Swydd Wag Llywodraeth Cymru; Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle secondiad i weithio ar ddatblygiad dwy ffrwd gwaith – cyfnewidfa gwybodaeth i Gymru fel rhan o gynnig digidol i bobl ifanc sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid, a Chynllun Hawliau Pobl Ifanc.

Mae gwybodaeth bellach am y cyfle hwn yma: Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid – Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid, Cynllun Hawliau Pobl Ifanc – Secondiad – Cymraeg

Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw dydd Mercher 19 Ebrill.

Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol: Rownd 2

Gweler isod neges gan Lywodraeth Cymru am ail rownd y grant SVYWO:

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd ail rownd o gyllid ar gael drwy’r grant Sefydliad Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Strategol (SVYWO). Bydd y rownd hon yn rhedeg o fis Mai 2023 i fis Mawrth 2025.

Yma gallwch ddod o hyd i’r arweiniad a’r ffurflenni cais os dymunwch wneud cais;

Strategic Voluntary Youth Work Organisations Grant 2023-2025 (Round 2) – Information for grant applicants – Welsh

Strategic Voluntary Youth Work Organisations Grant – Application form 2023-2025 (Round 2) – Welsh

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd Cynllun Cymorth i Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol hefyd yn agor yn fuan. Bydd y Cynllun hwn yn cynnig lefelau is o ariannu i sefydliadau gwirfoddol yn ystod 2023-24.

Bydd y Cynllun yn cael ei weinyddu gan CWVYS.

Bydd manylion pellach ar gael yn fuan. Nodwch os gwelwch yn dda na fydd sefydliadau sy’n derbyn arian drwy’r Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yn gymwys i hefyd dderbyn arian drwy’r Cynllun Cymorth i Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol, ac i’r gwrthwyneb.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol at gwaithieuenctid@llyw.cymru

 

Lleihau Troseddu plant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru: Pecyn Cymorth Ymarferol i Weithwyr Proffesiynol

Nod y pecyn cymorth yw troi’r egwyddorion yn  Protocol Cymru gyfan: lleihau troseddoli plant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal  yn ymarfer.

Maen’t yn gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio’n helaeth fel adnodd i hyfforddi a chefnogi cydweithwyr aml-asiantaeth sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion ifanc gyda phrofiad o ofal.

Comisiynwyd yr elusen genedlaethol Missing People mewn partneriaeth â Llamau a’r ymgynghorydd Claire Sands gan Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru (4Cs) i ddatblygu’r pecyn cymorth hwn, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth yn ogystal â manylion digwyddiadau hyfforddi rhad ac am ddim ar wefan Missing People yma: https://www.missingpeople.org.uk/reducing-the-criminalisation-of-care-experienced-children-and-young-adults-in-wales-a-practical-toolkit-for-professionals#section-4

Gwobrau Heddychwyr Ifanc Cymru 2023 y CMRC wedi lansio yn diweddar!

A hoffech chi i blant / pobl ifanc rydych yn gweithio â nhw gael eu cydnabod am eu cyfraniad i heddwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb yn rhan o ddigwyddiad rhyngwladol yng Nghymru?

Os felly, a wnewch chi eu hannog i ymgeisio am Wobrau Heddychwyr Ifanc 2023?

Ar 6 Gorffennaf 2023 bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar y cyd gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal Seremoni Gwobrwyo Heddychwyr Ifanc ar faes yr Eisteddfod lle bydd pobl ifanc yn derbyn tystysgrif a Gwobr.
Mae’r CMRC yn estyn wahoddiad i blant a phobl ifanc (rhwng 5 a 25 blwydd oed) fynegi eu syniadau, eu teimladau a’u breuddwydion yn greadigol am sut medrwn greu byd mwy heddychlon, cyfiawn a chynaliadwy – trwy eiriau, celf neu yn ddigidol.
Gall pobl ifanc unigol neu grwpiau gyflwyno ceisiadau o dan y categorïau canlynol:

  • Heddychwr Ifanc y flwyddyn
  • Awdur Heddwch Ifanc y flwyddyn (2 gategori – i bobl ifanc Cynradd ac Uwchradd)
  • Artist Heddwch Ifanc y flwyddyn (2 gategori – i bobl ifanc Cynradd ac Uwchradd)
  • Dinesydd Byd-eang Ifanc y flwyddyn
  • Sefydliad Ieuenctid Heddwch y flwyddyn (ar gyfer sefydliadau ieuenctid mwy)

Mae hi hefyd yn dderbyniol i enwebu rhywun arall, gyda’u caniatâd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 12 Mehefin, 2023.

Medrwch weld disgrifiad mwy manwl am y categorïau, y telerau a’r amodau am y Gwobrau yn ogystal â’r ffurflen gais yma.

Anfonwch eich ceisiadau at centre@wcia.org.uk.

