Hyfforddiant Am Ddim gyda Brook Cymru

Mae Brook Cymru yn cynnig addysg a hyfforddiant am ddim i weithwyr proffesiynol a phobl ifanc ar bynciau Pornograffi a Cham-drin Merched.

Yma gallwch ddod o hyd i fanylion am yr hyn maen nhw’n ei gynnig yn fanylach;

Os hoffech chi wybod mwy, cysylltwch â SouthWales.education@Brook.org.uk

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn eu Eventbrite i gael gwybod am eu cyfleoedd.

Mae’r hyfforddiant ar-lein am ddim nesaf ar bwnc Pornograffi a Delweddaeth Rywiol a Gynhyrchir gan Bobl Ifanc ar yr 20fed o Fai o 2.30 – 4.30pm, archebwch *yma*

Cyfleoedd a diweddariadau’r Comisiwn Etholiadol

Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn Etholiadol yn chwilio am sefydliadau i gynnal a hwyluso rhwydwaith llais ieuenctid o 2026-2030.

Mae hwn yn brosiect a ariennir a fydd yn rhedeg o 22 Mehefin 2026 i 31 Mawrth 2027, gyda’r posibilrwydd o estyniad i Fawrth 2030. Gall sefydliadau sydd â diddordeb ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

Hefyd, maent yn chwilio am gefnogaeth gan grwpiau ieuenctid i godi ymwybyddiaeth o’r etholiadau sydd ar ddod yng Nghymru lle mae pobl 16 oed yn gymwys i bleidleisio. Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan yma ac isod;Voter Info – social media template posts – May 2026 – WALES updated (1)

Rwy’n cysylltu’n uniongyrchol i ofyn am eich cefnogaeth i ymgysylltu â phobl ifanc ar gyfryngau cymdeithasol yn y cyfnod cyn diwrnod y pleidleisio yr wythnos nesaf. Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal ymchwil gwrando ar gyfryngau cymdeithasol, a chanfod dau gamsyniad cyffredin cyn etholiad y Senedd a oedd yn arbennig o gyffredin ymhlith pobl 16–24 oed:

• Mae 59% yn credu bod angen ID pleidleiswyr
• Mae 62% yn ansicr ynghylch y system bleidleisio rhestr gaeedig

Felly, rydym yn annog ein partneriaid sy’n gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru i ehangu negeseuon gwybodaeth i bleidleiswyr cyn diwrnod y pleidleisio ddydd Iau nesaf. Rhestrir rhai adnoddau a sianeli cymdeithasol defnyddiol isod:

• Podlediad a grëwyd gan Plant yng Nghymru
• Fideo esboniadol system rhestr gaeedig (ffeiliau crai)
• Sianel TikTok Comisiwn Etholiadol Cymru
• Senedd Explained (TikTok ac Instagram)
• Hansh Ddim Sbin (TikTok ac Instagram)
• Copi post cyfryngau cymdeithasol templed (uchod)

Os hoffech gydweithio â ni ar unrhyw gynnwys cyfryngau cymdeithasol, cysylltwch â ni.

Diolch yn fawr ymlaen llaw am eich cefnogaeth,

Ella

Ella Griffiths-Downing 
Uwch Gynghorydd Cyfathrebu
Y Comisiwn Etholiadol, Cymru
07770 703688 | 029 2034 6824
comisiwnetholiadol.org.uk

 

 

Arolwg Lleisiau dros Effaith a Phanel Ymgynghorol Cymru

🔎 Mae sefydliadau ieuenctid o bob cwr o’r DU ac Iwerddon wedi ymuno â’i gilydd i ddeall barn plant a phobl ifanc yn well.

Mae ein menter yn canolbwyntio ar gasglu a chwyddo eu lleisiau’n effeithiol, gan sicrhau bod eu mewnwelediadau’n llunio’r polisïau sy’n effeithio arnynt.

🎤 Dysgwch fwy a chymerwch ran yma; https://voicesforimpact.ai/

🎯 Drwy wneud hyn, rydym yn ymdrechu i eiriol dros fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau ieuenctid, gan sicrhau nad yw lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn unig ond eu bod yn ganolog i wneud penderfyniadau. Mae’r dull hwn yn tanlinellu rôl ragweithiol pobl ifanc fel aelodau gweithredol a dylanwadol o gymdeithas.

💻 Os ydych chi’n berson ifanc sydd eisiau ymuno â Phanel Ymgynghorol Cymru, gallwch gofrestru trwy dilyn y dolen yma;
https://tinyurl.com/mus8h263