Ymgynghoriad ar y canllawiau drafft: Bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched – Ofcom

Ymgynghoriad ar y canllawiau drafft: Bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched – Ofcom

Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft sy’n nodi naw maes lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed, a chefnogi eu defnyddwyr.

Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gwneud llwyfannau – gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau gemau, apiau cwrdd â chariad, fforymau trafod a pheiriannau chwilio – yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy’n niweidiol i blant, gan gynnwys niwed sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched.

Mae Ofcom eisoes wedi cyhoeddi codau a chanllawiau asesu risg terfynol ar sut maen’t yn disgwyl i lwyfannau fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon; byddyn nhw’n cyhoeddi ei codau a’n canllawiau terfynol ar amddiffyn plant maes o law. Ar ôl i’r dyletswyddau hyn ddod i rym, rôl Ofcom fydd dal cwmnïau technoleg i gyfrif, gan ddefnyddio grym llawn ei pwerau gorfodi lle bo angen.

Hefyd mae’n ofynnol bod Ofcom yn cynhyrchu canllawiau sy’n nodi sut y gall darparwyr gymryd camau yn erbyn y cynnwys a’r gweithgarwch niweidiol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, er mwyn cydnabod y risgiau unigryw y maent yn eu hwynebu.

Mae ei canllawiau drafft yn nodi naw maes lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed, a chefnogi eu defnyddwyr.

https://www.ofcom.org.uk/cy/online-safety/illegal-and-harmful-content/a-safer-life-online-for-women-and-girls/?language=cy

Alun Michael OBE yn ymuno â CWVYS fel Llywydd

Mae’r Gwir Anrhydeddus Alun Michael OBE YH OStJ PC FRSA wedi cytuno i gymryd rôl Llywydd CWVYS ar unwaith.

Mae gan Alun yrfa hir o wasanaeth cyhoeddus, bu’n Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref ac yn 1997 cyflwynodd Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, Timau Troseddau Ieuenctid a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.
Bu’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1998 a 1999 ac yna fel Prif Ysgrifennydd cyntaf Cymru (a adwaenid yn ddiweddarach fel Prif Weinidog) ac Arweinydd Llafur Cymru rhwng 1999 a 2000.
Yn fwyaf diweddar bu’n gwasanaethu fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru rhwng 2012 a 2024.

Drwy gydol ei yrfa mae wedi bod yn eiriolwr dros blant a phobl ifanc, ac mae wedi’i gofnodi fel cefnogwr ers tro dros bleidleisiau i bobl ifanc 16 oed, a hyd yn oed ar un adeg yn awgrymu y dylai pobl ifanc 14 oed bleidleisio a chael eu cyflwyno i’r system ddemocrataidd tra’n parhau i gael eu cefnogi mewn addysg.

Ers ymddeol o’i swydd gyhoeddus mae Alun wedi dod yn Llysgennad dros Gweithredu dros Blant ac mae’n gefnogwr brwd o’u gwaith i fynd i’r afael â chamfanteisio’n droseddol ar blant.

Rydym yn croesawu’r wybodaeth a’r ymroddiad y bydd Alun yn dod i’w rôl fel ein Llywydd newydd, croeso cynnes i ti Alun!