Polisi ac Ymarfer

Polisi Gwaith Ieuenctid

Y berthynas wirfoddol rhwng pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid sydd yn rhoi cymeriad unigryw a nodedig i waith ieuenctid.

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru yn hawl cyffredinol, yn agored i bob person ifanc o fewn yr oedran penodol 11-25.

Mae’r ddogfen Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid (2012) yn nodi mai prif bwrpas gwaith ieuenctid yw:

‘galluogi pobl ifanc i ddatblygu mewn ffordd gyfannol, yn gweithio gyda nhw i hybu eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, i’w galluogi i feithrin eu llais, dylanwad a lleoliad mewn cymdeithas ac i gyrraedd eu potensial llawn.’

Darperir gwaith ieuenctid trwy’r sectorau gwirfoddol a’r awdurdodau lleol a thrwy amryw leoliadau a dulliau gwaith ieuenctid.

Darllen mwy; https://www.cwvys.org.uk/policy-practice/?lang=cy

 

Hyfforddiant a Chydnabyddiaeth

Credai’r CWVYS bod pawb sydd yn gweithio gyda phobl ifanc yn rhan o’u datblygiad cyfannol. Mae hyfforddiant CWVYS yn cefnogi’r cyflwyniad o safonau gwaith ieuenctid diogel, effeithiol a chyson.

Darllen mwy; https://www.cwvys.org.uk/our-work/hyfforddiant-a-chydnabyddiaeth/?lang=cy

Mapio’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru

Mae’r ddolen i adroddiad terfynol traethawd hir Lizzy Bacon ar fapio’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru yma: https://criminology.research.southwales.ac.uk/news/2021/new-project-map-and-evaluate-voluntary-youth-work-sector-wales/

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen y darn ymchwil manwl, cynhwysfawr a phwysig hwn.

 

Mesur Effaith

Mae’r CWVYS wedi bod yn gweithio ar ddull canlyniadau ac wedi cynhyrchu cyfres o gynigion i Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth llawn Cynghrair Gwaith Ieuenctid Cymru.

Mae’r papur, Tuag at ddull canlyniadau ac effaith ar gyfer y sector ieuenctid yng Nghymru (copi ar gael yma), yn tynnu ar waith a phrofiad nifer o gyrff gan gynnwys y Young Foundation. Mae’n pwysleisio’r angen am ddull sydd yn ystyried profiad sefydliadau ieuenctid gwirfoddol, sy’n syml yn ei weithrediad ac yn cefnogi yn hytrach nag difrïo’u gwaith.

Darllen mwy; https://www.cwvys.org.uk/ymddiriedolwyr-ar-bwrdd/mesur-effaith/?lang=cy

Prosiect Consortiwm CWVYS

Consortiwm o 10 aelod o’r CWVYS yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu cymunedau cryfach gyda rhaglen o weithgaredd cymunedol arweiniwyd gan ieuenctid yn cael ei ddosbarthu trwy waith gwir gydweithredol.

Darllen mwy: https://www.cwvys.org.uk/ymddiriedolwyr-ar-bwrdd/prosiectau-gwaith-ieuenctid/?lang=cy

 

Marc Ansawdd CWVYS a Datblygu Gweithlu

Ym mis Mawrth 2010, nododd aelodau CWVYS fod ‘eu gwaith yn bwysig ac yn werthfawr ac maent yn dymuno sefydlu safonau proffesiynol ar draws y sector ieuenctid gwirfoddol sy’n cael eu cydnabod’.

O fis Ebrill 2013 i fis Mawrth 2015, datblygwyd Marc Ansawdd CWVYS mewn Datblygu Gweithlu i adlewyrchu ymrwymiad gweithredol sefydliad i ddysgu a datblygu gweithwyr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr er mwyn sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn unol â strategaethau a pholisïau gwaith ieuenctid cydnabyddedig yng Nghymru.

Darllen mwy: https://www.cwvys.org.uk/datblygiadau-gwaith-ieuenctid-strategol/marc-ansawdd-cwvys-ar-gyfer-datblygur-gweithlu/?lang=cy

 

Cam i Waith Ieuenctid

Datblygwyd ‘Cam i Waith Ieuenctid’ i roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i’n Haelodau i ddarparu gwasanaeth sy’n addas at y diben, gan eu galluogi i dyfu a symud ymlaen o fewn lleoliadau gwaith ieuenctid. Ei nod oedd cefnogi datblygiad proffesiynol a chymhwysedd unigolion a thimau, gan godi safonau’r ddarpariaeth.

Darllen mwy; https://www.cwvys.org.uk/datblygiadau-gwaith-ieuenctid-strategol/hyfforddiant-anwytho-gwaith-ieuenctid/?lang=cy