Mae’n debyg eich bod eisoes yn ymwybodol y bydd y DU yn ailymuno â Rhaglen Erasmus+ pan fydd y rownd nesaf yn agor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach y gaeaf hwn neu yn y flwyddyn newydd.
I unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais ac sy’n chwilio am sefydliadau partner i gydweithio â nhw, fe welwch wahoddiad isod i sesiwn paru partneriaid ar gyfer ‘Key Action 1’ a ‘Key Action 2’ ym maes Ieuenctid.
Cynhelir y ddwy sesiwn ym mis Tachwedd: dydd Iau y 19eg a dydd Gwener yr 20fed.
Edrychwch isod os oes gennych ddiddordeb, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno cais erbyn y 6ed o Dachwedd.
Gwahoddiad: Digwyddiadau Paru Partneriaid Ieuenctid Erasmus+ 2027
Rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiadau Paru Partneriaid Ieuenctid Erasmus+ 2027; dau ddigwyddiad ar-lein am ddim ar gyfer sefydliadau yn y DU a gwledydd eraill yn Ewrop sy’n gweithio ym maes ieuenctid. Bydd y digwyddiadau yn eich helpu i ddod o hyd i bartneriaid sy’n gweithio ar bynciau tebyg ac i drafod syniadau prosiect ar gyfer Galwad 2027.
- KA1 Ieuenctid (KA152, KA153, KA154, KA155): Dydd Iau, 19 Tachwedd 2026, 16:00–19:00 CET (15:00–18:00 amser y DU).
- KA2 Ieuenctid (KA210-YOU, KA220-YOU): Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026, 16:00–19:00 CET (15:00–18:00 amser y DU).
Cynhelir y ddau ddigwyddiad ar Zoom, gyda stafelloedd trafod thematig ar gyfer paru partneriaid a chyflwyno syniadau prosiect. Gallwch gofrestru ar gyfer un neu’r ddau ddigwyddiad gan ddefnyddio’r ddolen https://forms.gle/xZ3WiCEkxnHtiV88A erbyn 6 Tachwedd 2026 am 23:59 CET (22:59 amser y DU).
Byddwn yn adolygu pob cofrestriad ac yn anfon cadarnhad drwy e-bost gyda’r ddolen Zoom o fewn 10 diwrnod. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim ac yn cael eu trefnu’n annibynnol gan SUMA; nid ydynt yn ddigwyddiadau swyddogol gan y Comisiwn Ewropeaidd na’r Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+.
Cofion gorau,
Leo Fel, Is-lywydd
SUMA – Cymdeithas ar gyfer Datblygu Cynaliadwy
info@udrugasuma.hr