Gweler isod neges gan Gomisiynydd y Plant a dolen i’r adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar:
Rwy’n falch o rannu fy Adroddiad Blynyddol 2025-26<https://www.complantcymru.org.uk/wp-content/uploads/2026/10/Adroddiad-Blynyddol-a-Chyfrifion-2025-2026.pdf> sydd ynghlwm yn yr ebost hon.
Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r materion a’r blaenoriaethau y mae plant a phobl ifanc ledled Cymru wedi’u rhannu â ni dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n nodi’r camau y credwn sydd eu hangen i wella hawliau, llesiant a bywydau plant.
Ymhlith yr argymhellion mae:
• Ymgorffori CCUHP yn llawn yng nghyfraith Cymru.
• Gweithredu cryfach i fynd i’r afael â thlodi plant.
• Gwelliannau i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol.
• Sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a gweithredu arnynt wrth wneud penderfyniadau.
Gallwch hefyd ddarllen yr adroddiad yma:
https://shorturl.at/CrsuY
Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn cymryd amser i ddarllen yr adroddiad a myfyrio ar sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod hawliau a buddiannau plant wrth wraidd penderfyniadau yng Nghymru.
Cofion gorau,
Rocio Cifuentes
Comisiynydd Plant Cymru