Gweler isod neges gan Asiantaeth Ewropeaidd Gwybodaeth a Chynghori Ieuenctid (ERYICA).
Hoffem atgoffa Sefydliadau Ieuenctid yng Nghymru bod Llywodraeth Cymru yn aelod o ERYICA ar ran Cymru. O ganlyniad, mae’r cyfleoedd a’r adnoddau sydd ar gael i aelodau ERYICA hefyd ar gael i chi, fel grwpiau ieuenctid sy’n gweithredu yma yng Nghymru.
Annwyl Rwydwaith ERYICA,
Mae deallusrwydd artiffisial (DA neu AI yn Saesneg) yn ail-lunio’n gyflym y ffordd y caiff gwybodaeth ei chreu, ei chyrchu a’i rhannu. Er mwyn sicrhau bod gweithwyr gwybodaeth ieuenctid ledled Ewrop yn barod ar gyfer y newid digidol hwn, mae angen eich cymorth i gyrraedd y gweithwyr hynny!
Fel rhan o brosiect Erasmus+ ‘youthinfo.ai‘, mae consortiwm y prosiect wedi lansio arolwg Ewropeaidd i fapio’r wybodaeth, y sgiliau, yr ymwybyddiaeth o risgiau, a’r anghenion hyfforddi sydd gan weithwyr proffesiynol ar hyn o bryd o ran AI.
Sut gallwch chi helpu:
Rhannwch y ddolen i’r arolwg hwn gyda gweithwyr gwybodaeth ieuenctid, gweithwyr ieuenctid ac ymarferwyr yn eich rhwydweithiau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol.
Dolen i’r Arolwg: https://forms.cloud.microsoft/e/fPtyFY6WiN
Dyddiad cau: 12 Tachwedd
Mae’r arolwg ar gael yn 7 iaith y consortiwm: Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg, Croateg, Eidaleg, Rwmaneg a Slofaceg.
Beth yw’r nod?
Bydd y canfyddiadau yn dylanwadu’n uniongyrchol ar weminarau, gweithgareddau hyfforddi ac adnoddau addysgol ymarferol yn y dyfodol, wedi’u teilwra i anghenion gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid ledled Ewrop.
Cofion gorau,
Tîm ERYICA
www.eryica.org