Mae

Cam Tuag at Waith Ieuenctid

Cyfres o unedau achrededig ym maes Gwaith Ieuenctid i weithwyr, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr.

Medrwch ddilyn un neu fwy o’r unedau isod

  • Adnabod a Deall Sefydliad
  • Darparu gwasanaethau a rolau allweddol o fewn sefydliad
  • Diogelu mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid
  • Egwyddorion, athroniaeth ac ymarfer
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Datblygu capasiti lleol sefydliad
  • Hyrwyddo cyfranogiad Pobl Ifanc
  • Cynllunio gweithgaredd mewn lleoliad GI
  • Lleoliadau dan oruchwyliaeth

Datblygwyd ‘Cam Tuag At Waith Ieuenctid’ i ddarparu’ch pobl chi â’r sgiliau, gwybodaeth a hyder i gyflwyno gwasanaeth sy’n ateb y gofyn ac sy’n eu galluogi i dyfu a symud ymlaen o fewn awyrgylch gwaith ieuenctid. Mae’n ceisio cefnogi datblygiad a gallu proffesiynol unigolion a thimau, gan godi safon gwasanaethau ar gyfer eich sefydliad ac er budd y bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda hwy.

Mae Rhaglen Ymsefydlu CWVYS yn fodd i’ch sefydliad ddangos ei ymrwymiad i ddatblygu’ch gweithlu, y gwerth rydych yn rhoi ar eu cyfraniad a sut rydych yn eu cefnogi i gyflwyno’r canlyniadau y’u dymunir ar gyfer pobl ifanc, eich sefydliad a’r gymuned ehangach.

Mae’r rhaglen yn fframwaith parhaus o ddatblygu gwaith, gan ddarparu hyfforddiant ymsefydlu a/neu hyfforddiant diweddaru yn eich sefydliad. Gellir ymgymryd ag un uned neu gyfres o unedau dros gyfnod amser. Caiff pob uned ei hachredu’n unigol ar lefel 2 gydag Agored Cymru trwy Addysg Oedolion Cymru. Mae’r darpariaeth yn hyblyg, trwy fentora 1:1 neu casglu pobl ynghyd i gynnal cwrs. Gallwch ddefnyddio’ch hyfforddwyr eich hun i gyflwyno’r hyfforddiant neu, os oes angen, gall Gonsortiwm Hyfforddiant CWVYS neu Addysg Oedolion Cymru ddarparu hyfforddwyr ar eich cyfer.

Ar ôl cwblhau’r holl unedau, neu rhai ohonynt, gellir annog dysgwyr i symud ymlaen at gymhwyster lefel dau Agored Cymru mewn Gwaith Ieuenctid.

Os hoffech chi wybod mwy, cysylltwch yn y man cyntaf â Catrin James catrin@cwvys.org.uk

ASSTYW Presentation ENG