Ymgynghoriad ar Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Cymru

Efallai bydd ein aelodau yn cofio o’n Cylchlythyr Rhyngwladol mis ‘ma (a llawer o’r rhai flaenorol ers cyhoeddi’r rhaglen), wybodaeth am Raglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Cymru. Ar hyn o bryd mae yna broses ymgynghori sy’n agored i’r sector Ieuenctid (gyfan), a gall pobl helpu lunio’r rhaglen a chodi blaenoriaethau gyda’r tîm datblygu polisi.

Ar hyn o fryd dyma’r ffurflen ymgynghori; https://forms.office.com/r/dWN3vz04K0

Mae llawer o gwestiynau, ond fel y dywed ar y dudalen ymgynghori (yn Saesneg); “Unrhyw beth na allwch ei ateb, gadewch yn wag.”

Mae hefyd yn nodi “nid oes opsiwn i safio gyda’r ffurflen hon. Bydd yn cymryd tua 30 munud i’w gwblhau.”

Os ydych yn cyflwyno ymateb, byddwn yn argymell ysgrifennu eich atebion mewn dogfen eiriau neu e-bost drafft ar wahan, unrhyw beth sy’n caniatáu ichi safio wrth fynd ymlaen, fel na fyddwch wedi colli’ch holl atebion os bydd unrhyw beth yn digwydd!

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymateb yw’r 19eg o Hydref 2021 am 5yp.

Os oes gan unrhyw un diddordeb, trafodir hyn yn y Gynhadledd Genedlaethol Waith Ieuenctid ar 14 Hydref, mae manylion ar sut i archebu’ch lle am ddim yn y gynhadledd i’w gweld ar ein gwefan yma;

https://www.cwvys.org.uk/fwciwch-lle-ar-gyfer-cynhadledd-genedlaethol-gwaith-ieuenctid-2021-ar-ddydd-iau-14-hydref/?lang=cy

Yn anffodus, ni fydd cyfieithiad Cymraeg o’r ffurflen ymgynghori ar gael tan “yr wythnos nesaf”. I’r rhai sy’n gobeithio ymateb yn Gymraeg, gallaf awgrymu eich bod yn dechrau llunio’ch atebion (yn seiliedig ar y cwestiynau Saesneg) cyn i’r ffurflen ddod ar gael os yw amser yn broblem i chi ac efallai na fyddwch yn gallu cyflwyno eich ymateb ar ôl yr wythnos nesaf (oherwydd staff ar wyliau er enghraifft).

Fel rhan o datblygiad y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu, mae swydd wag ar gyfer Cyfarwyddwr Gweithredol. Mae wybodaeth dwyieithog yma;

https://www.odgersberndtson.com/en-gb/opportunities#AssignDetail.aspx?guid=83750

SWYDD WAG: YMCA Abertawe

Mae gan YMCA Abertawe gyfle newydd cyffrous i ymuno â’r tîm fel Awdur Cynigion a’n helpu i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau plant a phobl ifanc ledled Abertawe.

• Awdur cynigion yn YMCA Abertawe
• £ 32,000 pro rata
• 18.5 awr yr wythnos
• Tachwedd 2021
• Abertawe a Gartref
• Anfonwch CVs at amrogan@ymcaswansea.org.uk
• Dyddiad cau 15 Hydref

 

Mwy o wybodaeth yn y dogfen yma; Ysgrifenydd Ceisiadau

Ffoniwch am sgwrs anffurfiol a mwy o wybodaeth Anne-Marie 07792064156.

Diolch!

A allwch chi ddosbarthu hwn ar draws eich rhwydwaith os gwelwch yn dda.

Diolch

Anne-Marie Rogan
Prif Swyddog Gweithredol
Prif ddogfennaeth
E amrogan@ymcaswansea.org.uk
W www.ymcaswansea.org.uk

Hyfforddiant Model Adfer Trawma AM DDIM ar gyfer gweithwyr ieuenctid / gweithwyr cymorth ieuenctid (Rhagfyr 6-8)

Yn dilyn llwyddiant ac effaith y digwyddiadau hyfforddi ar y Model Adfer wedi Trawma a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynwyd gan CLlLC, cytunwyd i gyflwyno cwrs pellach ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid a gwasanaethau cefnogi ieuenctid ar draws Cymru. Mae’r digwyddiad hwn, a fydd yn cael ei gynnal dros dridiau o 6 – 8 Rhagfyr 2021, ar-lein trwy gyfrwng Microsoft Teams, ac mae ar gael i gynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol a’r awdurdodau lleol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd cyfle i gynrychiolwyr gwblhau aseiniad diwedd cwrs gyda’r bwriad o fod yn Ymarferwyr MAwT achrededig, sef un o’r gofynion i gael mynediad i’r rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwr MAwT.

