Yn fis Mawrth 2010, nodwyd aelodau’r CWVYS bod ‘eu gwaith yn bwysig ac yn werthfawr ac maent yn dymuno sefydlu safonau proffesiynol ar draws y sector ieuenctid gwirfoddol sydd yn cael ei adnabod’.

Ers Ebrill 2013, mae Marc Ansawdd CWVYS ar gyfer Datblygu’r Gweithlu wedi cael ei ddatblygu i adlewyrchu ymrwymiad gweithredol sefydliad i addysgu a datblygu ei weithwyr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr i sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn unol â strategaethau a pholisïau cydnabyddedig gwaith ieuenctid yng Nghymru.

cwvyslogo

Bydd Marc Ansawdd CWVYS yn adlewyrchu ymrwymiad gweithredol sefydliad i addysgu a datblygu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr i sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn unol â strategaethau a pholisïau cydnabyddedig gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Bydd yn caniatáu i wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, cyflogwyr a chyllidwyr i deimlo’n hyderus bod y sefydliad yn deall ac yn ymwybodol o ymarfer da, a sut i’w fesur â’i gynnal.

Mae’r Marc Ansawdd wedi’i sefydlu ar 5 egwyddor allweddol:-

  1. Strategaethau cenedlaethol yn tanategu’r gwasanaethau sy’n cael eu trosglwyddo gan sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol – Polisi ac Ymarfer Gwaith Ieuenctid
  2. Arddangos ymrwymiad i ddatblygiad sefydliadol trwy ddatblygu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr – Strategaeth Dysgu
  3. Mae dysgu yn agored i wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr – Dysgu a Datblygiad
  4. Mae pwysigrwydd dysgu a datblygiad yn cael ei adnabod a’i ddathlu – Adnabyddiaeth
  5. Mae safonau dysgu a datblygiad yn cael eu hadolygu a’u gwella’n barhaol – Monitro a Rheolaeth Perfformiad

Bydd Marc Ansawdd CWVYS yn cael ei wobrwyo i sefydliadau sydd yn bodloni’r Datganiadau Ansawdd yn y Fframwaith Asesu. Wrth gwblhau ffurflen hunan asesu a darparu’r dystiolaeth foddhaol i aseswr annibynnol, bydd sefydliadau yn cael eu gwobrwyo gyda’r Marc Ansawdd.

Ble nad oes digon o dystiolaeth i arddangos y safonau gofynnir, bydd cynllun gweithredu awgrymedig yn cael ei ddarparu i gefnogi’r sefydliad yn ei ailgyflwyniad, ynghyd â graddfa amser awgrymedig.

Mae Marc Ansawdd CWVYS wedi cael ei ddatblygu yn baralel â Marc Ansawdd y Gwasanaeth Ieuenctid wedi’i ddatblygu gan ETS Cymru (Safonau Addysg a Hyfforddiant Cymru), i sicrhau bod y ddau marc ansawdd yn ategu ei gilydd ac yn addas i’w defnyddio yn y sector gwaith ieuenctid. Am fanylion pellach am Farc Ansawdd Gwasanaeth Ieuenctid ETS Cymru ymwelwch yma.

Dyma’r Datganiadau Ansawdd o fewn pob un o’r 5 egwyddor allweddol.

Polisi ac Ymarfer Gwaith Ieuenctid

  • Mae’r sefydliad yn ymwybodol o’r polisïau a strategaethau cenedlaethol allweddol sy’n ymwneud â’u darpariaeth o Waith Ieuenctid
  • Mae polisïau Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Allweddol yn cael eu gweithredu ar draws y sefydliadau yn nyluniad a throsglwyddiad o’r ddarpariaeth Gwaith Ieuenctid
  • Mae yna berson cyfrifol o fewn y sefydliad ar gyfer adolygiadau rheolaidd o’r defnydd o bolisi Gwaith Ieuenctid

Strategaeth Dysgu

  • Adnoddau mewn lle ar gyfer dysgu a datblygu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr
  • Anghenion dysgu unigol yn cael eu hadnabod yn rheolaidd gan y sefydliad
  • Anghenion dysgu penodol ar gyfer y gwasanaeth yn cael eu hadolygu yn rheolaidd gan y sefydliad
  • Mae yna berson sydd yn gyfrifol am oruchwilio gweithgareddau dysgu a datblygiad

Dysgu a Datblygiad

  • Mae’r sefydliad yn darparu gwybodaeth ac anogaeth i gael mynediad i ddysgu i wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr.
  • Cyfleoedd ar gael i bawb gael mynediad i raglenni dysgu achrededig
  • Mae holl wirfoddolwr, ymddiriedolwyr a gweithwyr yn ymwybodol o’r dilyniant ym mhroffesiwn Gwaith Ieuenctid
  • Mae yna raglen anwytho gynhwysol wedi’i sefydlu i holl wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr
  • Mae rhaglenni dysgu wedi cael eu cwblhau’n llwyddiannus gan wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a staff
  • Mae adnoddau dysgu yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan holl ddefnyddwyr y sefydliad

Adnabyddiaeth

  • Mae yna systemau wedi’u sefydlu i gofnodi ac adnabod ymarfer da sydd yn digwydd o fewn y sefydliad
  • Mae cyflawniad gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a gweithwyr yn cael ei gydnabod a’i ddathlu

Monitro a Rheolaeth Perfformiad

  • Mae yna ddulliau mewn lle ar gyfer y sefydliad i fonitro a gwerthuso ei weithgareddau dysgu a datblygiad
  • Mae yna ddulliau mewn lle i ddangos bod adborth dysgu a datblygiad yn cael ei weithredu arno
  • Mae yna ddulliau mewn lle i’r sefydliad fonitro a gwerthuso ansawdd y ddarpariaeth i bobl ifanc
  • Mae mewnbwn yn cael ei gasglu gan bobl ifanc am sut maent yn profi’r ddarpariaeth Gwaith Ieuenctid
  • Mae’r effaith o ddysgu o fewn y sefydliad yn cael ei adnabod

Meini Prawf Llwyddiant

Bydd sefydliadau yn cael eu gwobrwyo gyda Marc Ansawdd pan fydd o leiaf 16 (80%) o’r Datganiadau Ansawdd efo digon o dystiolaeth eu bod wedi cyfarfod neu ragori’r safonau gofynnol gyda’r ardaloedd eraill wedi’u categoreiddio fel ‘Datblygol’.

Proses gwneud cais am y Marc Ansawdd CWVYS

I fynegi diddordeb cysylltwch â CWVYS ar admin@cwvys.org.uk

Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Cymru, Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH

Am sgwrs anffurfiol a manylion pellach cysylltwch â’r Swyddog Hyfforddiant a Datblygu – catrin@cwvys.org.uk