Newyddion Da!

Rydym am anfon cylchlythyr arbennig o’r enw Newyddion Da yn gynnwys gwybodaeth am rai o’r prosiectau rhyngwladol anhygoel y mae ein Haelodau wedi bod yn rhan ohonynt yn ddiweddar.

Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig gweld rhai o’r teithiau rydych chi wedi gallu mynd â phobl ifanc arnynt a’r rhan orau o’m swydd yw clywed am gyfleoedd fel y rhain, na fyddai’n bodoli heb ein grwpiau ieuenctid diflino ledled Cymru yn gwneud cais am gyllid, yn trefnu ac yn gofalu am eich pobl ifanc cyn, yn ystod ac ar ôl eich teithiau!

A dweud y gwir, ar ôl yr haf swrrealaidd a gawsom (torri records am y rhesymau anghywir), a’r amseroedd ansicr sydd o’n blaenau, rwy’n credu bod ychydig o newyddion da yn mynd yn bell mewn hinsawdd fel ein byd ni ar hyn o bryd.

Felly anfonwch eich straeon, eich postiadau, eich lluniau ataf i helen@cwvys.org.uk

Helpwch ProMo Cymru recriwtio phobl ifanc ar gyfer brosiect ymchwil cenedlaethol newydd

Mae gan ProMo Cymru brosiect ymchwil cenedlaethol newydd ac mae’n chwilio am bobl i ymuno â Phanel Profiad Byw i helpu i’w arwain.

Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl “mynediad agored” newydd Cymru, sy’n anelu at ganiatáu i bobl ddewis y gefnogaeth maen nhw ei eisiau a chael cymorth ar yr un diwrnod ag y maen nhw’n gofyn amdano.

Byddem wrth ein bodd yn cael eich cefnogaeth i rannu’r cyfle hwn gydag unrhyw gysylltiadau proffesiynol rydych chi’n eu hadnabod a allai ddosbarthu hwn gyda’u cymunedau. Mae’r paneli ar agor i’r rhai 14+ oed a byddant yn cynnwys grŵp pobl ifanc (14-20) a grŵp oedolion (18+).

Bydd angen i bob cyfranogwr sydd â diddordeb hefyd fod â:
• profiad o anawsterau iechyd meddwl
• defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl y GIG, neu geisio cael mynediad at gymorth

A allech chi anfon y cyfle at eich cysylltiadau cyn gynted â phosibl? Mae ceisiadau’n cau 27 Medi.

Mae’r dolenni i’r cyfle yma:
Saesneg
Cymraeg

Rwyf hefyd wedi atodi graffeg y gellir eu rhannu.

PDF CYM OAMHS Recruitment Adults Graphic

PDF CYM OAMHS Recruitment YP Graphic

PDF ENG OAMHS Recruitment Adults Graphic

PDF ENG OAMHS Recruitment YP Graphic

Diweddariad ar y Pasbort Dysgu Proffesiynol

Gwelwch isod neges wrth ein cydweithwyr yn y Llywodraeth Cymru:

Yn dilyn sefydlu Dysgu, ein corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, rydym wedi penderfynu y bydd cyfrifoldeb am y PDP yn trosglwyddo o Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i Dysgu o fis Medi 2028. Hoffem ddiolch i’r CGA am ddatblygu a chynnal y PDP hyd yma.

Mae rhaglenni Dysgu yn canolbwyntio ar ymarferwyr ysgolion. Fodd bynnag, o ran y PDP yn benodol, bydd Dysgu yn gallu darparu gwasanaethau ar gyfer ymarferwyr eraill os mai dyna fydd yr opsiwn a ffefrir sy’n deillio o’r broses ddarganfod ac ymgysylltu.

Yr uchelgais y tu ôl i’r newid hwn yw parhau i gefnogi myfyrio, ymholi a thaith ddysgu broffesiynol gydlynol drwy gydol gyrfa ymarferwr, gan sicrhau aliniad agosach â’r trefniadau ehangach ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio’n agos gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a defnyddwyr er mwyn sicrhau bod trefniadau’r dyfodol yn diwallu anghenion y gweithlu addysg, yn ogystal â rhaglenni a gweithgareddau sy’n defnyddio’r PDP ar hyn o bryd. Felly, rydym ar ddechrau proses ddarganfod ac ymgysylltu, lle byddwn yn gweithio gyda chi mewn ffordd gydweithredol i ddeall y defnydd presennol, nodi gofynion y dyfodol ac ystyried y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r newid arfaethedig cyn mis Medi 2028.

