ENWEBWCH NAWR: Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid

Mae’n Wythnos Gwaith Ieuenctid yma yng Nghymru a pha amser gwell i edrych yn ôl ar gyflawniadau a dathlu cyfraniad Gwaith Ieuenctid i bobl ifanc a chymunedau Cymreig?

Beth am fynd un cam ymhellach a chyflwyno enwebiad ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid!?

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a’r rhai sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Mae gwaith ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle gall pobl ifanc ymlacio, cael hwyl, a theimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. Trwy gyfleoedd a phrofiadau addysgol heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, mae dulliau gwaith ieuenctid yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd bywyd.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ar gyfer Gwobrau eleni wedi ymestyn i Gorffennaf yr 8fed; https://llyw.cymru/gwobrau-rhagoriaeth-gwaith-ieuenctid/enwebwch

Digwyddiad Wythnos Gwaith Ieuenctid Cyswllt Trwy Goginio

Neges gan Wasanaeth Ieuenctid Torfaen yn rhoi ychydig mwy o fanylion am eu digwyddiad yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid sy’n cael sylw yn y Calendr yma; https://www.cwvys.org.uk/event/wythnos-gwaith-ieuenctid/?lang=cy

 

 

Cysylltu Trwy Goginio

Ymunwch â ni’n rhithiol am 4 o’r gloch bnawn Gwener, 24ain Mehefin i gysylltu gyda phobl ifanc eraill i baratoi a bwyta brechdanau lapio blasus, iachus.

Bydd y weithgaredd yn digwydd ar Microsoft Teams ac ar gael drwy gyfwrng y Gymraeg a’r Saesneg.

Byddwch chi angen bara lapio (‘wraps’) ac ychydig o olew llysiau, yna gallwch ddewis pa bynnag gynhwysion ‘rydych yn eu hoffi!

Dolen Microsoft Teams Cysylltu trwy goginio / Connect through Cooking

 

Cynhwysion

Fe fydd arnoch chi angen wraps a rhywfaint o olew llysiau ond ar wahân i hynny, gallwch chi ddewis pa bynnag gynhwysion rydych chi’n eu hoffi!
Rhai opsiynau;

Caws
Cyw iâr
Tofu
Falafel
Pupur
Nionod
Letys
Tomatos
Hwmws
Madarch
Salsa
Mayo

Mae croeso i chi addasu i’ch flas a’ch cyllidebau.

Pa offer fydd ei angen arnoch chi?

Padell ffrio
Ysbatwla
Cyllell/iau
Byrddau torri
Hob coginio
Olew llysiau

 

NODIADAU DIOGELWCH

Mae cyllyll yn finiog! Dim rhedeg, trywanu na thorri unrhywbeth heblaw’r cynhwysion. Mae tân yn boeth! Peidiwch â chyffwrdd a chymerwch ofal pan mae olew’n tasgu. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud y gweithgaredd yn ddiogel, ac ochr yn ochr â rhywun cyfrifol petai angen.

CYFLE OLA – GWOBRAU HEDDWCH IFANC 2022

GWOBRAU HEDDYCHWYR IFANC 2022 – CYFLE OLAF I GYFLWYNO CAIS!

Fe gyhoeddir enillwyr y Gwobrau pwysig hyn mewn seremoni arbennig ar faes Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar 7 Gorffennaf.  Os ydych yn byw yng Nghymru a rhwng 5 a 25 blwydd oed, peidiwch â cholli cyfle i fod yn rhan o’r Gwobrau cyffrous hyn!

Dyddiad cau newydd – mae gennych tan 17 Mehefin, 2022 i anfon eich ceisiadau atom – ysgrifennu creadigol a beirniadol, gwaith celf, perfformiadau, ffilm, cyflwyniadau ar weithredu i greu newid. Peidiwch â bod yn swil – anfonwch eich cais heddiw!  

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion am y categorïau, ffurflen cais a thelerau ac amodau, ewch i’r dudalen Gwobrau Heddychwyr Ifanc ar wefan y WCIA neu cysylltwch â: centre@wcia.org.

Cadeirydd newydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Rydym mor falch gyda phenodiad Sharon Lovell, Prif Swyddog Gweithredol NYAS Cymru ac Is-Gadeirydd CWVYS yn Gadeirydd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd. Cyhoeddwyd hyn gan y Gweinidog ddoe mewn Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog.

Gyda chyhoeddiad y Cadeirydd, mae’r gwaith o recriwtio aelodau’r bwrdd bellach wedi ddechrau, gallwch weld y manylion ar y Tudalen we Penodiadau Cyhoeddus.

Llongyfarchiadau enfawr gan bawb yn CWVYS i Sharon Lovell MBE ar ei phenodiad!

Mae Sharon wedi bod yn Is-Gadeirydd ac Ymddiriedolwr hynod gefnogol i CWVYS ers 2016 a byddwn yn amlwg yn gweld eisiau ei harbenigedd, ei hymrwymiad llwyr, ei sgil a’i hiwmor da. Fodd bynnag, gwyddom y bydd pob un o’r rhinweddau hynny a mwy yn cael eu defnyddio’n wych o dda yn ei rĂ´l newydd, bwysig. Mae CWVYS yn edrych ymlaen at weithio gyda Sharon ac aelodau’r Bwrdd Gweithredu ar yr amser cyffrous iawn hwn i wasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Adnoddau Wythnos Gwaith Ieuenctid

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid Cymru yn agosĂĄu!

O’r 23ain i’r 30ain o Fehefin rydym yn dathlu cyfraniad Gwaith Ieuenctid i Gymru a’n pobl ifanc, a pha ffordd well eleni na gyda’r thema ‘lles’?!

I’ch helpu i gymryd rhan mae’r tĂŽm Marchnata a Chyfathrebu (Ellie a Branwen) wedi llunio pecyn adnoddau dwyieithog. Mae 5 delwedd hyfryd (fel yr un uchod) ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda chymhellion i feithrin lles fel “Bod yn Fywiog” a “Parhau i Ddysgu” gan gynnwys yr hashnodau eleni; #WGI22 #YWW22 (y ddau yn sefyll am Wythnos Gwaith Ieuenctid 2022 a) #LlesGI #YWWellbeing (sy’n golygu Lles Gwaith Ieuenctid).

Gallwch ddod o hyd i’r delweddau hynny, Pecyn Gwybodaeth Wythnos Gwaith Ieuenctid a sleidiau PowerPoint defnyddiol Ellie sy’n egluro’r adnoddau a sut y gallech eu ddefnyddio yn ogystal a manylion ar digwyddiadau a gynhelir yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid a llawer mwy.

Gobeithiwn y bydd yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol i chi ac edrychwn ymlaen i weld chi’n rannu eich straeon gwaith ieuenctid ac yn dathlu’r wythnos pan ddaw o gwmpas. Peidiwch ag anghofio tagio @CWVYS pan fyddwch chi’n postio ar twitter, ac wrth gwrs @YWWales ac @Addysg_Cymraeg fel bod eich straeon yn ymestyn ymhell.

Rhowch wybod i mi os oes gennych unrhyw gwestiynau (helen@cwvys.org.uk) neu mae croeso i chi gysylltu ag Ellie@cwvys.org.uk neu Branwen@cwvys.org.uk