Adnoddau Taith

 

Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd Cymru.

Hoffech chi wybod mwy am sut i wneud cais i Rhaglen Taith a beth sydd ar gael i’r sector Ieuenctid?

Bydd Taith yn cynnig cyllid a chefnogaeth i fudiadau ieuenctid ledled Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd heb unrhyw brofiad neu brofiad cyfyngedig o symudedd rhyngwladol.

 

 

 

 

 

 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau cymwys, hyd a chyfraddau grant, gweler Canllawiau Rhaglen Taith

 

Gallwch ddod o hyd i restr o Gwestiynau Cyffredin yma; https://www.cwvys.org.uk/taith-gwestiynau-cyffredin/?lang=cy

Os oes gennych cwestiynnau, mae croeso i chi cysylltu a Helen Jones, Swyddog Cyfathrebu CWVYS drwy helen@cwvys.org.uk

Ymgyrch newydd Chwarae Cymru; “Pan o’n i dy oed di” 

Mis ‘ma mae Chwarae Cymru wedi lansio Pan o’n i dy oed di…, ymgyrch newydd sydd wedi ei dylunio i herio’r rhagdybiaethau am arddegwyr a chwarae trwy ysbrydoli nostalgia ac atgoffa oedolion sut beth ydi bod yn ifanc.

Er bod chwarae, neu ‘gymdeithasu’, yn edrych yn wahanol heddiw efallai diolch i gyflwyniad technoleg a newid mewn arferion cymdeithasol, rydym am annog arddegwyr a’u rhieni, gwarchodwyr neu eu teidiau a’u neiniau i gymharu eu profiadau o chwarae a sylwi ar y tebygrwydd rhyngddyn nhw – boed hynny’n ddysgu dawns oddi wrth TikTok, neu oedolion yn chwarae ‘Snake’ ar eu Nokia 3310 ychydig flynyddoedd yn ôl!

Mae arddegwyr o bob cwr o Gymru wedi bod yn rhoi llais i’r ymgyrch, gan rannu eu profiadau o chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau, ac annog oedolion i feddwl am y tebygrwydd rhyngddyn nhw er mwyn annog pobl i fod yn fwy goddefgar o’u presenoldeb mewn mannau cyhoeddus.

Dyma ble rydym angen eich cymorth chi a’ch sefydliad!

Rydym angen eich help i rannu neges bwysig #PanOnIDyOedDi gyda chymaint â phosibl o arddegwyr ac oedolion yn rhannu eu profiadau.

Isod mae pecyn cymorth (yn Gymraeg a Saesneg) gyda mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, a sut y gallwch ymuno yn y gwaith hyrwyddo trwy rannu ac annog y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gŵyl Triban (2 – 4 Mehefin) – AM DDIM!

Aduniad mwya’r ganrif!

Am y tro cyntaf erioed ac fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru, bydd gŵyl o fewn gŵyl ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych eleni. Mae Gŵyl Triban yn gyfle i ddathlu’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru gydag “aduniad mwyaf y Ganrif”. Mae croeso cynnes i holl aelodau, cyn-aelodau a ffrindiau’r Urdd, hen a newydd ymuno.

Beth gallwch ei ddisgwyl? Gwledd o fwyd a diod, gan gynnwys bar, a chyfle i hel atgofion wrth fwynhau perfformiadau byw gan Eden, Gwilym, Eädyth, Tara Bandito, N’Famady Kouyaté a llawer mwy. Yn syml; Cwmni. Cofio. Cymdeithasu. Gwybodaeth bellach ar www.urdd.cymru/triban

Cost? Am ddim! Mi fydd mynediad i Triban (2 – 4 Mehefin) yn rhad ac am ddim ac yn gynwysedig yn y tocyn am ddim i faes yr Eisteddfod.

Tocyn? Oes! Er ei fod am ddim, mae’n rhaid archebu tocyn! Gellir gwneud hyn nawr ar www.urdd.cymru/tocynnau

Gwybodaeth bellach?
www.urdd.cymru/Triban
eisteddfod@urdd.org

*Linc i’r trailer fideo yma: https://twitter.com/i/status/1497179574181908486

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2022

Yr Argyfwng Hinsawdd.

Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da canmlwyddiant yr Urdd yn ffocysu ar yr argyfwng hinsawdd. Mae’n alwad-i-weithredu gan blant a phobl ifanc Cymru i bobl ifanc y byd, i ddefnyddio pwysigrwydd a phŵer ei llais i erfyn ar lywodraethau a chorfforaethau mawr i weithredu ar frys er mwyn achub ein planed. Mae’n amser deffro!

18 o Fai 2022 – Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da

Rhowch 18 o Fai yn eich dyddiaduron, er mwyn ymuno gyda’r Urdd, Prifysgol Aberystwyth a phlant a phobl ifanc Cymru, wrth i ni rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da ein canmlwyddiant. Dilynwch @Urdd ar Twitter, ac Urdd Gobaith Cymru ar Facebook, a @UrddGobaithCymru ar Instagram wrth ddefnyddio #Heddwch100, er mwyn rhannu’r neges ar y diwrnod. Cadwch olwg allan ar gyfer pecyn ymgysylltu bydd ar gael i’w lawrlwytho yn agosach i’r amser.

Gallwch ddod o hyd i’r neges eu hunan yn nifer o ieithoedd yma;
https://www.urdd.cymru/cy/neges-heddwch-eleni/

Fforwm agored CWVYS ar Gofrestru Gweithwyr Ieuenctid ar y 5ed o Fai

Mae cyfarfod ‘Rhanbarthol’ arbennig CWVYS wedi’i drefnu i edrych ar yr ymgynghoriad ar ymestyn cofrestriad ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid.

Bydd yn fforwm agored CWVYS ar y 5ed o Fai 2022, yn ddechrau am 10yb.

Hoffai ein Cydlynydd Rhanbarthol Catrin James eich gwahodd i’r cyfarfod, i drafod yr ymgynghoriad diweddaraf yn ymwneud ag ymestyn categorïau cofrestru’r gweithlu yn y sector Gwaith Ieuenctid.

Gallwch ddod o hyd i’r ymgynghoriad yma; https://llyw.cymru/categoriau-cofrestru-newydd-ar-gyfer-cyngor-y-gweithlu-addysg

Yn y cyfarfod bydd swyddog o Llywodraeth Cymru yn ymuno â’r Aelodau a fydd yn rhoi trosolwg o’r ymgynghoriad.

Cewch gyfle gyda’ch cyd-aelodau i drafod y cwestiynau yn yr ymgynghoriad.

Dylai’r rhai sydd â diddordeb i fynychu rhoi wybod i Catrin@CWVYS.org.uk