Cysylltu beth rydych chi’n ei wneud, i beth mae cyllidwyr eisiau

Mae’r CWVYS wedi bod yn gweithio ar ddull canlyniadau ac wedi cynhyrchu cyfres o gynigion i Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth llawn Cynghrair Gwaith Ieuenctid Cymru.

Mae’r papur, Tuag at ddull canlyniadau ac effaith ar gyfer y sector ieuenctid yng Nghymru (copi ar gael yma), yn tynnu ar waith a phrofiad nifer o gyrff gan gynnwys y Young Foundation.

Mae’n pwysleisio’r angen am ddull sydd yn ystyried profiad sefydliadau ieuenctid gwirfoddol, sy’n syml yn ei weithrediad ac yn cefnogi yn hytrach nag difrïo’u gwaith.

Canlyniadau a’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid i Gymru

Mae’r strategaeth newydd yn cynnwys cyflwyniad Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer atebolrwydd, maincfesur a chanlyniadau. Mae nawr yn amser da i ddod i adnabod yr egwyddorion yn well. Mae copi o’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol i Gymru ar gael yma.

Bydd y CWVYS yn parhau i ddatblygu ei waith ar ganlyniadau a’ch hysbysebu am y datblygiadau.

Ym Mai 2018 ceisiodd gweithdai a drefnwyd ar y cyd gan WISERD a CWVYS ail-gychwyn trafodaeth genedlaethol yng Nghymru ynghylch gwerthuso, effaith a chanlyniadau mewn gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r Crynodeb Gweithredol (Gwerthuso, Effaith a Chanlyniadau – Beth mae’n ei olygu i ni) yn casglu’r data o’r gweithdai hyn ac yn tynnu sylw at bethau allweddol fel:

Mae’r tueddiadau a brofir mewn gwaith ieuenctid yng Nghymru yn adlewyrchu meysydd polisi cyhoeddus eraill, gan gynnwys pwyslais ar bolisi seiliedig ar dystiolaeth a mwy o ddibyniaeth ar ddangosyddion meintiol i fesur effaith.

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r fframwaith Damcaniaeth Newid a dull y Newid Mwyaf Arwyddocaol a gyflwynwyd yn y gweithdy fel dulliau posibl o gryfhau prosesau gwerthuso.

Mae’r adroddiad yn cloi drwy amlinellu’r cwestiynau allweddol a all arwain y ffordd ymlaen o ran datblygu ‘dull gweithredu Cymru’ o ran gwerthuso ac effaith. Mae gwneud hynny yn gysylltiedig yn benodol â datblygu mecanweithiau a chynlluniau i gefnogi sefydliadau i gryfhau sut y maent yn dangos effaith y sector yng Nghymru; dysgu o arfer da presennol; ehangu trafodaethau gyda chyllidwyr; a rôl posibl cyrff cynrychioliadol y sector wrth sefydlu consensws ynghylch arfer da a threfniadau ymarferol i gryfhau dilysrwydd ac ansawdd prosesau data a gwerthuso sefydliadau; a sut y gall y sector Addysg Uwch yng Nghymru gefnogi’r gwaith hwn.

Gallwch ddod o hyd i gyflwyniadau o’r gweithdai yma;

Cyflwyniad Cyfarwyddwr Canolfan Effaith Ieuenctid Bethia McNeil; Centre for Youth Impact May 2018 – CWVYS presentation

Cyflwyniad yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth; Rhys Jones – Gwerthuso Gwell Better Evaluation

Os nad ydym yn mesur

  • Nid allem fod yn sicr beth sydd yn gweithio
  • Nid allem adnabod beth sydd ddim yn gweithio
  • Mae’n anodd profi ein bod yn dda yn beth rydym ni yn ei wneud
  • Mae peryg bydd arian yn cael ei fuddsoddi yn y pethau anghywir neu ddim o gwbl

Dyma ychydig o awgrymiadau o sut gall sefydliadau gwaith ieuenctid ddangos eu bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc mewn ffordd gall gyllidwyr ei ddeall a chysylltu i amcanion cymdeithasol mwy.

Tips of good measurement

Gweithred
  1. Adnabod eich nod – Mae angen i’r nod/targed fod yn glir, yn ddealladwy, yn realistig ond yn uchelgeisiol, diffiniedig ac yn gryno. Efallai mai chi sydd wedi ei adnabod neu fod y cyllidydd/comisiynydd wedi’i ddiffinio.
Esiampl

Cynyddu’r nifer o bobl ifanc sydd yn parhau mewn addysg

  1. Beth sydd angen digwydd i hyn gael ei gyflawni? – Meddyliwch am y newid diwethaf sydd angen digwydd cyn i chi gyrraedd y nod – beth ydy’r rhag-amodau ar hyn o bryd?

