Rhannodd Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru y neges hon gyda ni;

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni ar newidiadau arfaethedig i’r categorïau o bobl mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg. Gellir darllen y datganiad a chrynodeb o’r ymatebion ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad mewn perthynas â’r cynigion yn gysylltiedig â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid. Byddwn yn parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ar y newidiadau arfaethedig. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ar y newidiadau arfaethedig i gofrestru gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid at gwaithieuenctid@llyw.cymru