Grant Cymorth Ieuenctid

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi meini prawf i awdurdodau lleol wneud cais am gyllid ychwanegol drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid.

Mae’r cyllid yn ymwneud â chefnogi dau o argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Gall pob awdurdod lleol felly wneud cais am £20,000 ar gyfer darpariaeth Gymraeg a hefyd £20,000 ar gyfer gwaith Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Rhan o’r meini prawf yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda sefydliadau gwirfoddol i helpu i gyflawni’r argymhellion hyn.

Awgrymwn eich bod yn cysylltu â’ch Prif Swyddog Ieuenctid/Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid lleol er mwyn trafod y cyfleoedd hyn.

Fwletin Nesaf Gwaith Ieuenctid y Llywodraeth Cymru

Efallai rydych yn cofio, mae CWVYS wedi bod yn cefnogi’r Llywodraeth Cymru i gasglu erthyglau a newyddion ar gyfer y fwletin Gwaith Ieuenctid.

Disgwylir y rhifyn nesaf ym mis Medi, felly hoffem eich annog i anfon gwybodaeth atom am eich newyddion a’ch digwyddiadau erbyn 31ain Awst.

Anfonwch yr holl wybodaeth at ellie@cwvys.org.uk

Y thema ar gyfer y rhifyn nesaf hwn yw Gwaith Ieuenctid a Datblygiant Cynaliadwy, felly efallai yr hoffech anfon cynnwys o amgylch y thema hon, neu edrych i weld a yw unrhyw un o’r adrannau eraill yn cyd-fynd orau â’r newyddion yr hoffech eu rhannu am eich prosiect neu sefydliad. .

Dyma’r Style Guide er mwyn i chi gael syniad o’r hyn y mae’r Tîm Ymgysylltu yn Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl.

Gallwch ddod o hyd i rifynnau blaenorol yma: https://llyw.cymru/cylchlythyraun-ymwneud-gwaith-ieuenctid

I danysgrifio dilynwch y ddolen hon: https://llyw.cymru/cofrestrwch-i-dderbyn-y-cylchlythyr-gwaith-ieuenctid

Rydym yn edrych ymlaen at weld eich straeon!

Cwblhewch arolwg bwysig os gwelwch yn dda

Plîs gallwch chi cwblhau arolwg Lizzy os gwelwch yn dda?

Prosiect KESS – Mae Mapio a Gwerthuso Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Cymru yn brosiect Meistr yn ôl Ymchwil a gynhelir gan Brifysgol De Cymru ac a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop mewn partneriaeth â CWVYS. Nod yr ymchwil yw gwneud y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yn fwy gweladwy a sicrhau bod pob budd-ddeiliad yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau. Efallai eich bod yn ymwybodol nad oes digon o ymchwil a gwerth i’r sector gwirfoddol o’i gymharu â gwasanaethau statudol, sy’n cynnal archwiliad bob blwyddyn. Gobeithiwn y gall ein hymchwil newid hyn.

I wneud hynny, byddem yn gwerthfawrogi eich cyfraniad at ein harolwg byr ar-lein. Os ydych yn fudiad sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, dilynwch y ddolen isod i’r arolwg sy’n syml yn nodi natur eich mudiad a’r gefnogaeth a ddarperir i bobl ifanc. Ni ddylai cwblhau’r arolwg gymryd mwy na 15 munud.  Gwerthfawrogir eich amser a’ch sylwadau yn fawr.


I gychwyn yr arolwg, dilynwch y dolen yma
: https://southwales.onlinesurveys.ac.uk/mapio-a-gwerthuso-sector-gwaith-ieuenctid-gwirfoddol-cymru

Gofynnir ichi hefyd rannu dolen a gwybodaeth yr arolwg ymhlith eich rhwydweithiau (e.e. drwy e-bost neu ar gyfryngau cymdeithasol) – po fwyaf o ymatebion a gawn, y gorau y gallwn gynrychioli profiadau’r sector cyfan a’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi.

Fe gewch ragor o wybodaeth am y prosiect ar ddechrau’r arolwg, fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar yr ymchwil, mae croeso i chi gysylltu â’r ymchwilydd drwy e-bost: Elizabeth.bacon@southwales.ac.uk

 

Gallwch hefyd dilyn y waith yma ar y cyfryngau cymdeithasol canlynol;

 

Diolch ymlaen llaw am eich mewnbwn. Gyda’ch cymorth, rwy’n gobeithio y gallwn ni gyflawni’r newid a’r gynrychiolaeth sydd eu hangen ar y sector.

Mae’r Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. 

Ymgyrch Haf Prentisiaethau

Mae Golley Slater wedi creu ffolder o asedau ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn cefnogi’r Ymgyrch Haf Prentisiaethau sy’n dechrau ddydd Llun 15 Awst.

Gellir lawrlwytho’r cynnwys yma: Ymgyrch haf Prentisiaethau – asedau rhanddeiliaid

Gallwch hefyd dod o hyd i;

 

Animeiddiad sectorau prentisiaethau ^

Mae’r holl gynnwys yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae awgrymiadau am gopi cymdeithasol y mae croeso i chi ei ddefnyddio. Os ydych chi’n cymryd rhan i hyrwyddo’r cynllun i’r bobl ifanc rydych chi’n ymgysylltu â nhw, a allech chi ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodCanlyniadau2022 

Os hoffech chi ddarganfod mwy neu gael mynediad at fwy o adnoddau gan gynnwys animeiddiad hirach, e-bostiwch Ellie Thorne trwy ethorne@golleyslater.co.uk