YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL STADIWM Y MILENIWM

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar agor i dderbyn ceisiadau gan Grwpiau LLEOL am gyllid.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm drwy gytundeb rhwng Stadiwm y Mileniwm a Chomisiwn y Mileniwm a chaiff ei hincwm ei gynhyrchu drwy ardoll ar bob tocyn gaiff ei brynu gan bobl sy’n mynychu digwyddiadau cyhoeddus yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i gyfoethogi ansawdd bywyd mewn cymunedau yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn prosiectau ysbrydoledig chwaraeon, celfyddydol, amgylcheddol ac wedi’u seilio yn y gymuned a fydd yn cael effaith hirdymor ar y bobl sy’n buddio.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni hyn trwy ddosbarthu grantiau i sefydliadau gwirfoddol ac elusennol ledled Cymru.

Y dyddiad cau i dderbyn Ceisiadau Lleol yw canol dydd ar y 10.01.2020.  Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cyfarfod yr wythnos yn cychwyn y 19.03.2020

Gall ymgeiswyr wneud cais am grant i fyny at £2,500.00 ble fydd cylch gorchwyl y prosiect yn gwasanaethu’u cymuned neu dref leol.

Ewch i’r wefan am fanylion ac i lawrlwytho ffurflen gais: http://www.millenniumstadiumtrust.co.uk

Am ymholiadau yn ymwneud â’r rownd hon cysylltwch â Sarah Fox yn FoxSE Consultancy trwy ffonio 029 20 022 143 neu e-bostio sarah@foxseconsultancy.co.uk neu msct@foxseconsultancy.co.uk

CYMWYS AR GYFER Y DYFODOL

Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio Cymwys ar gyfer y Dyfodol, eu ymgynghoriad sy’n edrych ar y cymwysterau sydd eisiau am y cwricwlwm newydd.

Eu gweledigaeth yw bod pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn cymryd cymwysterau uchel eu parch sy’n eu hysbrydoli a’u paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith – ac mae’nt yn awyddus i wybod beth yw eich barn chi.

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth wrth dilyn y ddolen isod:

https://www.qualificationswales.org/cymraeg/cymwys-ar-gyfer-y-dyfodol/

PLEIDLEISIAU YN 16

Ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth Pleidleisiau yn 16 yr wythnos diwethaf fe ysgrifennon ni erthygl am y newyddion mawr ar Borth Ieuenctid Ewrop!

Mae’r Mesur Senedd ac Etholiadau yn cynnig:

  • gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad;
  • newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd Cymru’
  • darparu ar gyfer Aelodau i gael eu galw’n ‘Aelodau’r Senedd ’;
  • ymestyn yr hawl i bleidleisio i ddinasyddion tramor cymwys.

Pleidleisiodd 41 o’r 60 Aelod Cynulliad o blaid y Bil, sef y newid mwyaf i broses ddemocrataidd Cymru mewn 60 mlynedd, pan ostyngwyd yr oedran pleidleisio o 21 i 18, ym 1959.

Mae’r newid anhygoel hwn yn golygu y bydd 70,000 o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael y bleidlais o 2021 a hefyd yn rhoi hawliau pleidleisio i 33,000 o wladolion tramor! Mae hefyd yn golygu y bydd ein cynulliad yn cael ei ailenwi’n Senedd Cymru o’r 6ed o Fai 2020 fel rhan o’r newidiadau.

Cefnogodd Llafur, gweinidogion Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y mesur, ond roedd y Ceidwadwyr a’r Blaid Brexit yn ei wrthwynebu.

Wrth sôn am y penderfyniad pwysig, dywedodd y Llywydd Elin Jones:

“Pleidlais oedd hon i rymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd trwy ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed – cam sydd, i rai, yn hen bryd.

Bydd y Bil hwn, yn fy marn i, yn creu Senedd fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol, a bydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Un a fydd yn rhoi enw i’n deddfwrfa sy’n adlewyrchiad cywir o’i statws cyfansoddiadol ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd. Ac un a fydd yn dod ag egni newydd i’n proses ddemocrataidd.

Rwy’n falch bod Cymru wedi cymryd y cam pwysig hwn i gryfhau sylfeini ein democratiaeth seneddol, cam y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn diolch inni amdano. “

I ni fel sefydliad sy’n cynrychioli’r Sector Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru rydym wrth ein bodd â’r penderfyniad i gynnig llais uniongyrchol i fwy o bobl ifanc yn eu dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am waith diwygio’r Cynulliad, ewch i: www.assembly.wales/AssemblyReform