Dyma wybodaeth am rhaglen cyfnewidfa dysgu ryngwladol Cymru, oddi wrth y tim:

Yn Cyflwyno Taith,

Mae astudio, gwirfoddoli neu fynd ar leoliad gwaith dramor yn ehangu gorwelion pobl, yn ehangu eu sgiliau, ac yn dod â buddion i gymunedau a sefydliadau yma yng Nghymru.

Trwy raglen newydd Taith – rhaglen cyfnewidfa dysgu ryngwladol, ein nod yw rhoi cyfle i ddysgwyr o bob oed ac o bob cefndir ledled Cymru elwa ar y cyfleoedd hyn.

Mae Taith yn ymgorffori ymagwedd ryngwladol ym mhob lefel o’n system addysg. Mae ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru, mewn pob math o addysg – ysgolion, addysg bellach a galwedigaethol, gwaith ieuenctid, addysg oedolion neu addysg uwch. Byddant nid yn unig yn datblygu eu sgiliau a’u profiad eu hunain, ond byddant hefyd yn llysgenhadon Cymru ar draws y byd a byddant yn atgyfnerthu’n neges fod Cymru’n edrych tuag allan, yn gydweithredol, ac yn agored i arloesedd addysgol.

Ac, yn gyfnewid, byddwn yn croesawu myfyrwyr, dysgwyr ac addysgwyr o bob rhan o’r byd i Gymru. Byddant yn cyfoethogi ein sectorau addysg ac ieuenctid â dulliau a syniadau newydd, ac yn dod â hyd yn oed rhagor o amrywiaeth a diwylliant i ystafelloedd dosbarth a champysau yn ein gwlad ddwyieithog.

Pwyntiau allweddol;

  • Rhaglen gyfnewid dysgu ryngwladol newydd Cymru yw Taith, sy’n creu cyfleoedd i deithio, gwirfoddoli, dysgu a chael profiadau all newid bywydau.
  • Bydd yn cefnogi 15,000 o bobl o Gymru i fanteisio ar gyfleoedd cyfnewid yn ystod y pedair blynedd gyntaf, a denu 10,000 o bobl o bob cwr o’r byd i ddod i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli neu weithio yng Nghymru.
  • Bydd y rhaglen yn agored i ddysgwyr, gwirfoddolwyr, a staff addysg o bob math.

Gwefan

Gallwch ddod o hyd iddynt ar y gyfryngau cymdeithasol, a allwch ddilyn nhw fel y gallant adeiladu eu cynulleidfa a bydd mwy o bobl yng Nghymru yn cael cyfle i glywed am y rhaglen newydd gyffrous hon.

#BydCyfleCymru 🌍

https://www.taith.cymru/