Staff newydd yn CWVYS

Bydd dau aelod newydd o staff yn ymuno â thîm CWVYS ar 1 Ebrill:

 

Branwen fel Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu (rhan amser), yn gweithio ochr yn ochr ag Ellie Parker: branwen@cwvys.org.uk

 

Kath fel Cydlynydd Sector Ieuenctid Taith (llawn amser) ar ran Consortiwm Sector Ieuenctid Taith: kathryn@cwvys.org.uk

 

Tra byddant wedi’u lleoli yn CWVYS, bydd y ddwy rôl yn cefnogi’r sector gwaith ieuenctid cyfan yng Nghymru.

Ni’n gwybod byddwch yn ymuno â ni i groesawu Branwen a Kath.

Gwobrau Heddychwyr Ifanc

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), Maint Cymru a CWVYS yn gweithio gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu plant a phobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch, cyfiawnder hinsawdd a chydraddoldeb yn eu hysgol, grŵp ieuenctid, cymuned leol neu yn y byd ehangach.
Rydym yn cydweithio i gynnal Seremoni Wobrwyo Heddychwyr Ifanc yn yr Eisteddfod ar 7 Gorffennaf 2022, lle bydd pobl ifanc yn derbyn tystysgrif a gwobr.
Gobeithio y caiff plant a phobl ifanc (rhwng 5 a 25 bl. oed) eu hysbrydoli i fod yn greadigol ac i fynegi eu syniadau am sut y gall y byd fod yn fwy heddychlon, cyfiawn a chynaliadwy ar ôl COVID19 – ar ffurf geiriau, celf neu’n ddigidol.
Gall pobl ifanc unigol neu grwpiau gyflwyno ceisiadau o dan y categorïau canlynol:

  • Heddychwr Ifanc y flwyddyn
  • Awdur Heddwch Ifanc y flwyddyn
  • Artist Heddwch Ifanc y flwyddyn
  • Hyrwyddwr Hinsawdd Ifanc y flwyddyn
  • Dinesydd Byd-eang Ifanc y flwyddyn
  • Hyrwyddwr Treftadaeth Heddwch y flwyddyn
  • Heddychwr Ifanc Rhyngwladol (yn agored hefyd i bobl ifanc o’r tu allan i Gymru):

Mae hi hefyd yn dderbyniol i enwebu rhywun arall, gyda’u caniatâd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 10 Mehefin, 2022.

Medrwch weld y telerau a’r amodau am y Gwobrau ar yma, yn ogystal â’r ffurflen gais.  Anfonwch eich ceisiadau at  centre@wcia.org.uk.

Taith – gweminar ar y ffurflen cais ar gyfer Ieuenctid

Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd Cymru.

Hoffech chi wybod mwy am Raglen Taith a beth sydd ar gael i’r sector Ieuenctid?

Mae gan y tîm Taith y digwyddiad i chi; https://www.taith.cymru/digwyddiadau/#application-support-youth

Beth am ymuno â’r weminar sydd yn edrych ar y ffurflen gais yn fanwl, cynnig cymorth ymgeisio i fudiadau ieuenctid a mynd i’r afael â chwestiynau ansoddol.

Dydd Iau nesaf, 24ain Mawrth 2022 am 3pm

Bydd Taith yn cynnig cyllid a chefnogaeth i fudiadau ieuenctid ledled Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd heb unrhyw brofiad neu brofiad cyfyngedig o symudedd rhyngwladol.

Bydd y sesiwn yn cael ei chyflwyno yn Saesneg, ond rhowch wybod i’r tîm ymlaen llaw os hoffech ofyn cwestiynau yn Gymraeg ac fe fyddan nhw’n trefnu cyfieithu ar y pryd.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a Taith cysylltwch a ymholiadautaith@caerdydd.ac.uk

Bydd yn ddigwyddiad rhithwir ar blatfform Teams, gallwch gofrestru yma.

Os na allwch fynychu, bydd y sesiynau’n cael eu recordio.

 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau cymwys, hyd a chyfraddau grant, gweler Canllawiau Rhaglen Taith

Digwyddiadau Taith

Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd Cymru.

Hoffech chi wybod mwy am Raglen Taith a beth sydd ar gael i’r sector Ieuenctid?

Mae gan y tîm Taith y digwyddiad i chi; https://www.taith.cymru/digwyddiadau/#intro-in-youth

 

Beth am fynd i “Cyflwyniad i Taith mewn Ieuenctid” ar Dydd Mercher y 16fed of Fawrth 2022 am 2pm

Mae’r gweminar hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau Ieuenctid Cymru i ddysgu mwy am y cyfleoedd a ariennir o dan Taith.

Bydd Taith yn cynnig cyllid a chefnogaeth i fudiadau ieuenctid ledled Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd heb unrhyw brofiad neu brofiad cyfyngedig o symudedd rhyngwladol.

Bydd y sesiwn yn cael ei chyflwyno yn Saesneg, ond rhowch wybod i’r tîm ymlaen llaw os hoffech ofyn cwestiynau yn Gymraeg ac fe fyddan nhw’n trefnu cyfieithu ar y pryd.

 

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a Taith cysylltwch a ymholiadautaith@caerdydd.ac.uk

Bydd yn ddigwyddiad rhithwir ar blatfform Teams, gallwch gofrestru yma.

Os na allwch fynychu, bydd y sesiynau’n cael eu recordio.

 

Bydd digwyddiad arall yn ystod yr wythnosau nesaf yn edrych ar y ffurflen ei hun yn fanwl.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau cymwys, hyd a chyfraddau grant, gweler Canllawiau Rhaglen Taith

Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu SWYDD WAG

Oriau gwaith:                                     24 yr wythnos

Hyd y cytundeb:                                1 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023                                             

Cyflog:                                                £26,511 (£17,196 gwirioneddol)

Yn atebol i:                                        Prif Weithredwr CWVYS

Man Gweithio:                                   Gweithio gartref (Mae swyddfa CWVYS ym Mae Caerdydd)

Dymuna CWVYS recriwtio Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu, gan weithio ochr yn ochr â, ac yn gefnogaeth, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r sector gyda chyfrifoldeb am amrediad o ddyletswyddau a phrosiectau. Ariennir y swydd hon gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion marchnata a chyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid cyfan yng Nghymru.

Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk  Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

Y dyddiad/amser cau i dderbyn ceisiadau yw 2pm ar 11 Mawrth 2022.

Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.

Diolch am eich diddordeb.