SWYDD WAG: Cydlynydd Sector Ieuenctid Taith

Rhaglen gyfnewid dysgu ryngwladol newydd Cymru yw Taith

Dymuna CWVYS recriwtio Cydlynydd ILEP y Sector Ieuenctid gyda chyfrifoldeb am amrediad o ddyletswyddau a phrosiectau. Ariennir y swydd hon trwy ILEP Limited a Llywodraeth Cymru.

Rydym yn chwilio am unigolyn medrus, a fydd yn sicrhau bod gan y sector ieuenctid yng Nghymru fynediad at wybodaeth a chymorth er mwyn cyfranogi mewn cyfleoedd rhyngwladol ac elwa ar alluoedd, safbwyntiau byd-eang ac ymgysylltiad cadarnhaol ymwelwyr rhyngwladol â Chymru.

Oriau gwaith:                                   37 yr wythnos

Hyd y cytundeb:                              1 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023                                                     

Cyflog:                                                £27,741

Yn atebol i:                                        Prif Weithredwr CWVYS

Man Gweithio:                                 Gweithio gartref (Mae swyddfa CWVYS ym Mae Caerdydd)

Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk  Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

Y dyddiad/amser cau i dderbyn ceisiadau yw 12 canol dydd am 28 Chwefror 2022.

Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.

Diolch am eich diddordeb.

Swydd Wag gyda CWVYS

CYNORTHWYYDD MARCHNATA A CHYFATHREBU

(DWYIEITHOG: CYMRAEG/SAESNEG)

2022/23

 

Oriau gwaith:                                   24 yr wythnos

Hyd y cytundeb:                              1 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023                                               

Cyflog:                                                £24,982 (£16,205 gwirioneddol)

Yn atebol i:                                       Prif Weithredwr CWVYS

Man Gweithio:                                Gweithio o gartref (Mae swyddfa CWVYS ym Mae Caerdydd)

 

Dymuna CWVYS recriwtio Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu, gan weithio ochr yn ochr â, ac yn gefnogaeth, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r sector gyda chyfrifoldeb am amrediad o ddyletswyddau a phrosiectau. Ariennir y swydd hon gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion marchnata a chyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid cyfan yng Nghymru.

Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk  Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

Y dyddiad/amser cau i dderbyn ceisiadau yw 2pm ar 28 Chwefror 2022.

Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.

Diolch am eich diddordeb.

Yn Cyflwyno Taith!

Dyma wybodaeth am rhaglen cyfnewidfa dysgu ryngwladol Cymru, oddi wrth y tim:

Yn Cyflwyno Taith,

Mae astudio, gwirfoddoli neu fynd ar leoliad gwaith dramor yn ehangu gorwelion pobl, yn ehangu eu sgiliau, ac yn dod â buddion i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru.

Trwy raglen newydd Taith – rhaglen cyfnewidfa dysgu ryngwladol, ein nod yw rhoi cyfle i ddysgwyr o bob oed ac o bob cefndir ledled Cymru elwa ar y cyfleoedd hyn.

Mae Taith yn ymgorffori ymagwedd ryngwladol ym mhob lefel o’n system addysg. Mae ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru, mewn pob math o addysg – ysgolion, addysg bellach a galwedigaethol, gwaith ieuenctid, addysg oedolion neu addysg uwch. Byddant nid yn unig yn datblygu eu sgiliau a’u profiad eu hunain, ond byddant hefyd yn llysgenhadon Cymru ar draws y byd a byddant yn atgyfnerthu’n neges fod Cymru’n edrych tuag allan, yn gydweithredol, ac yn agored i arloesedd addysgol.

Ac, yn gyfnewid, byddwn yn croesawu myfyrwyr, dysgwyr ac addysgwyr o bob rhan o’r byd i Gymru. Byddant yn cyfoethogi ein sectorau addysg ac ieuenctid â dulliau a syniadau newydd, ac yn dod â hyd yn oed rhagor o amrywiaeth a diwylliant i ystafelloedd dosbarth a champysau yn ein gwlad ddwyieithog.

Pwyntiau allweddol;

  • Rhaglen gyfnewid dysgu ryngwladol newydd Cymru yw Taith, sy’n creu cyfleoedd i deithio, gwirfoddoli, dysgu a chael profiadau all newid bywydau.
  • Bydd yn cefnogi 15,000 o bobl o Gymru i fanteisio ar gyfleoedd cyfnewid yn ystod y pedair blynedd gyntaf, a denu 10,000 o bobl o bob cwr o’r byd i ddod i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli neu weithio yng Nghymru.
  • Bydd y rhaglen yn agored i ddysgwyr, gwirfoddolwyr, a staff addysg o bob math.

Gwefan

Gallwch ddod o hyd iddynt ar y gyfryngau cymdeithasol, a allwch ddilyn nhw fel y gallant adeiladu eu cynulleidfa a bydd mwy o bobl yng Nghymru yn cael cyfle i glywed am y rhaglen newydd gyffrous hon.

#BydCyfleCymru 🌍

https://www.taith.cymru/