Swydd Wag

Mae CWVYS yn edrych am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, i weithio ar rhan y sector gwaith ieuenctid gyfan.

Rydym yn edrych am unigolyn creadigol a medrus a fydd yn arwain ar gyflwyno newidiadau arwyddocaol i gefnogi anghenion marchnata a chyfathrebu y sector gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Manylion yma. Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos a phrofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 10.00am dydd 14 Ebrill 2021.

 

Cylchlythr Gwaith Ieuenctid y Llywodraeth Cymru

Yr wythnos hon cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Fwletin Gwaith Ieuenctid, ar bwnc Ymgysylltu Democrataidd.

Dyma’r ddolen i’r rhifyn diweddaraf.

Cyfrannodd nifer o aelodau CWVYS, ac mae rhai nodweddion hyfryd yno o’r sector ieuenctid statudol hefyd. Diolch i bawb a anfonodd gynnwys i gael sylw. Dyma’r ail rifyn a gefnogodd CWVYS y tîm yn y Llywodraeth Cymru wrth gasglu cynnwys a’i olygu, gan symud ymlaen os ydych chi am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf gallwch anfon e-bost at gwaithieuenctid@llyw.cymru

Os hoffech dderbyn rhifynnau yn y dyfodol yn uniongyrchol, gallwch danysgrifio yma.