Ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth Pleidleisiau yn 16 yr wythnos diwethaf fe ysgrifennon ni erthygl am y newyddion mawr ar Borth Ieuenctid Ewrop!

Mae’r Mesur Senedd ac Etholiadau yn cynnig:

  • gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad;
  • newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd Cymru’
  • darparu ar gyfer Aelodau i gael eu galw’n ‘Aelodau’r Senedd ’;
  • ymestyn yr hawl i bleidleisio i ddinasyddion tramor cymwys.

Pleidleisiodd 41 o’r 60 Aelod Cynulliad o blaid y Bil, sef y newid mwyaf i broses ddemocrataidd Cymru mewn 60 mlynedd, pan ostyngwyd yr oedran pleidleisio o 21 i 18, ym 1959.

Mae’r newid anhygoel hwn yn golygu y bydd 70,000 o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael y bleidlais o 2021 a hefyd yn rhoi hawliau pleidleisio i 33,000 o wladolion tramor! Mae hefyd yn golygu y bydd ein cynulliad yn cael ei ailenwi’n Senedd Cymru o’r 6ed o Fai 2020 fel rhan o’r newidiadau.

Cefnogodd Llafur, gweinidogion Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y mesur, ond roedd y Ceidwadwyr a’r Blaid Brexit yn ei wrthwynebu.

Wrth sôn am y penderfyniad pwysig, dywedodd y Llywydd Elin Jones:

“Pleidlais oedd hon i rymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd trwy ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed – cam sydd, i rai, yn hen bryd.

Bydd y Bil hwn, yn fy marn i, yn creu Senedd fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol, a bydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Un a fydd yn rhoi enw i’n deddfwrfa sy’n adlewyrchiad cywir o’i statws cyfansoddiadol ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd. Ac un a fydd yn dod ag egni newydd i’n proses ddemocrataidd.

Rwy’n falch bod Cymru wedi cymryd y cam pwysig hwn i gryfhau sylfeini ein democratiaeth seneddol, cam y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn diolch inni amdano. “

I ni fel sefydliad sy’n cynrychioli’r Sector Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru rydym wrth ein bodd â’r penderfyniad i gynnig llais uniongyrchol i fwy o bobl ifanc yn eu dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am waith diwygio’r Cynulliad, ewch i: www.assembly.wales/AssemblyReform