Llwyddiant Taith Llwybr 1 a digwyddiadau

Heddiw mae’r tîm Taith wedi cyhoeddi canlyniadau rownd gyntaf cyllid rhaglen Llwybr 1, a agorodd ym mis Mawrth 2022 ac a gaeodd i geisiadau ym mis Mai 2022.

Erbyn hyn mae’r holl ymgeiswyr llwyddiannus wedi eu cael wybod ac mae rhai hyd yn oed wedi dechrau ar eu prosiectau.

Roeddem wrth ein bodd i weld cymaint o ymgeiswyr llwyddiannus o’r sector Ieuenctid ac yn gobeithio, wrth i’r rhaglen barhau, y bydd y llwyddiant yn tyfu. Mae’r profiadau dysgu rhyngwladol hyn i bobl ifanc yng Nghymru mor bwysig a gobeithiwn y byddant yn cyfoethogi gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc fel ei gilydd.

Gallwch ddod o hyd i ddatganiad i’r wasg yma ac am ragor o wybodaeth mae’n werth ei ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol:

https://www.linkedin.com/company/taithwales

https://twitter.com/TaithWales

https://www.facebook.com/Taith-101485822453103

https://www.youtube.com/channel/UC7P1JDk8WMOnBOok3qeFxFg

 

 

Nodyn atgoffa olaf; yfory a dydd Gwener gallwch ymuno â thîm Taith yn eu gweminarau ar Llwybr 2:

4 yp Dydd Iau y 27ain o Hydref (yn Gymraeg)

12 yp Dydd Gwener yr 28ain o Hydref (yn Saesneg)

https://www.taith.cymru/event/llwybr-2-offeryn-cyfrifo-a-ffurflen-gais/

 

Os hoffech gyflwyno cwestiynau ac ymholiadau i’r cyflwynwyr ymlaen llaw, gallwch wneud hynny drwy: ymholiadautaith@taith.cymru

Cyhoeddi Aelodau Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi heddiw aelodaeth y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Gellir gweld datganiad y Gweinidog yma.

Nododd Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru “mae aelodau’r Bwrdd yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd a fydd yn amhrisiadwy wrth i ni symud at adeiladu model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â youthworkboard@llyw.cymru.

Ystadegau Gwaith Ieuenctid y Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei data ystadegol blynyddol ar Waith Ieuenctid yng Nghymru yng nghyd-destun awdurdodau lleol

Cyhoeddwyd y gyfres diweddaraf o ystadegau blynyddol ar Waith Ieuenctid yng Nghymru (awdurdodau lleol yn unig) yr wythnos hon.

Mae’r ystadegau hyn yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2021-22 a gallwch weld yr ystadegau hyn yma:

https://llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ebrill-2021-i-fawrth-2022

Digwyddiadau Taith

Wythnos nesaf bydd Gweminarau amdano Taith Llwybr 2, yn benodol cyflwyniad i’r Offeryn Cyfrifio a’r Ffurflen Gais.

4 yp Dydd Mawrth y 25ain o Hydref (yn Saesneg)

4 yp Dydd Iau y 27ain o Hydref (yn Gymraeg)

12 yp Dydd Gwener yr 28ain o Hydref (yn Saesneg)

Ar gyfer gweminarau yn Saesneg sylwer, byddant yn cael eu cyflwyno yn Saesneg ond fe’ch anogir a’ch bod yn gallu cyflwyno cwestiynau a sylwadau, yn y Gymraeg.

Mae’n debygol na fydd gweminarau’n para mwy nag 1 awr.

Os hoffech gyflwyno cwestiynau ac ymholiadau i’r cyflwynwyr ymlaen llaw, gallwch wneud hynny drwy: ymholiadautaith@taith.cymru

Mae’r tîm mor gefnogol ac rwy’n eich annog i gysylltu â nhw (neu ni os nad ydych yn siŵr) gan y byddant yn onest yn gwneud yr hyn a allant i’ch helpu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a Llwybr 2 ar wefan Taith:
https://www.taith.cymru/pathway_2/ieuenctid/digwyddiadau/

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion

Heddiw, cyhoeddwyd fersiwn neydd o’r llyfryn ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’.

Cynhyrchwyd y ddogfen hon ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr sefydliadau gwaith ieuenctid, gwleidyddion, aelodau etholedig a swyddogion awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid.

Mae hefyd wedi’i ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc, y rhai sydd eisoes yn ymwneud â sefydliadau gwaith ieuenctid yn ogystal â’r rhai sy’n dymuno darganfod mwy am y mathau o brofiad y gall sefydliadau gwaith ieuenctid ei ddarparu.

Mae ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ wedi’i gynhyrchu ar y cyd gan gynrychiolwyr o’r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.

I unrhyw un sydd ar fin derbyn copi caled yn y post, a fyddech cystal ag ystyried rhannu ffoto ar y gyfryngau cymdeithasol a’n tagio, post a awgrymir yw:

“Yn falch iawn i dderbyn copi newydd ffres o #GwaithIeuenctidYngNghymruEgwyddorionADibenion”

Os hoffech gael mynediad at gopi neu er hwylustod i’w rhannu, gallwch ddod o hyd i’r dogfen Cymraeg yma: https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2022/10/YOUTH-WORK-IN-WALES-2022-CYMRAEG.pdf

Peidiwch ag anghofio’r hashnod (hir!) #GwaithIeuenctidYngNghymruEgwyddorionADibenion

Gallwch ddod o hyd i copi dwyieithog yma: YOUTH WORK IN WALES PRINCIPLE AND PURPOSES – GWAITH IEUENCTID YNG NGHYMRU EGWYDDORION A DIBENION 2022

 

Digwyddiadau Taith wythnos yma

Erbyn hyn, mae’n debyg y bydd llawer wedi clywed bod Taith Llwybr 2 wedi’i lansio, ond a oeddech chi’n gwybod am y digwyddiadau gwybodaeth a gynhelir yr wythnos hon?

