Lleisiau dros Effaith
Helpwch pobl ifanc i ddweud eu dweud – a chael cyfle i ennill taleb Amazon gwerth £175!
Rydym yn annog sefydliadau ieuenctid, cymunedol, gwirfoddol a statudol i gefnogi pobl ifanc 9–25 oed i gwblhau arolygon ar blatfform Voices for Impact.

Bydd y sefydliad gyda’r nifer uchaf o arolygon wedi’u cwblhau erbyn 18 Medi yn ennill taleb Amazon gwerth £175.
Dim ond ychydig funudau y mae arolygon yn eu cymryd ac maent yn ymdrin â materion pwysig gan gynnwys:
Cymdeithas Decach
Cymdeithas Ddiogelach
Mynediad Digidol
Y Blaned
Iechyd a Lles Da
Dysgu, Sgiliau a Gwaith
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae pob arolwg wedi’i gwblhau yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth gryfach ac yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn penderfyniadau yn y dyfodol.
👉 Cofrestrwch eich sefydliad yma: https://voicesforimpact.ai/submit-your-group/
Eisoes wedi cofrestru? Mewngofnodwch a dechreuwch annog pobl ifanc i gymryd rhan heddiw.