Nid oes unrhyw newidiadau i ddefnyddwyr y PDP ar hyn o bryd, ac un o’n prif flaenoriaethau fydd sicrhau parhad gwasanaeth drwy gydol y cyfnod pontio. Rydym yn cydnabod y bydd rhai rhaglenni a gweithgareddau sy’n cael eu cefnogi drwy’r PDP ar hyn o bryd yn parhau y tu hwnt i fis Medi 2028, a byddwn yn gweithio’n agos gyda darparwyr a chyfranogwyr perthnasol i sicrhau bod trefniadau pontio priodol yn cael eu rhoi ar waith. Bydd gwasanaethau’r dyfodol ar ôl mis Medi 2028 yn dibynnu ar adborth gan ddefnyddwyr a rhanddeiliaid eraill.

I gefnogi’r gwaith hwn, mae Atodiad 1 (ynghlwm) yn amlinellu cynllun prosiect lefel uchel drafft ar gyfer y trosglwyddiad, a fydd yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun yn parhau i gael ei fireinio yn ystod y cyfnod darganfod wrth i drefniadau llywodraethu, rolau a chyfrifoldebau, a cherrig milltir allweddol gael eu datblygu.

Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am weithgareddau ymgysylltu arfaethedig a chyfleoedd i gyfrannu maes o law.

Yn y cyfamser, mae croeso i chi rannu’r wybodaeth ddiweddaraf hon gyda chydweithwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, cysylltwch ag IsadranYmarferwyrYsgolion@llyw.cymru.

Diolch am eich cefnogaeth a’ch cyfranogiad yn y gwaith pwysig hwn.

Yn gywir

Is-adran Ymarferwyr Ysgolion

Ymgyrch newydd ASH Cymru i gefnogi pobl ifanc i archwilio a deall y materion sy’n ymwneud ag ysmygu.

Croeso i’r Nicofiends! Dysgwch fwy gan ASH yn eu geiriau nhw yma;

A all eich pobl ifanc weld Nicofiend? Mae Nicofiends yn ymgyrch greadigol ASH Cymru sy’n dod â’r pwysau sy’n ymwneud ag ysmygu, anweddu a nicotin yn fyw.

Trwy weithgareddau, gemau a heriau creadigol am ddim, mae pobl ifanc yn archwilio pethau fel ffitio i mewn, heriau, straen, diflastod, marchnata a dylanwad ar-lein, yna’n troi’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn rhywbeth creadigol.
Gall ysgolion, grwpiau ieuenctid, clybiau, sefydliadau cymunedol a theuluoedd ledled Cymru gymryd rhan, gydag adnoddau ar gyfer gwahanol oedrannau a chystadleuaeth genedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc 4–17 oed.

Dewch o hyd i’r adnoddau a’r gystadleuaeth am ddim yn https://ash.wales/nicofiends/

Neu lawrlwythwch eu pdf defnyddiol i ddysgu mwy; Nicofiends Pecyn Cyfathrebu

AROLWG LLAIS AELODAU 2026

Rydym eisiau clywed gennych

Fel aelod o CWVYS, mae eich barn yn bwysig iawn i ni. Rydym am ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda, beth y gallem ei wella, a beth yr hoffech ei gael o’ch aelodaeth o CWVYS.

Bydd yr *arolwg byr hwn* yn cymryd tua 3–5 munud i’w gwblhau.

Bydd eich adborth yn ein helpu i lywio ein cyfathrebu, ein gwasanaethau i aelodau a’n blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Nid oes atebion cywir nac anghywir – rydym wir eisiau clywed eich barn, gan gynnwys yr hyn y gallem ei wneud yn well.

Diolch am gymryd yr amser i rannu eich barn ac am fod yn rhan o CWVYS.

Y dyddiad cau i ymateb yw 11/9/26