Pwyllgor Pobl Ifanc Gwaith Ieuenctid.

Isod gallwch ddod o hyd i neges fer gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â gwahoddiad i Dendro.

Bydd cyfle i gydlynu a rheoli Pwyllgor Pobl Ifanc Gwaith Ieuenctid.

ITQ – Young Persons Comittee – 2023 CYM

ITQ – Young Persons Committee – Standard Conditions of Service_CYM

Gweler y dolenni uchod am Wahoddiad i Dendro i gydlynu a rheoli Pwyllgor Pobl Ifanc Gwaith Ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan sefydliadau unigol neu gonsortia.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cyfeiriwch nhw at y blwch post gwaithieuenctid@llyw.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 1pm ddydd Llun, 16 Ionawr 2023.

Datganiad ac Ymgynghoriad; cynigion i ychwanegu at gategorïau ar gyfer cofrestru gyda CGA

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad heddiw ar yr ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth ddrafft ar gynigion i ychwanegu categorïau cofrestru ar gyfer y rhai y mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir cael mynediad i’r datganiad a’r dogfennau ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad blaenorol mewn perthynas â’r cynigion yn gysylltiedig â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich mewnbwn parhaus i’r gwaith hwn a byddwn yn parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ar y newidiadau arfaethedig. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ar y newidiadau arfaethedig i gofrestru gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid at gwaithieuenctid@llyw.cymru

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 17 Chwefror 2023.

Digwyddiadau Taith Llwybr 1

Mae Taith yn cynnal sesiynnau Rhagarweiniol i Lwybr 1 cyn i’r alwad ariannu nesaf agor ym mis Ionawr 2023.

Os hoffech ymuno i glywed mwy am y broses ymgeisio a gofyn unrhyw gwestiynau, bydd dwy sesiwn yr wythnos nesaf:

 

14eg Rhagfyr 4-5pm

16 Rhagfyr 12.30-1.30pm

 

I fynychu unrhyw un o’r rhain cofrestrwch trwy’r dolenni uchod. Os hoffech chi gael gwybod mwy am Taith Llwybr 1 edrychwch ar ein tudalen adnoddau; https://www.cwvys.org.uk/resources/?lang=cy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â Taith trwy ymholiadau@taith.cymru

Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru rywfaint o wybodaeth am ei gweledigaeth ar gyfer Ysgolion Bro, pam eu bod yn bwysig a’r hyn y maent yn gobeithio y byddant yn ei gyflawni i bobl Cymru.

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth yn llawn yma; Ysgolion Bro

Dywedasant pam fod y syniad hwn yn bwysig;

Rydym am i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgolion Bro:

adeiladu partneriaeth gref gyda theuluoedd
ymateb i anghenion eu cymuned
cydweithio’n effeithiol â gwasanaethau eraill

Mae’r erthygl yn parhau;

Mae Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, wedi cydnabod pwysigrwydd Ysgolion Bro. Mae eu hadroddiad, Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth galon bywyd ysgol’ yn darparu astudiaethau achos sy’n dangos agweddau ar bob elfen o’r dull gweithredu ysgolion bro. Maent hefyd yn nodi 8 nodwedd ddiffiniol Ysgol Fro:

  1. ffocws ar anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd pob dysgwr gan gynnwys mynediad at ystod gydlynol o wasanaethau a chynlluniau dysgu personol
  2. ymgysylltu â theuluoedd, yn aml yn cynnwys datblygu gwasanaeth cymorth i deuluoedd yn yr ysgol
  3. ymgysylltu â’r gymuned ehangach, gan ddarparu’r cyfle a’r mecanweithiau i feithrin gallu yn y gymuned leol
  4. darpariaeth integredig o addysg ysgol, addysg anffurfiol yn ogystal ag addysg ffurfiol, gwaith cymdeithasol ac addysg iechyd a gwasanaethau hybu
  5. rheolaeth integredig a gefnogir yn aml gan reolwr integreiddio
  6. gwasanaethau a ddarperir yn unol â set o amcanion integredig a chanlyniadau mesuradwy, nodwedd arwyddocaol mewn llawer o achosion yw cydleoli
  7. ymrwymiad ac arweinyddiaeth
  8. hyfforddiant amlddisgyblaethol a datblygiad staff

Yma gallwch ddod o hyd i ddiagram o fodel y Llywodraeth ar gyfer Ysgolion Bro: