Isod mae gwybodaeth gan dîm Ymgysylltu Ieuenctid y Llywodraeth Cymru am y cymorth ychwanegol sydd ar gael i’r Sector Ieuenctid yng Nghymru;

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno’n ddiweddar i gynnig cymorth pellach i’r sector gwaith ieuenctid i fynd i’r afael â rhai o heriau’r argyfwng costau byw a diogelu gwasanaethau wrth i ni barhau i weithio gyda’r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a bwrw ymlaen ag argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Bydd y camau hyn yn help i ymateb i unrhyw newid mewn anghenion pobl ifanc ac ar allu sefydliadau i barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu’r anghenion hynny orau tra bod gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu argymhellion y Bwrdd Dros Dro.

Mae crynodeb o’r newidiadau hyn isod. Byddwn yn cysylltu â derbynwyr grantiau presennol a sefydliadau perthnasol eraill yn fuan i ddarparu rhagor o fanylion am y camau nesaf.

 

Y Cynllun Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol (SVYWO)

Dyfarnwyd grantiau SVYWO yn wreiddiol yn gynnar yn 2022, ac maent yn rhedeg ar hyn o bryd o Ebrill 2022-Mawrth 2024. Byddwn yn cynnig mwy o gymorth drwy’r grant hwn o fis Ebrill 2023 ymlaen, fel a ganlyn:

  • Bydd derbynwyr cyfredol grant SVYWO yn cael eu gwahodd i adolygu eu cynlluniau ar gyfer 2023-24 i gymryd i ystyriaeth amgylchiadau newidiol, y galw am wasanaethau, a mynd i’r afael ag newid mewn anghenion pobl ifanc ers cyflwyno ceisiadau yn hydref 2021.
  • Bydd derbynwyr cyfredol grant SVYWO yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais am barhad o gyllid am flwyddyn arall (hyd at fis Mawrth 2025).
  • Byddwn yn agor ail rownd o gyllid drwy grant SVYWO ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol na fu’n llwyddiannus yn eu ceisiadau ar gyfer y rownd gyntaf, nad oeddent mewn sefyllfa i wneud cais am y rownd gyntaf, neu le y gallai eu hamgylchiadau fod wedi newid ac eu bod nawr yn dymuno gwneud cais am gyllid. Bwriedir i’r rownd newydd hon redeg rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025.

 

Grant Cymorth Ieuenctid

Rydym yn bwriadu sicrhau bod cyllid pellach ar gael i awdurdodau lleol am gyfnod o ddwy flynedd (Ebrill 2023-Mawrth 2025) drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid. Nod y cymorth ychwanegol hwn fydd amddiffyn a chryfhau gwaith partneriaeth gyda sefydliadau gwirfoddol a mynd i’r afael â’r heriau sydd wedi eu nodi uchod. Bydd uchafswm o 5% yn ychwanegol ar ben y dyraniadau presennol ar gael i awdurdodau lleol at y diben hwn. Disgwylir i gyllid ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau.

 

Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol

Byddwn yn gweithio gyda CWVYS i dreialu cynllun cymorth newydd ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol yn ystod 2023-24. Bydd hwn yn canolbwyntio ar roi mynediad cyflym a hawdd at gyllid i sefydliadau er mwyn helpu i liniaru rhai o’r heriau presennol. Bydd meini prawf a phrosesau ar gyfer y cynllun hwn yn cael eu datblygu dros yr wythnosau nesaf gyda’r nod o agor y broses ymgeisio ym mis Ebrill 2023. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael am y cynllun hwn maes o law.

 

Datblygu’r gweithlu

Yn sgil argymhelliad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ar ddatblygu’r gweithlu a’r heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio, cadw a hyfforddi staff, bydd cymorth ychwanegol ar gael i ETS yn ystod 2023-25 i helpu i ehangu cyfleoedd ar draws y sector o fewn y maes hwn. Bydd yr ehangu hwn yn ein helpu i ddeall yn well y materion allweddol yn ymwneud â datblygu’r gweithlu yn ogystal ag adnabod ffyrdd o gefnogi ymarferwyr yn eu gyrfaoedd o fewn y maes gwaith ieuenctid. Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar ategu a chyfoethogi cyfleoedd presennol. Megis dechrau mae cynllunio’r gwaith hwn a bydd y sector yn cael ei gynnwys yn y broses hon. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.