Adroddiad CWVYS ar effaith Coronavirus ar y sector ieuenctid gwirfoddol, cyfrol 2

Mewn ymateb i argyfwng Coronafirws a’r cyfnod cloi ledled y wlad ym mis Mawrth 2020, gwnaethom arolwg o’n Haelodau ym mis Mai 2020 a rhyddhau adroddiad ym mis Mehefin y flwyddyn honno, i asesu ac adrodd ar effaith y pandemig ar y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.

Rhannwyd yr adroddiad hwnnw yn eang ac ar y cyd â’n Haelodau buom yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau Coronafirws penodol ar gyfer gweithredu gwasanaethau ieuenctid yn ddiogel ym mis Awst 2020. Wrth i’r haf ddod yn Hydref a Gaeaf, ac ar ôl chyfnod cloi byr arall ym mis Tachwedd 2020, gwnaethom benderfynu arolygu ein Haelodaeth eto, i fesur naws ac effaith barhaus y pandemig ar y sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.

Dyma’r adroddiad hwnnw, sydd yn cyflwyno canlyniadau ein harolwg diweddaraf, a oedd ar agor rhwng Tachwedd 2020 ac Ionawr 2021. Diolch i bawb a gyfrannodd ato.

Arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cymru CGA

Mae arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar gyfer Cymru ar agor ar hyn o bryd.

Bydd yr arolwg yn cau ar y 9fed o Ebrill 2021.

Ar ôl cwblhau’r arolwg, byddai CGA yn ddiolchgar am eich cefnogaeth i hyrwyddo’r arolwg fel bod ymarferwyr eraill yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Dyma’r ddolen; https://www.ewc.wales/aga-ews/index.php/cy/ 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau o gwbl am yr arolwg, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r CGA, maent yn diolch ichi ymlaen llaw am eich cefnogaeth.