GWEMINAR: Promo Cymru – Cynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyflwynir y gweminar yma gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Y Gymraeg, un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

​Un o brif argymhellion yr adroddiad Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru oedd y “Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai hefyd sicrhau mai un o flaenoriaethau allweddol y Corff Cenedlaethol fydd hyrwyddo gwasanaethau gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg.”

​ 

Rydym yn awyddus felly i ddarganfod mwy am y pethau da sydd yn digwydd ledled Cymru yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r sector fel y gall cyfrannu at ddatblygiad yr argymhelliad yma, ac agweddau eraill o’n gwaith.

​Byddem yn rhannu’r gwaith sydd yn digwydd ar lefel cenedlaethol yn y gweminar yma, llawer ohono yn newydd ac yn parhau i ddatblygu.  Byddem yn trafod y blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y gwaith a’r camau nesaf. 

Uchelgais GCG Y Gymraeg yw gweld fframwaith strategol yn datblygu a fyddai’n amlinellu’n  glir sut y byddai trawstoriad o sefydliadau yn cynllunio’n bwrpasol er mwyn cynyddu nifer y gwasanaethau gwaith ieuenctid sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg​. Rydym eisiau clywed felly gan amrywiaeth o sefydliadau er mwyn parhau i ddatblygu’r drafodaeth hon.  Rhennir esiamplau o ymarfer gorau a phrofiadau wrth ymateb i heriau yn ystod y gweminar, ac rydym yn awyddus i gasglu tystiolaeth bellach i gefnogi’r gwaith yma.

Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys: 

–  Lowri Jones, Menter Iaith Sir Caerffili – Cadeirydd GCG Y Gymraeg
– Iestyn Wyn, Llywodraeth Cymru
– Prosiect CFTi – Cyngor Dinas Caerdydd, Menter Caerdydd a’r Urdd
– GISDA
– Urdd Gobaith Cymru

​Bydd ail ran y gweminar yn cynnwys gweithdai mewn grwpiau llai i drafod y canlynol: 

– Sut gallwn gynllunio’n strategol, fel partneriaid, i gynyddu gwaith ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg?
– Beth yw rhai o’r cyfleoedd a’r rhwystrau posib?

​ 

​Croesawir Cyfarwyddwyr, Cydlynwyr, Penaethiaid Gwasanaethau a Phrif Weithredwyr sefydliadau sydd yn rheoli a chynllunio gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma.

Cofrestrwch heddiw: https://lu.ma/i2rizvem

07 Mawrth 2024

10 – 11:30yb

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn croesawu aelodau newydd i’w Fforwm Llysgenhadon Ieuenctid

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn croesawu aelodau newydd i’w Fforwm Llysgenhadon Ieuenctid (dyfedpowys-pcc.org.uk)

Ddydd Mercher 31 Ionawr, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn bobl ifanc o bob rhan o ardal yr Heddlu i Bencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, sydd wedi’u penodi’n aelodau newydd o gynllun Llysgenhadon Ieuenctid Dyfed-Powys, ac a fydd yn gweithio gyda’r Comisiynydd i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

Mae cyfanswm o naw o bobl ifanc (pum aelod newydd a phedwar aelod blaenorol) bellach yn aelodau o’r rhaglen Llysgenhadon Ieuenctid, sy’n amrywio o ran oedran o 15 i 24 oed, ac fe’u gwahoddwyd i Bencadlys yr Heddlu ar 31 Ionawr, ar gyfer sesiwn gynefino a sesiwn hyfforddi i’w cefnogi a’u paratoi i gynrychioli pobl ifanc o Bowys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Darparwyd yr hyfforddiant mewn partneriaeth â darlithwyr Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol o Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Sefydlodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn Fforwm Ieuenctid am y tro cyntaf yn 2018 gyda llysgenhadon ieuenctid ac mae wedi parhau i adeiladu ar y gwaith hyd yma, fel bod gan Dyfed-Powys Fforwm o Lysgenhadon Ieuenctid sy’n barod i ‘ddylanwadu’ a ‘herio penderfyniadau’, sicrhau bod gan gymunedau Dyfed-Powys Heddlu sy’n diogelu plant a phobl ifanc yn llwyddiannus ac yn hybu eu lles.

Llywodraeth Cymru i wahardd fêps tafladwy a chefnogi cynlluniau i godi oedran smygu

Llywodraeth Cymru i wahardd fêps tafladwy a chefnogi cynlluniau i godi oedran smygu | LLYW.CYMRU

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps tafladwy ac yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU i godi’r oedran smygu a chyfyngu ar werthu fêps.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad pedair gwlad ‘Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc’ heddiw (dydd Llun 29 Ionawr).

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Rhagfyr, a daeth 27,921 o ymatebion i law, 1,018 ohonynt o Gymru. Felly, bydd Llywodraeth y DU nawr yn cyflwyno Bil Tybaco a Fêps cyn gynted â phosibl a fydd yn cymryd camau i:

  • newid yr oedran gwerthu ar gyfer pob cynnyrch tybaco, papurau sigaréts a chynhyrchion smygu llysieuol fel na chaniateir gwerthu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un sydd wedi’i eni ar 1 Ionawr 2009 neu wedi hynny (a’u gwahardd rhag prynu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon yn yr Alban yn ogystal) ochr yn ochr â gwahardd gwerthiant procsi, a newid hysbysiadau rhybuddio
  • cyflwyno pwerau rheoleiddio i gyfyngu ar flasau, mannau gwerthu a phecynnu ar gyfer cynhyrchion fepio (nicotin a heb nicotin) yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr
  • cyflwyno pwerau gorfodi newydd ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer achosion o dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer tybaco a fêps (nicotin a heb nicotin) a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr