Mae CWVYS yn edrych am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, i weithio ar rhan y sector gwaith ieuenctid gyfan.

Rydym yn edrych am unigolyn creadigol a medrus a fydd yn arwain ar gyflwyno newidiadau arwyddocaol i gefnogi anghenion marchnata a chyfathrebu y sector gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Manylion yma. Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos a phrofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 10.00am dydd 14 Ebrill 2021.