SWYDD WAG GYDA NI!

SWYDDOG AELODAETH A PHOLISI (RHAN AMSER)         

Ar gyfer y rôl swydd newydd hon, rydym yn chwilio am berson profiadol a galluog iawn i reoli ei bortffolios cymorth aelodaeth a pholisi.

Gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person am fanylion pellach. Hefyd dyma’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal. Anfonwch i Paul@cwvys.org.uk

Oriau: 24 awr yr wythnos

Cyflog: Graddfa NJC 25

Contract: Tymor penodol

CANLLAWIAU AR GYFER Y CWRICWLWM NEWYDD

Nod canllawiau Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddablygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at pedwar diben y cwricwlwm – y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Bydd y canllawiau hyn hefyd yn berthnasol i leoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir, unedau cyfeirio disgyblion (UCD) a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol (DAHY), gan eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Gallwch ddod o hyd i’r Canllawiau yma: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru