Eurodesk: cipolwg yn 30 story

Cenhadaeth Eurodesk yw helpu pobl ifanc i brofi’r byd.

Mae ymgysylltu ac ysbrydoli pobl ifanc – a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw yn y sector ieuenctid – yn allweddol i hyn.

Fel y gwyddoch, mae CWVYS wedi bod yn bartneriaid i Eurodesk UK ers nifer o flynyddoedd, gan rannu a hyrwyddo straeon cadarnhaol gan bobl ifanc yma yng Nghymru a’u cyfoedion ledled Ewrop.

Os ydych yn mwynhau’r mathau hyn o straeon newyddion, rhyddhaodd Eurodesk UK eu cyhoeddiad newydd yn ddiweddar ‘Eurodesk: cipolwg yn 30 story’.

Mae’r ystod o brofiadau’n cynnwys chwe maes pwnc:

Dweud eich dweud
Astudio
Teithio
Gwirfoddolwr
Gwaith
Gwaith ieuenctid

O leoliadau gwirfoddoli i astudio ar gyfer semester dramor, mae gan bawb brofiad unigryw a stori i’w hadrodd, nid yn unig ar yr hyn a wnaethant ond sut yr effeithiodd arnynt yn bersonol.

Gallwch eu mwynhau ymahttps://www.eurodesk.org.uk/resource/eurodesk-snapshot-30-stories

Hystings CWVYS

Bydd CWVYS yn cynnal digwyddiad hysting ar-lein ddydd Iau 28 Ionawr 2021 rhwng 6.00pm – 8.00pm.

Cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021, bydd CWVYS yn cynnal digwyddiad hysting ar-lein i’w Aelod-sefydliadau ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

Cyhoeddir manylion y cynrychiolwyr hynny yn fuan.

Fodd bynnag, rydym yn falch iawn o gadarnhau mai Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru, fydd ein siaradwr gwadd.

Bydd Keith yn darparu diweddariad pwysig ar waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn ogystal â’r cyd-destun y bydd yr hystings yn seiliedig arno: Maniffesto CWVYS; dull seiliedig ar hawliau o weithio ieuenctid yng Nghymru; a beth mae pobl ifanc eisiau ei weld yn digwydd iddyn nhw.

Byddwn yn gwahodd cwestiynau gan Aelod-sefydliadau CWVYS ac yn eu gofyn i’n gwesteion yn y digwyddiad. Cadwch lygad am eich cyfle i gyflwyno cwestiynau i CWVYS maes o law.

I gael golwg ar ein maniffesto ewch i: https://www.cwvys.org.uk/manifesto-cwvys/?lang=cy

Cylchlythr Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru

Mae CWVYS yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gasglu erthyglau a newyddion ar gyfer y cylchlythyr Gwaith Ieuenctid.

Rydym yn eich annog i anfon eich straeon a’ch erthyglau atom ar gyfer y rhifyn nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Ionawr, a’r pwnc yw Cyfranogiad.

Mae etholiadau’r flwyddyn nesaf yn gweld cyfranogiad pobl ifanc 16-17 oed am y tro cyntaf – efallai yn y cylchlythyr y gallech gynnwys stori ar eich syniadau neu weithio i drafod y pwnc hwn gyda’r bobl ifanc rydych yn ymgysylltu â nhw.

Yma (ochr yn ochr ag adnoddau LlC a Chomisiwn Etholiadol) gallwch ddod o hyd i wybodaeth gan y Senedd, sy’n cynnwys cynllun sesiwn ac mae adnoddau ar gyfer arweinwyr grwpiau ieuenctid i gyd ar gael ar HWB (Nid oes angen cyfrif HWB arnoch i’w lawrlwytho).

Yn ein Cylchlythr diwethaf gwnaethom rannu ‘canllaw canllaw’ LlC am syniad o’r hyn y mae tîm Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl.

Gallwch ddod o hyd i rhifynnau blaenorol yma

Danysgrifiwch yma

Mae’r tîm yn gobeithio y bydd cynnwys wedi’i gasglu ar gyfer y rhifyn nesaf erbyn yr 11eg o Ragfyr os gwelwch yn dda, anfonwch ef at helen@cwvys.org.uk 

Rydym yn edrych ymlaen at eich cyflwyniadau!

Arolwg CWVYS

Efallai eich bod yn cofio wnaethom gynnal arolwg yn gynharach yn y flwyddyn ar effaith pandemig Coronafirws ar y sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.

Dosbarthwyd yr adroddiad ar ei ganfyddiadau yn eang i’n haelodau ond dyma’r ddolen eto er gwybodaeth ichi; https://www.cwvys.org.uk/cwvys-report-on-the-impact-of-covid-19/?lang=cy

Rydym nawr yn cynnal arolwg dilynol i asesu effaith barhaus y pandemig a byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech gymryd yr amser i’w gwblhau.

Rydym yn gwerthfawrogi bod pethau’n hynod ansicr, ond wrth edrych i’r dyfodol, byddai’n gadarnhaol i’n haelodau pe byddem yn gallu tynnu sylw at eu profiad o’r sefyllfa, yn enwedig wrth iddo barhau i newid.

Byddwch chi i gyd yn derbyn copi o’r adroddiad pan fydd wedi’i gwblhau fis nesaf.

A allech chi ei lenwi cyn gynted a phosib. Dyma’r arolwg: https://forms.gle/PJDmjdEnGi6d6yen8

Ar gyfer ymatebwyr byddwn yn rhoi pob enw mewn het am y cyfle i ennill taleb gwerth £50 – byddwn yn cyhoeddi’r enillydd yng nghyfarfod rhanbarthol mis Rhagfyr 😊

Diolch yn fawr i’r bobl sydd wedi ymateb yn barod.