Dyma’r ffurflen ‘gwneud cais i fynychu’, ond os bydd gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser, cysylltwch â tim.opie@wlga.gov.uk neu silvi.spiegel@wlga.gov.uk

Dod â Chosb Gorfforol i ben – newid yn y gyfraith

Neges gan gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am newidiadau deddfwriaethol;

O 21 Mawrth, 2022, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Cynhaliwyd ymgyrchh Stopio Cosbi Corfforol ar ddydd Mawrth 21 Medi, gan nodi ‘chwe mis i fynd’ cyn i’r gyfraith ddod i rym.

Fel rhan o’r ‘lansiad mawr’ rydym yn cyhoeddi hysbysebion teledu, radio, digidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yma mae dolen i’n pecyn partner sy’n 

cynnwys adnoddau ar gyfer eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. 

https://wales.assetbank-server.com/assetbank-wales/images/assetbox/ce40e904-b1b3-4ca8-b0f6-98f9e78cd2ad/assetbox.html

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ein cefnogi i godiymwybyddiaeth am y newid yn y gyfraith.  

Diolch am eich cefnogaeth barhaus,

Nia Jones

Uwch-reolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Deddfwriaeth

Llywodraeth Cymru

Fwciwch lle ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid 2021 ar ddydd Iau 14 Hydref

Yma gallwch ddod o hyd i neges gan drefnwyr y gynhadledd ar sut i archebu’ch lle;

Mae Cynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid 2021 yn ddigwyddiad rhithwir dros ddiwrnod cyfan. Mae’n gyfle i glywed gan ein prif siaradwyr ac i glywed am ddatblygiadau o bob rhan o’r sector. Mae hefyd yn gyfle i rwydweithio, trafod arfer da a rhannu syniadau o’r sector gwaith ieuenctid a thu hwnt.

Bydd y gynhadledd yn defnyddio platfform Hopin felly os nad oes gennych chi gyfrif Hopin eisoes, bydd angen i chi gofrestru i gael un.

I fwcio eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen hon:

https://hopin.com/events/youth-work-national-conference

Cliciwch ar “Join event” neu “View tickets”.
Ar sgrin “Select tickets” fe welwch chi:

 

OS OES GENNYCH CHI GYFRIF HOPIN

Os oes gennych chi gyfrif Hopin eisoes, cliciwch ar “Sign in to join the event”, a mewngofnodwch i Hopin ar sgrin Welcome Back fel arfer.

Ar y sgrin nesaf, “Checkout”, ychwanegwch y wybodaeth ychwanegol ofynnol a chliciwch ar “Complete Order”.

Bydd hwn yn mynd â chi i ardal aros y digwyddiad. Cliciwch ar “Create your profile” – bydd hwn yn eich helpu i gael y gorau allan o’r cyfleoedd rhwydweithio sydd ar gael ar ddiwrnod y digwyddiad.

I ddychwelyd i’r digwyddiad ar y diwrnod, defnyddiwch y ddolen uchod a sicrhewch eich bod yn mewngofnodi yng nghornel uchaf de’r sgrin. (Peidiwch â chlicio ar View Tickets).

 

OS NAD OES GENNYCH CHI GYFRIF HOPIN

Os nad oes gennych chi gyfrif gyda Hopin, cliciwch ar “Create new account”.

Cliciwch ar “Sign up with email” a rhowch eich manylion.

Ar y sgrin nesaf, “Checkout”, ychwanegwch y wybodaeth ychwanegol ofynnol a chliciwch ar “Complete Order”.

Bydd hwn yn mynd â chi i ardal aros y digwyddiad. Cliciwch ar “Create your profile” – bydd hwn yn eich helpu i gael y gorau allan o’r cyfleoedd rhwydweithio sydd ar gael ar ddiwrnod y digwyddiad.

I ddychwelyd i’r digwyddiad ar y diwrnod, defnyddiwch y ddolen uchod a sicrhewch eich bod yn mewngofnodi yng nghornel uchaf de’r sgrin. (Peidiwch â chlicio ar View Tickets).

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y broses gofrestru, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad ar info@spencerdavid.co.uk.

