Os hoffech ymuno â CWVYS, anfonwch e-bost at Paul@cwvys.org.uk am ragor o wybodaeth a phecyn cais aelodaeth.

Rydym yn cynrychioli’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol ochr yn ochr â darparu ystod eang o wybodaeth gyfoes, mynediad at hyfforddiant, sgiliau a sefydliadau eraill, cyfleoedd ariannu, digwyddiadau a chydweithrediadau sy’n meithrin arfer gorau, ynghyd â chyfleoedd i rannu a dylanwadu ar bolisi gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Rydym hefyd yn:

  • rhannu gwybodaeth gyfoes ar amrywiaeth eang o bynciau yn ddyddiol
  • cyhoeddi tri chylchlythyr ar wahân y mis: Cyffredinol; Cyllid; a Rhyngwladol, yn y drefn honno
  • hysbysebu Aelodau a’u manylion ar ein gwefan
  • poblogi ein gwefan gyda diweddariadau polisi pwysig a gwybodaeth o ddiddordeb i bawb
  • darparu mynediad at hyfforddiant â gostyngiad mawr e.e., Gwobr Gwaith Ieuenctid Lefel 2 Gwaith Ieuenctid neu gwrs Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Lefel 3. Mae’r trefniant hwn hefyd yn creu mynediad at ystod eang o gyfleoedd gwaith ieuenctid a Datblygiad Proffesiynol Parhaus i staff a gwirfoddolwyr sefydliadau Aelod
  • rhoi mynediad i chi at rwydwaith eang o sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol ynghyd â’r cysylltiadau partneriaeth helaeth sydd gennym â nifer fawr o gyrff strategol
  • anfon manylion digwyddiadau a chyfleoedd cydweithredol atoch
  • llywio a dylanwadu ar bolisi gwaith ieuenctid yng Nghymru: rydym yma i gynrychioli llais y sector a chynnwys Aelodau trwy ystod o fforymau gan gynnwys ein cyfarfodydd ar-lein Grŵp Rhanbarthol/Datblygu’r Gweithlu misol ar gyfer Aelodau yn unig; a’r Grŵp Diogelu Sector Gwaith Ieuenctid
  • cynnig y cyfle i enwebu, neu gael eich enwebu, i ymuno â Phwyllgor Gweithredol CWVYS (Bwrdd Ymddiriedolwyr)