Mae Taith Llwybr 2 wedi lansio heddiw!

Ar gyfer sefydliadau yn y sector Ieuenctid sydd â diddordeb mewn gwneud cais, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth ar y dudalen hon; https://www.taith.cymru/pathway_2/ieuenctid/trosolwg/

Mae Llwybr 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau rhyngwladol sy’n gweithio tuag at fynd i’r afael â blaenoriaethau sy’n unigryw i’n sectorau.

Gallwch ddod o hyd i’r Canllaw Rhaglen ar gyfer Llwybr 2 yma; https://www.taith.wales/wp-content/uploads/2022/10/Taith-Pathway-2-Welsh.pdf

Er ei bod yn ddyddiau cynnar fel y dywedant, gellir cyrchu’r ffurflen gais ei hun yma; https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/application-form-for-pathway-2-cymraeg

Argymhellir bod ymgeiswyr yn gweithio ar eu ceisiadau all-lein mewn dogfen Word er mwyn osgoi colli data.

Efallai bod hynny’n ymddangos yn eithaf pell eto gan ei fod yn Llwybr newydd sbon ar gyfer rhaglen gymharol newydd, ond mae ceisiadau ar agor tan 1af o Rhagfyr felly mae gennych amser i feddwl am eich syniadau prosiect a’ch partneriaethau cyn y dyddiad cau.

Drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd bydd digwyddiadau i bobl eu mynychu i gasglu mwy o wybodaeth, gofyn cwestiynau a chwilio am gyngor, gallwch ddarganfod mwy yma; https://www.taith.cymru/digwyddiadau/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser mae croeso i chi anfon e-bost i fi drwy helen@cwvys.org.uk, neu cysylltwch a Taith drwy enquiries@taith.wales