 

 

Mewn newyddion eraill gan gangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru;

Mae’r rhifyn diweddaraf o’r cylchlythr Gwaith Ieuenctid o’r Llywodraeth Cymru ar gael yma; https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CY/bulletins/2ef5285

 

Os hoffech danysgrifio i’r gylchlythyr Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru cliciwch yma https://public.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CY/subscriber/new?topic_id=UKWALES_CY_78

Data’r Cyngor Gweithlu Addysg

Mae’r Cyngor Gweithlu Addysg (CGA) wedi’u cyhoeddi ei ddata diweddaraf ar y gweithlu addysg yng Nghymru. Yn seiliedig ar wybodaeth sy’n deillio o’n Cofrestr Ymarferwyr Addysg, mae Ystadegau blynyddol y gweithlu addysg i Gymru 2021 yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i gyfansoddiad y gweithlu addysg.

Maen’t hefyd wedi cyhoeddi ystod o ystadegau ar wahân ar y gweithlu sydd ar gael ar ei wefan.

SWYDD WAG Cynorthwyydd Cyfathrebu Digidol

Hoffwn tynnu eich sylw tuag at swydd wag am Cynorthwyydd Cyfathrebu Digidol, swydd a fydd yn cefnogi Ellie Parker, y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer y sector Gwaith Ieuenctid.

CYNORTHWYYDD CYFATHREBU DIGIDOL (DWYIEITHOG: CYMRAEG/SAESNEG)

2021/22

 

Oriau gwaith:                                     30 yr wythnos

 

Hyd y cytundeb:                                Hydref 2021 i 31 Mawrth 2022

                                                           

Cyflog:                                               £27,041 pro-rata (£10,963 gwirioneddol)

 

Yn atebol i:                                        Prif Weithredwr CWVYS

 

Man Gweithio:                                   Gartref ac yn swyddfa CWVYS (Bae Caerdydd) fel bo’n briodol. Mae’n bosib y bydd gofyn i chi deithio ar hyd a lled Cymru hefyd.

 

Dymuna CWVYS recriwtio a lletya Cynorthwyydd Cyfathrebu Digidol, gan weithio ochr yn ochr â Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r sector gyda chyfrifoldeb am amrediad o ddyletswyddau a phrosiectau. Ariennir y swydd hon gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion marchnata a chyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid cyfan yng Nghymru.

Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk  Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 10.00am ar Medi y 29ain 2021.

Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.

Diolch am eich diddordeb.

Adroddiad Terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro

Fel y clywsoch efallai, yn sicr i’r rhai a daeth i’r Cyfarfod Rhanbarthol bore ‘ma, mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol, “Mae’n Bryd Cyflawni dros Bobl Ifanc yng Nghymru”; https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-09/sicrhau-model-cyflawni-cynaliadwy-ar-gyfer-gwasanaethau-gwaith-ieuenctid-yng-nghymru-adroddiad-terfynol.pdf

Yma gallwch ddod o hyd i ‘ffeithlun’ ar gyfer Pobl Ifanc; https://llyw.cymru/adroddiad-bwrdd-gwaith-ieuenctid-dros-dro-beth-yw-dyfodol-gwaith-ieuenctid-yng-nghymru-ffeithlun-i

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen datganiad cychwynnol y Gweinidog; https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyhoeddi-adroddiad-bwrdd-gwaith-ieuenctid-dros-dro-cymru

Os ydych chi am rhannu fideo fyr am yr adroddiad, dyma fe;

Cyllid Grant Cymorth Ieuenctid Ychwanegol sy’n targedu Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol

Mae Tîm Ymgysylltu Ieuenctid y Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid Grant Cymorth Ieuenctid gwerth £2.5 miliwn yn ychwanegol i’w dargedu at Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol Pobl Ifanc.

Fel y gwyddoch o negeseuon blaenorol CWVYS i chi, mae’r cronfeydd hyn wedi ei roi i awdurdodau lleol y mae angen cyflwyno eu cynlluniau gwaith unigol i Lywodraeth Cymru erbyn 21ain Medi.

Yn gadarnhaol, mae’r meini prawf yn nodi bod yn rhaid i’r cynlluniau gwaith gael eu llofnodi gan yr awdurdod lleol a sefydliadau’r sector gwirfoddol sydd wedi bod yn ymwneud â’u dyluniad.

Felly byddem yn eich annog unwaith eto i gysylltu â Phrif Swyddogion Ieuenctid yr awdurdod lleol (gellir dod o hyd i’r rhestr gyswllt yma; Rhestr Cysylltiadau PYOG Medi 2021).

Dyma’r ddolen wreiddiol i’r newyddion gan y Gweinidog:

Cyhoeddi cefnogaeth ychwanegol i iechyd meddwl ieuenctid | LLYW.CYMRU