Diweddariad gan Gadeirydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Diweddariad gan Gadeirydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Sharon Lovell MBE

Helo Pawb,

Gobeithio eich bod popeth yn dda gyda chi yn ystod y tywydd poeth iawn hwn ac eich bod yn cadw’n ddiogel. Ro’n i am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am yr hyn sy’n digwydd o ran gwaith y Grwpiau Cyfranogiad Strategaeth (GCS) wrth i ni bontio i’r Bwrdd Gweithredu newydd.

Fel dwi’n siŵr y mae’r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, ym mis Mehefin cynhaliodd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ei gyfarfod olaf. Rhoddodd hwn gyfle inni fyfyrio ar y llwyddiannau ry’n ni, fel sector, wedi’u cyflawni. Ry’n ni mor falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni gyda’n gilydd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at daro mlaen â’n gwaith ymhellach i sicrhau bod gwaith ieuenctid Cymru yn gynaliadwy. Roedd hwn hefyd yn ein galluogi i drafod yr angen am newid ffocws o siarad am yr hyn sydd angen ei wneud i weithredu!

Mae hyn wedi dechrau gyda phenodiad y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, a dwi wrth fy modd y bydda i yn cadeirio’r Bwrdd newydd. Rydw i eisoes yn gweithio ar recriwtio gweddill aelodau’r Bwrdd i Weinidog y Gymraeg Addysg gymeradwyo. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi mynegi diddordeb yn swyddi newydd y Bwrdd, ac rwy’n hyderus y bydd gyda ni Fwrdd cryf yn ei le yn fuan a gobeithiwn allu cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Medi.

Gan fod gofod bach bellach cyn cynnal y cyfarfod cyntaf, roeddwn am roi diweddariad byr o’r hyn sydd fy nharo i am waith y GCSau, a hefyd i ddiolch i chi i gyd am y cyfraniad gwerthfawr rydych chi wedi’i wneud i’n helpu i gyrraedd pwynt o allu symud ymlaen gyda gweithredu argymhellion y Bwrdd blaenorol.

Yr hyn sy’n amlwg i mi yw bod angen inni sicrhau ein bod yn parhau i weithio mewn ffordd gydweithredol ac effeithiol, er mwyn inni barhau i symud ymlaen gyda’n gilydd fel sector, gan rannu gwybodaeth a sgiliau ar hyd y ffordd. Mae’r adborth a ddarparwyd yn y cyfarfod GCS ar y cyd ar 2 Mawrth eleni yn awgrymu eich bod i gyd wedi croesawu’r ymagwedd gyfranogol ac yn gallu gweld manteision hyn wrth symud ymlaen. Roedd cydnabyddiaeth y gallai fod angen ailffocysu gwaith y GCSau yn unol â’r argymhellion, efallai y bydd angen ailenwi’r grwpiau, a rhaid nawr ystyried cylch gorchwyl ac aelodaeth y grwpiau hyn. Mae rhagor o enghreifftiau o’ch adborth o’r cyfarfod ynghlwm.

Rydw i felly wedi gwneud y penderfyniad, yn dilyn trafodaethau gyda Chadeiryddion presennol y GCSau, y bydd y rhan fwyaf, ond nid y cyfan, o’r gwaith yr oeddent yn ei wneud yn oedi hyd nes y bydd y Bwrdd newydd wedi cyfarfod ac wedi ystyried y camau nesaf ar gyfer y GCSau ac ar gyfer ein cynllun gwaith ni. Mae rhai gweithgareddau’n parhau, sef yn bennaf lle bydd gweithredu cynnar yn ddefnyddiol i drafodaethau cychwynnol y Bwrdd newydd, ac wrth gwrs ar gyfer gwaith mwy hir hirdymor yn gysylltiedig â marchnata a chyfathrebu. Bydd y modd y bydd y GCSau yn gweithredu i’r dyfodol yn flaenoriaeth i’r Bwrdd newydd yn ei gyfarfodydd cychwynnol a byddaf yn ysgrifennu atoch cyn gynted â phosibl yn dilyn y trafodaethau i amlinellu ein bwriadau, ac i geisio aelodaeth ar gyfer y grwpiau hyn.

Bydd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i ni fod yn glir ynglŷn â beth fydd rôl arweiniol y Bwrdd newydd ar gyfer y grwpiau hyn. Dwi’n arbennig o awyddus i ddeall be allai hynny ei olygu o ran sicrhau ein bod ni’n ystyried anghenion holl bobl ifanc Cymru i sicrhau mynediad cyfartal i bawb.

Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi’n parhau i fod â diddordeb ac yn angerddol am ein helpu ni i daro mlaen â’r gwaith hwn dros y blynyddoedd nesaf, ac unwaith eto fedra i ond dweud pa mor ddiolchgar ydw i am yr holl waith ry’ch chi wedi’i wneud hyd yma. Rwy’n gobeithio y gallwn adeiladu ar hyn i sicrhau bod gyda ni fodel gwaith ieuenctid yng Nghymru y gallwn i gyd ddweud ein bod wedi helpu i’w ddatblygu ac ein bod ni’n ymfalchïo ynddo ar gyfer pob person ifanc.

 

Cofion gorau

Sharon

 

Adborth o gyfarfod rhwydwaith Grwp Cyfranogi y Strategaeth (GCS) Ar y Cyd 2 Mawrth 2022

Cwestiwn o’r sesiwn grŵp – adolygu a gwerthuso gwaith y GCSau. Beth sydd wedi mynd yn dda, beth ellid ei wella a beth sydd nesaf?

 

Yn gyffredinol, mae’r GCSau wedi darparu cyfleoedd rhwydweithio gwych drwy gydol oes y GCSau. Rydym wedi gallu rhannu a chysylltu, cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn enwedig ynghylch y materion sy’n ymwneud â’r pandemig.

  • Roedd y cynlluniau gwaith yn gyfle i ddatblygu modelau ar gyfer y dyfodol, gan gydweithio
  • Bu llawer o drafod ynghylch capasiti unigolion a sefydliadau i ymgysylltu â’r gwaith a’r cynlluniau gwaith pan roeddent wrthi yn cael eu datblygu. Roedd awgrym bod angen cefnogaeth uwch arweinwyr o fewn sefydliadau i sicrhau bod eu gweithwyr yn cael amser i gymryd rhan yng ngwaith y grwpiau.
  • Mae’n wirioneddol bwysig sicrhau bod y bobl iawn yn cymryd rhan yn y grwpiau, a rhaid i’r grwpiau gael ffocws a chyfeiriad.
  • Mae angen parhau â pheth o’r gwaith wrth i’r gwaith o weithredu’r argymhellion fynd rhagddo. Fodd bynnag, mae angen ystyried newid yr enwau i adlewyrchu’r symudiad i gyfnod gwahanol o’r gwaith.
  • Cydnabod yr angen am sefydlogrwydd mewn aelodaeth – yr aelodaeth gywir sy’n gallu cefnogi’r gwaith, ond hefyd i wahodd eraill yn ôl yr angen ar gyfer lefelau penodol o arbenigedd a sgiliau.
  • Croesawyd y cyfle i gyfarfod ar-lein a oedd yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru, ac i fynychu’n weddol reolaidd gan y gall blethu â gwaith arall drwy gydol y dydd.
  • Maent yn rhoi cyfle i weithio’n agos gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru a chroesawyd hynny.
  • Mae angen ystyried ymhellach gynlluniau gwaith a gorgyffwrdd rhwng rhai o’r grwpiau.
  • Er bod grwpiau’n awyddus i recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan yn y grwpiau, ar y cyfan nid oedd hyn yn gweithio’n dda ac roedd yn anghyson ar draws y GCS. Mae angen gwneud gwaith pellach i ystyried sut mae llais pobl ifanc yn cael ei glywed ac ymateb iddo.
  • Mae angen sicrhau ymagwedd gyfranogol barhaus mewn gweithgorau yn y dyfodol, ac mae angen i’r grwpiau gael adnoddau priodol gan gynnwys cefnogi cyfranogiad pobl ifanc.
  • Mae angen brand gwaith ieuenctid clir i helpu i fod yn sylfaen i bopeth, sy’n rhan annatod o’r strategaeth hirdymor gysylltiedig, a gall helpu pobl ifanc i nodi eu bod yn mynychu gwasanaethau gwaith ieuenctid/denu at wasanaethau, a hefyd i ddenu gweithwyr proffesiynol i weithio yn y sector.

Haf o Hwyl; Ymgeiswyr Llwyddiannus

Diolch i gefnogaeth gan raglen Chwarae a Chymunedau Haf o Hwyl y Llywodraeth Cymru, mae CWVYS wedi rhoi grantiau o werth £216,718.34 i’r 30 sefydliadau canlynol sy’n aelodau o CWVYS;

Adoption UK Cymru, BAD Bikes, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, Strategaeth Bryncynon, Her Cymru, Cerdd Gymunedol Cymru, Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, Dal Dy Dir, EYST, Foothold Cymru, GISDA, KPC Youth, Media Academy Cymru , Mencap Cymru, NYAS Cymru, ProMo Cymru, Clwb Ffermwyr Ifanc Radnor, Theatr Spectacle, St John Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens & George, Swansea MAD, SYDIC, TAPE Music & Film, The Tanyard Youth Project, Twyn Community Hub, UCAN Productions , YMCA Pen-y-bont ar Ogwr, YMCA Caerdydd ac YMCA Abertawe! Waw!

 

Rhyngddynt byddant yn cynnig gweithgareddau Haf o Hwyl ar draws Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Benfro, Powys, RhCT, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam ac Ynys Môn.

Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ac rydyn ni’n edrych ymlaen at Haf o Hwyl hapus !

 

21/07/22 Cyfarfod CWVYS Cymru Gyfan

21 Gorffennaf 2022 Cyfarfod CWVYS Cymru Gyfan – 10yb – 11.30yb

Bydd y cyfarfod nesaf CWVYS yb Cyfarfod Cymru Gyfan, a gynhelir ar 21 Gorffennaf. Bydd y cyfarfod yn ffocysu, yng nghwmni swyddogion Llywodraeth Cymru, ar y Cwricwlwm i Gymru ac Ysgolion Cymunedol.

Fel yr arfer bydd yn gyfle i chi rannu manylion am eich darpariaeth chi, rhoi diweddariadau parthed Gwaith Ieuenctid Cymru i rwydweithio ac i ofyn cwestiynau i’n rhwydwaith o aelodau.

Agenda

  • Diweddariad ar ysgolion Cymunedol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
  • Diweddariad ac amserlen y cwricwlwm i Gymru gan swyddogion Llywodraeth Cymru
  • Diweddariad aelodau

 

RSVP – Catrin@cwvys.org.uk

Bydd y dolenni ymuno yn cael eu hanfon atoch ddydd Mercher Gorffennaf 20fed.

 

Taith Llwybr 2 yn agor yn yr Hydref

 

Newyddion o’r tîm Taith wedi eu cyhoeddi wythnos ‘ma; Taith Llwybr 2 Partneriaethau a Chydweithio Strategol yn agor yn yr Hydref

Mae Taith yn falch o gyhoeddi y byddwn yn agor yn ystod yr Hydref (2022) ein galwad am geisiadau ar gyfer Llwybr 2: Partneriaethau a Chydweithio Strategol, sy’n agored i’r sectorau addysg bellach, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion, ysgolion ac ieuenctid yng Nghymru.

Er mwyn cymryd rhan yn Llwybr 2, rhaid i sefydliadau yng Nghymru bartneru â sefydliad rhyngwladol.

Byddwn yn ariannu prosiectau rhwng sefydliadau cymwys yng Nghymru a’u partneriaid rhyngwladol sy’n dymuno cydweithio a rhannu eu harbenigedd a’u harferion gorau ar nod strategol. Ar ddiwedd y prosiect, bydd y bartneriaeth wedi cynhyrchu adnodd, offeryn neu allbwn ymarferol arall sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu sy’n hybu arfer da yn y sectorau addysg, hyfforddiant ac ieuenctid yng Nghymru.

 

Sut i gymryd rhan?

Mae’n bwysig dechrau chwilio am bartneriaid posibl ac ystyried y maes neu’r pwnc yr hoffech gydweithio arno. Bydd Llwybr 2 yn cael ei lansio ym mis Hydref, a chynhelir digwyddiadau dros y cyfnod hwn i roi mwy o wybodaeth a chymorth i ymgeiswyr.

 

Pam cymryd rhan?

Trwy Lwybr 2, byddwn yn cysylltu sefydliadau Cymreig â phartneriaid rhyngwladol, gan ddefnyddio symudedd a chydweithio i hwyluso partneriaethau a fydd o fudd i’r sector addysg, hyfforddiant ac ieuenctid yng Nghymru’n gyffredinol, gan gynnwys:

 

  • Arloesi ym maes addysg, hyfforddiant ac ieuenctid Cymru, gan sicrhau bod Cymru’n arwain yn y meysydd hyn.
  • Codi proffil sefydliadau Cymreig mewn addysg, hyfforddiant ac ieuenctid.
  • Mynd i’r afael â materion allweddol yn y sectorau addysgol yng Nghymru a’r gymdeithas ehangach.
  • Hwyluso mynediad Cymreig i sefydliadau rhyngwladol a defnyddio’r rhwydweithiau hyn a gwybodaeth ac arbenigedd partneriaid.
  • Creu partneriaethau hir-dymor gan wella gallu’r sefydliadau Cymreig i gydweithio â phartneriaid rhyngwladol trwy gyfnewid pellach.
  • Mynd i’r afael â’r rhwystrau i gyfranogiad yn Llwybr 1 Taith a chynyddu cyfleoedd cyfranogiad.

 

Gwybodaeth bellach

Ewch i wefan Taith.cymru neu cysylltwch â thîm Taith ar enquiries@taith.wales am ragor o wybodaeth.

CWVYS, mewn partneriaeth â Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru a WCIA, yw’r Corff Trefnu ar gyfer y Sector Ieuenctid yng Nghymru, i ddarganfod mwy am y gefnogaeth a gynigir, ewch i’n tudalen adnoddau yma; https://www.cwvys.org.uk/adnoddau/ neu e-bostiwch Swyddog Cyfathrebu CWVYS drwy Helen@cwvys.org.uk