Swyddi Wag gyda Aelodau CWVYS

Ar hyn o bryd mae 3 swydd wag gyda Viva LHDTC+ , sydd bellach yn rhan o The YEW Collective, maen nhw’n chwilio am bobl i recriwtio;

Arweinydd Viva LHDTC+ Arweinydd Viva Lead
Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Gweithiwr Cymorth Gwaith Ieuenctid Viva Youth Work Support Worker
Gweithiwr Ieuenctid Allgymorth LHDTC+ Gweithiwr Ieuenctid LHDTC+ Allgymorth Viva LGBTQ+ Outreach Youth Worker

Y dyddiad cau ar gyfer pob swydd wag yw’r 10fed o Awst.

Mae Chwarae Cymru yn recriwtio;

Swyddog Polisi; https://chwarae.cymru/work_with_us/swyddog-polisi/

Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog; https://chwarae.cymru/work_with_us/swyddog-cyfathrebu-dwyieithog/

Y dyddiad cau ar gyfer y ddau yw’r 14eg o Fedi

Tîm Hanner Marathon Caerdydd CBM Cymru

Mae gan Glybiau Bechgyn a Merched Cymru ychydig o leoedd ar gael o hyd ar gyfer eu tîm Hanner Marathon Caerdydd.

Drwy ymuno â nhw, bydd pob cam rydych chi’n ei redeg a phob punt rydych chi’n ei godi yn helpu i greu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru ddatblygu hyder, meithrin cysylltiadau a mwynhau profiadau cadarnhaol. Yn eu geiriau nhw;

Gallai eich codi arian helpu i ddarparu:
• £20 – Penwythnos antur i bobl ifanc yn ein canolfan breswyl, The Lodge
• £50 – Offer chwaraeon newydd ar gyfer clwb ieuenctid lleol
• £250 – Lle ar ein cwrs Arweinwyr Ifanc, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a hyder
• £500 – Hyfforddiant i chwe gweithiwr ieuenctid gwirfoddol i gefnogi pobl ifanc yn well
• £2,000 – Cefnogi 12 o bobl ifanc i gymryd rhan yn Her Canŵio 100 milltir

Mae pob cyfraniad yn ein helpu i barhau i ddarparu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

 diddordeb mewn ymuno â Thîm BGC Cymru? Cwblhewch ein ffurflen mynegiant o ddiddordeb neu sganiwch i god QR i sicrhau eich lle. Cynhelir Hanner Marathon Caerdydd 2026 ar y 4ydd o Hydref.

Lleisiau dros Effaith; Helpwch pobl ifanc i ddweud eu dweud

Lleisiau dros Effaith

Helpwch pobl ifanc i ddweud eu dweud – a chael cyfle i ennill taleb Amazon gwerth £175!

Rydym yn annog sefydliadau ieuenctid, cymunedol, gwirfoddol a statudol i gefnogi pobl ifanc 9–25 oed i gwblhau arolygon ar blatfform Voices for Impact.

Bydd y sefydliad gyda’r nifer uchaf o arolygon wedi’u cwblhau erbyn 18 Medi yn ennill taleb Amazon gwerth £175.

Dim ond ychydig funudau y mae arolygon yn eu cymryd ac maent yn ymdrin â materion pwysig gan gynnwys:

Cymdeithas Decach

Cymdeithas Ddiogelach

Mynediad Digidol

Y Blaned

Iechyd a Lles Da

Dysgu, Sgiliau a Gwaith

Trafnidiaeth Gyhoeddus

 

Mae pob arolwg wedi’i gwblhau yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth gryfach ac yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn penderfyniadau yn y dyfodol.

👉 Cofrestrwch eich sefydliad yma: https://voicesforimpact.ai/submit-your-group/

Eisoes wedi cofrestru? Mewngofnodwch a dechreuwch annog pobl ifanc i gymryd rhan heddiw.

CCB CWVYS Diolch i bawb am fynychu

Yn gyntaf, roedden ni eisiau diolch i bawb a fynychodd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Gwener diwethaf.

Yn bersonol roeddwn i eisiau diolch i’n Prif Weithredwr Paul a’n Swyddog Cyllid a Gweinyddu Sarah am drefnu popeth, yn ogystal â’r ymddiriedolwyr a’r swyddogion sy’n cadw popeth i fynd o blwyddyn I flwyddyn.

Hwn oedd fy hoff Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol hyd yn hyn (dw i wedi bod yn CWVYS dros 10 mlynedd!) diolch i raddau helaeth i gyflwyniad gwych a sesiwn Holi ac Ateb gyda Catherine Carr ar ei gwaith yn casglu barn a phrofiadau pobl ifanc. Gofynnodd llawer o staff ar draws ein rhwydwaith aelodau gwestiynau gwych iddi ac roedd yn drafodaeth ddiddorol ac ysgogol.

Gallwch ddysgu mwy am Catherine a’i phodlediad yma; https://www.relativelypodcast.com/

Ei llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar; https://www.madeleinemilburn.co.uk/book/whos-the-favourite/

A’i dwy Gyfres BBC wych;