Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi meini prawf i awdurdodau lleol wneud cais am gyllid ychwanegol drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid.

Mae’r cyllid yn ymwneud â chefnogi dau o argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.

Gall pob awdurdod lleol felly wneud cais am £20,000 ar gyfer darpariaeth Gymraeg a hefyd £20,000 ar gyfer gwaith Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Rhan o’r meini prawf yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda sefydliadau gwirfoddol i helpu i gyflawni’r argymhellion hyn.

Awgrymwn eich bod yn cysylltu â’ch Prif Swyddog Ieuenctid/Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid lleol er mwyn trafod y cyfleoedd hyn.