynig a thrais ar sail rhywedd, tra’n hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol a gwerthoedd sy’n fuddiol i gymdeithas. Bydd deiliad y swydd yn diogelu pobl ifanc, yn nodi ac yn ymateb i risgiau, ac yn eu grymuso i adnabod a herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol ynddynt eu hunain ac mewn eraill.
Oherwydd natur y rôl hon, mae MAC yn ystyried bod bod yn ddyn yn ofyniad galwedigaethol dilys, yn unol ag Atodlen 9 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Felly, gwahoddir ceisiadau ar gyfer y rôl hon gan ymgeiswyr gwrywaidd yn unig.

Rheolwr Achosion ‘Braver Choices’ (Atal Defnyddio Arfau) – 1 Swydd Wag
Lleoliad: Caerdydd
Mae MAC yn chwilio am ymarferydd profiadol ac angerddol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o, neu wedi’u heffeithio gan, drais difrifol ymhlith pobl ifanc a chario arfau. Gan weithio fel rhan o dîm deinamig, bydd deiliad y swydd yn helpu i nodi a lleihau risg, meithrin gwydnwch, hyrwyddo cyfranogiad a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Byddant yn eu grymuso i wneud dewisiadau mwy diogel a chadarnhaol ar gyfer y dyfodol, trwy ddull sy’n canolbwyntio ar gryfderau ac ar y person ifanc.

Ymuno â’r Tîm yn MAC
Rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd trwy ddulliau arloesol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n ystyriol o drawma. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o ansawdd uchel a newid ystyrlon. Mae pob swydd yn amodol ar wiriadau priodol cyn cyflogaeth, gan gynnwys gwiriad DBS Estynedig a/neu wiriad gan yr Heddlu lle bo angen.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys disgrifiadau swydd llawn a ffurflen gais, anfonwch e-bost at: melanie@mediaacademycymru.wales

I drefnu trafodaeth anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi, anfonwch e-bost at: info@mediaacademycymru.wales, gan nodi pa rôl/rolau rydych chi â diddordeb ynddynt, a bydd aelod o’r tîm perthnasol yn cysylltu â chi.

Dyddiad Cau: 1 Rhagfyr 2026 am 12pm (canol dydd)
Dyddiadau Cyfweld: 10 a 14 Rhagfyr 2026