Plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon – Senedd Cymru

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc ar yr Ymylon, sy’n ymwneud yn gryno â phlant coll a’r rhai sy’n agored i gamfanteisio troseddol.

Mae’r ymchwiliad hwn yn dilyn adroddiad y Pwyllgor ar ddiwygio radical ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. O’r dystiolaeth a ddaeth i law, amcangyfrifir bod y plant hyn yn cyfrif am bron i 40% o blant sy’n mynd ar goll yng Nghymru. Hefyd, soniwyd bod grwpiau penodol y credir eu bod mewn perygl o gael eu ‘troseddoli’ yn cynnwys plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ceiswyr lloches sydd ar eu pen eu hunain, plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, a phlant a phobl ifanc du a lleiafrifol ethnig.

Bydd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y canlynol:

  • Plant sydd ar goll
  • Plant a phobl ifanc sy’n dioddef camfanteisio troseddol

Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar nodi grwpiau eraill o blant y nodwyd eu bod “ar yr ymylon,” fel ffocws posibl sesiynau craffu yn y dyfodol. Byddai’r rhain yn grwpiau o blant mewn amgylchiadau sy’n gofyn am ymateb penodol iawn gan wasanaethau plant neu ddarparwyr statudol eraill, ac yn blant y mae pryderon ynghylch yr ymateb presennol o ran polisi neu arferion.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad ac i weld y cylch gorchwyl llawn, ewch i dudalen yr ymchwiliad.

Sut i rannu eich barn
Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad, mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno ar gael ar dudalen yr ymgynghoriad. Y dyddiad cau yw dydd Iau 28 Mawrth.

SeneddPlant@senedd.cymru

@SeneddPlant

Cyfleoedd Hyfforddi Am Ddim i’r Sector Gwaith Ieuenctid

Mae ETS Cymru Wales yn gyffrous i lansio ei raglen hyfforddi ar gyfer 2023 / 2024 trwy gynnig dau gwrs cyffrous:

  • Goruchwyliaeth yn y Cyd-destun Gwaith Ieuenctid (Cyrsiau Achrededig Lefel 3)
  • Hyfforddiant Niwroamrywiaeth (cyfres o weithdai)
    Os hoffech wybodaeth neu i sicrhau lle, dilynwch y ddolen hon: http://tinyurl.com/tktcn35z
    Cofiwch gadw llygad ar Eventbrite ETS Cymru Wales gan y bydd mwy o hyfforddiant yn dilyn yn fuan.