Mae Llwybr 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau rhyngwladol sy’n gweithio tuag at fynd i’r afael â blaenoriaethau sy’n unigryw i’n sectorau ac mae tair sesiwn 60 munud yn cael eu cynnal yr wythnos hon.

Cyflwyniad i Llwybr 2:

11 Hydref am 4yp (yn Saesneg)

13 Hydref am 4yp (yn Gymraeg)

14 Hydref am 12yp (yn Saesneg)

 

Mwy o wybodaeth a dolen cofrestru yma; https://www.taith.cymru/event/llwybr-2-cyflwyniad/

 

Datganiad Gweinidogol ar gofrestru gyda’r Chyngor Gweithlu Addysg

Rhannodd Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru y neges hon gyda ni;

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni ar newidiadau arfaethedig i’r categorïau o bobl mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg. Gellir darllen y datganiad a chrynodeb o’r ymatebion ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad mewn perthynas â’r cynigion yn gysylltiedig â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid. Byddwn yn parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ar y newidiadau arfaethedig. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ar y newidiadau arfaethedig i gofrestru gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid at gwaithieuenctid@llyw.cymru

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Teilyngwyr wedi cyhoeddi

Mae’r teilyngwyr y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022 wedi’u cyhoeddi heddiw!

Rydym yn falch iawn o weld nifer o’n Haelodau ar y rhestr, mae’n wych gweld ehangder y gwaith gwych yn cael ei gydnabod ar draws y sectorau ieuenctid gwirfoddol a statudol yng Nghymru.

Cynhelir y gwobrau yn Neuadd Brangwyn Abertawe ar y 1af o Ragfyr.

Os ydych ar y rhestr fer a mae gennych chi ymholiadau am ddyrannu tocynnau, hygyrchedd y lleoliad neu unrhyw beth arall, cysylltwch â Youthworkexcellence.awards@llyw.cymru

Yma gallwch ddod o hyd i restr llawn y teilyngwyr y Wobrau eleni

  • Andrew Owen, Ieuenctid Gwynedd Youth
  • Carly Powell, Gwasanaethau Ieuenctid Caerffili
  • Cynhadledd #FelMerch, Urdd Gobaith Cymru
  • David Stallard, Mixtup
  • David Williams, Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen
  • GISDA
  • Gwyl Llesiant, Gwasanaeth Ieuecntid Gwynedd
  • Hannah Lewis, The Hwb, Torfaen
  • Heulwen O’Callaghan, Prosiect Arweinyddiaeth Iau, Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gar
  • Inspire, Gwaith Ieuenctid mewn Ysbyty
  • Karen and Jake Henry, Vibe Youth CIC
  • Kieran Saunders, CCYP
  • Lela Patterson, MAD Abertawe
  • Linda Brackenbury, Clwb Merched a Bechgyn
  • Llwybr Gwlân, Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent
  • Mahieddine Dib, EYST
  • Mick Holt, Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint
  • Mindscape Project, Tanyard Youth
  • Mixtup
  • Nick Corrigan, Media Academy Cymru
  • Prosiect ‘Nunlle i Fynd’ Gwasanaeth Ieuenctid Conwy
  • Ruth Letten, CONNECT, Adoption UK
  • Sarah McCreadie, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
  • STAND Gogledd Cymru
  • Stuart Parkinson, Hwb Byddar Cymru

 

Llongyfarchiadau i chi gyd!

Lansiad Taith Llwybr 2

Mae Taith Llwybr 2 wedi lansio heddiw!

Ar gyfer sefydliadau yn y sector Ieuenctid sydd â diddordeb mewn gwneud cais, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth ar y dudalen hon; https://www.taith.cymru/pathway_2/ieuenctid/trosolwg/

Mae Llwybr 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau rhyngwladol sy’n gweithio tuag at fynd i’r afael â blaenoriaethau sy’n unigryw i’n sectorau.

Gallwch ddod o hyd i’r Canllaw Rhaglen ar gyfer Llwybr 2 yma; https://www.taith.wales/wp-content/uploads/2022/10/Taith-Pathway-2-Welsh.pdf

Er ei bod yn ddyddiau cynnar fel y dywedant, gellir cyrchu’r ffurflen gais ei hun yma; https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/application-form-for-pathway-2-cymraeg

Argymhellir bod ymgeiswyr yn gweithio ar eu ceisiadau all-lein mewn dogfen Word er mwyn osgoi colli data.

Efallai bod hynny’n ymddangos yn eithaf pell eto gan ei fod yn Llwybr newydd sbon ar gyfer rhaglen gymharol newydd, ond mae ceisiadau ar agor tan 1af o Rhagfyr felly mae gennych amser i feddwl am eich syniadau prosiect a’ch partneriaethau cyn y dyddiad cau.

Drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd bydd digwyddiadau i bobl eu mynychu i gasglu mwy o wybodaeth, gofyn cwestiynau a chwilio am gyngor, gallwch ddarganfod mwy yma; https://www.taith.cymru/digwyddiadau/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser mae croeso i chi anfon e-bost i fi drwy helen@cwvys.org.uk, neu cysylltwch a Taith drwy enquiries@taith.wales