Newyddion o’r tîm Taith wedi eu cyhoeddi wythnos ‘ma; Taith Llwybr 2 Partneriaethau a Chydweithio Strategol yn agor yn yr Hydref

Mae Taith yn falch o gyhoeddi y byddwn yn agor yn ystod yr Hydref (2022) ein galwad am geisiadau ar gyfer Llwybr 2: Partneriaethau a Chydweithio Strategol, sy’n agored i’r sectorau addysg bellach, addysg a hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion, ysgolion ac ieuenctid yng Nghymru.

Er mwyn cymryd rhan yn Llwybr 2, rhaid i sefydliadau yng Nghymru bartneru â sefydliad rhyngwladol.

Byddwn yn ariannu prosiectau rhwng sefydliadau cymwys yng Nghymru a’u partneriaid rhyngwladol sy’n dymuno cydweithio a rhannu eu harbenigedd a’u harferion gorau ar nod strategol. Ar ddiwedd y prosiect, bydd y bartneriaeth wedi cynhyrchu adnodd, offeryn neu allbwn ymarferol arall sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu sy’n hybu arfer da yn y sectorau addysg, hyfforddiant ac ieuenctid yng Nghymru.

 

Sut i gymryd rhan?

Mae’n bwysig dechrau chwilio am bartneriaid posibl ac ystyried y maes neu’r pwnc yr hoffech gydweithio arno. Bydd Llwybr 2 yn cael ei lansio ym mis Hydref, a chynhelir digwyddiadau dros y cyfnod hwn i roi mwy o wybodaeth a chymorth i ymgeiswyr.

 

Pam cymryd rhan?

Trwy Lwybr 2, byddwn yn cysylltu sefydliadau Cymreig â phartneriaid rhyngwladol, gan ddefnyddio symudedd a chydweithio i hwyluso partneriaethau a fydd o fudd i’r sector addysg, hyfforddiant ac ieuenctid yng Nghymru’n gyffredinol, gan gynnwys:

 

  • Arloesi ym maes addysg, hyfforddiant ac ieuenctid Cymru, gan sicrhau bod Cymru’n arwain yn y meysydd hyn.
  • Codi proffil sefydliadau Cymreig mewn addysg, hyfforddiant ac ieuenctid.
  • Mynd i’r afael â materion allweddol yn y sectorau addysgol yng Nghymru a’r gymdeithas ehangach.
  • Hwyluso mynediad Cymreig i sefydliadau rhyngwladol a defnyddio’r rhwydweithiau hyn a gwybodaeth ac arbenigedd partneriaid.
  • Creu partneriaethau hir-dymor gan wella gallu’r sefydliadau Cymreig i gydweithio â phartneriaid rhyngwladol trwy gyfnewid pellach.
  • Mynd i’r afael â’r rhwystrau i gyfranogiad yn Llwybr 1 Taith a chynyddu cyfleoedd cyfranogiad.

 

Gwybodaeth bellach

Ewch i wefan Taith.cymru neu cysylltwch â thîm Taith ar enquiries@taith.wales am ragor o wybodaeth.

CWVYS, mewn partneriaeth â Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru a WCIA, yw’r Corff Trefnu ar gyfer y Sector Ieuenctid yng Nghymru, i ddarganfod mwy am y gefnogaeth a gynigir, ewch i’n tudalen adnoddau yma; https://www.cwvys.org.uk/adnoddau/ neu e-bostiwch Swyddog Cyfathrebu CWVYS drwy Helen@cwvys.org.uk