Mae angen i’r person ifanc ddatblygu ei allu mewn gwydnwch, deallusrwydd emosiynol, gosod amcanion personol, cynyddiad hunangred er mwyn bod yn llwyddiannus mewn addysg.

  1. Alinio gweithgareddau gyda chanlyniadau – Beth rydych chi yn ei wneud/angen gwneud i gyflawni’r canlyniadau sydd wedi’u gosod? Pa rai o’ch gweithgareddau sydd yn datblygu’r gallu yma?

Mae angen i’r person ifanc ddatblygu ei allu mewn gwydnwch, deallusrwydd emosiynol, gosod amcanion personol, cynyddiad hunangred er mwyn bod yn llwyddiannus mewn addysg.

  1. Beth arall sydd ei angen? – Ydy’r dull yma yn gwneud synnwyr? Beth ydych chi’n tybio yn ei le? Oes yna unrhyw beth rydych chi’n cymryd yn ganiataol? Pa weithgareddau eraill ydych chi’n ei gynnig?

Atgyfeirio camddefnydd sylweddau, gofal plant, cynghori, hyfforddi.

  1. Beth ydym ni eisiau ei fesur? – Pa ganlyniadau dylai cael eu mesur? Mae angen iddynt fod yn fesuradwy (gennych chi), yn ddiffiniedig, yn reoledig ac yn unigryw i’ch gwaith. Mesur y newid rydych chi’n ei wneud.

Gwelliant deallusrwydd emosiynol, gwydnwch, hunan gred

Beth arall sydd yn werth ei wybod?

Sut mae mesur?

  • Mae mesur cyn ac ar ôl yn allweddol
  • Gallwch ddefnyddio holiaduron hunanasesu, cyfweliadau 1:1, grwpiau ffocws, waliau graffiti, arsylwadau…
  • Gellir darganfod amrywiaeth eang o declynnau sydd wedi’u dylunio’n benodol i waith ieuenctid yma. Matrics a theclynnau.

Sut ydym ni’n disgrifio beth rydym yn ei wneud?

yth filter 1

Cynhaliwyd ymchwil eang gan y Young Foundation i adnabod a disgrifio’r canlyniadau o waith ieuenctid fel 7 clwstwr o allu, a thystiolaeth gysylltiedig o’u heffaith ar ganlyniadau cymdeithasol. Gall ddarganfod mwy o wybodaeth ddefnyddiol iawn yma, neu ar gais i CWVYS.

Esiampl Clystyrau Gallu:

cyfathrebiad – Mae ymchwil gan Brifysgol Sheffield yn awgrymu bod cyfathrebu da yn hanfodol ar gyfer trawsnewid llwyddiannus i waith neu hyfforddiant, ar gyfer annibyniaeth ac i gael mynediad i amrywiaeth o gyfleoedd bywyd. Mae’r Adolygiad Rose a’r Adroddiad Bercow wedi amlygu rhan cyfathrebu mewn cyrhaeddiad, a ffurfio perthnasau positif. Mae sgiliau cyfathrebu gwell wedi cael eu cysylltu hefyd i ostyngiadau aildroseddu”

Mae tystiolaeth debyg yn bodoli ar gyfer y clystyrau eraill

  • hyder ac asiantaeth
  • cynllunio a datrys problemau
  • perthnasoedd ac arweinyddiaeth
  • creadigrwydd
  • gwydnwch a phenderfyniaeth
  • rheoli teimladau

Mae gwybodaeth bellach ar gael i helpu mynegi sut mae eich gwaith yn buddio pobl ifanc, y gymuned a chymdeithas. Os hoffech wybod mwy yna edrychwch ar y rhestr o adnoddau isod neu cysylltwch â’r CWVYS.

Adnoddau defnyddiol

Tuag at ddull canlyniadau ac effaith ar gyfer y sector ieuenctid yng Nghymru – Dogfen lawn i’w weld yma.

Nod y Ganolfan ar gyfer Effaith Ieuenctid yw cydweithio ag eraill i brofi, dysgu ac adeiladu momentwm y tu ôl i’r agenda effaith, ar draws sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc.

www.youngfoundation.org – Fframwaith o ganlyniadau i bobl ifanc, matrics o declynnau, sylfaen tystiolaeth

www.tsrc.ac.uk – Llyfrgell chwiliadwy o dystiolaeth wedi’i gyhoeddi a deunyddiau prosiect