Cefnogaeth Ychwanegol i Waith Ieuenctid yng Nghymru

Isod mae gwybodaeth gan dîm Ymgysylltu Ieuenctid y Llywodraeth Cymru am y cymorth ychwanegol sydd ar gael i’r Sector Ieuenctid yng Nghymru;

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno’n ddiweddar i gynnig cymorth pellach i’r sector gwaith ieuenctid i fynd i’r afael â rhai o heriau’r argyfwng costau byw a diogelu gwasanaethau wrth i ni barhau i weithio gyda’r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a bwrw ymlaen ag argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Bydd y camau hyn yn help i ymateb i unrhyw newid mewn anghenion pobl ifanc ac ar allu sefydliadau i barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu’r anghenion hynny orau tra bod gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu argymhellion y Bwrdd Dros Dro.

Mae crynodeb o’r newidiadau hyn isod. Byddwn yn cysylltu â derbynwyr grantiau presennol a sefydliadau perthnasol eraill yn fuan i ddarparu rhagor o fanylion am y camau nesaf.

 

Y Cynllun Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol (SVYWO)

Dyfarnwyd grantiau SVYWO yn wreiddiol yn gynnar yn 2022, ac maent yn rhedeg ar hyn o bryd o Ebrill 2022-Mawrth 2024. Byddwn yn cynnig mwy o gymorth drwy’r grant hwn o fis Ebrill 2023 ymlaen, fel a ganlyn:

  • Bydd derbynwyr cyfredol grant SVYWO yn cael eu gwahodd i adolygu eu cynlluniau ar gyfer 2023-24 i gymryd i ystyriaeth amgylchiadau newidiol, y galw am wasanaethau, a mynd i’r afael ag newid mewn anghenion pobl ifanc ers cyflwyno ceisiadau yn hydref 2021.
  • Bydd derbynwyr cyfredol grant SVYWO yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais am barhad o gyllid am flwyddyn arall (hyd at fis Mawrth 2025).
  • Byddwn yn agor ail rownd o gyllid drwy grant SVYWO ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol na fu’n llwyddiannus yn eu ceisiadau ar gyfer y rownd gyntaf, nad oeddent mewn sefyllfa i wneud cais am y rownd gyntaf, neu le y gallai eu hamgylchiadau fod wedi newid ac eu bod nawr yn dymuno gwneud cais am gyllid. Bwriedir i’r rownd newydd hon redeg rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025.

 

Grant Cymorth Ieuenctid

Rydym yn bwriadu sicrhau bod cyllid pellach ar gael i awdurdodau lleol am gyfnod o ddwy flynedd (Ebrill 2023-Mawrth 2025) drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid. Nod y cymorth ychwanegol hwn fydd amddiffyn a chryfhau gwaith partneriaeth gyda sefydliadau gwirfoddol a mynd i’r afael â’r heriau sydd wedi eu nodi uchod. Bydd uchafswm o 5% yn ychwanegol ar ben y dyraniadau presennol ar gael i awdurdodau lleol at y diben hwn. Disgwylir i gyllid ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau.

 

Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol

Byddwn yn gweithio gyda CWVYS i dreialu cynllun cymorth newydd ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol yn ystod 2023-24. Bydd hwn yn canolbwyntio ar roi mynediad cyflym a hawdd at gyllid i sefydliadau er mwyn helpu i liniaru rhai o’r heriau presennol. Bydd meini prawf a phrosesau ar gyfer y cynllun hwn yn cael eu datblygu dros yr wythnosau nesaf gyda’r nod o agor y broses ymgeisio ym mis Ebrill 2023. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael am y cynllun hwn maes o law.

 

Datblygu’r gweithlu

Yn sgil argymhelliad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ar ddatblygu’r gweithlu a’r heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio, cadw a hyfforddi staff, bydd cymorth ychwanegol ar gael i ETS yn ystod 2023-25 i helpu i ehangu cyfleoedd ar draws y sector o fewn y maes hwn. Bydd yr ehangu hwn yn ein helpu i ddeall yn well y materion allweddol yn ymwneud â datblygu’r gweithlu yn ogystal ag adnabod ffyrdd o gefnogi ymarferwyr yn eu gyrfaoedd o fewn y maes gwaith ieuenctid. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar ategu a chyfoethogi cyfleoedd presennol. Megis dechrau mae cynllunio’r gwaith hwn a bydd y sector yn cael ei gynnwys yn y broses hon. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.

Digwyddiadau Taith wedi’u haildrefnu

Mae tîm Taith wedi aildrefnu’r sesiynau buddiolwyr a ohiriwyd i’r wythnos nesaf.

Gallwch dod o hyd i ddolenni i gofrestru isod os gallwch chi fynychu.

Bydd buddiolwyr yn cael gwybodaeth am adrodd, gwneud newidiadau i brosiectau, gofyn am gyllid ychwanegol a hefyd dangosir adran yr aelodau ar wefan Taith iddynt.

 

Dydd Llun 06 Mawrth 12:30-1:30pm (Cymraeg)

Dydd Llun 06 Mawrth 4-5pm (Saesneg)

Dydd Iau 09 Mawrth 12:30-1:30pm (Saesneg)